top of page
Oes Angen 'Digital Detox' Arna Ti?
gan Donna Davies

I fod yn onest - y tro diwethaf wnest ti dreulio amser gyda dy ffrindiau, o ti wirioneddol yno?
Sawl un ohonom sydd wedi bod yn hanner gwrando ar ffrind yn siarad am ei drama gariad ddiweddaraf, wrth sgrolio drwy’r ffôn ar yr un pryd? Rydyn ni i gyd wedi gwneud hynny, yn nodio pen ar yr adegau cywir, ond mewn gwirionedd yn gwylio fideo TikTok sy'n trendio neu’n pori drwy luniau o ben-blwydd y ferch boblogaidd.
Mae gan bawb ffôn symudol y dyddiau hyn, ac er eu bod nhw’n anhygoel mewn cymaint o ffyrdd, yn ein helpu i gadw mewn cysylltiad â’n teulu a ffrindiau, gwylio fideos sy’n gwneud i ni chwerthin, ac yn dysgu pethau newydd ar YouTube, does dim amheuaeth eu bod nhw’n gallu cymryd drosodd os na fyddwn ni’n ofalus.
Pan rwyt ti’n sgrolio drwy’r amser, mae dy feddwl yn cael ei lenwi â channoedd o luniau, fideos a darnau o wybodaeth ar yr un pryd. Mae’r ymennydd yn gorfod gweithio’n galed i brosesu’r cyfan, ac mae hynny’n gallu gwneud i ti deimlo’n flinedig, yn niwlog, ac weithiau’n dipyn o granc.
Mae gormod o sgrolio’n effeithio ar sut rydyn ni’n meddwl, yn ymlacio ac yn cysgu, sydd dim yn wych pan wyt ti’n trio cadw dy lygaid ar agor ac yn canolbwyntio yn ystod y dydd! Mae hefyd yn gallu newid dy hwyliau. Efallai dy fod ti wedi teimlo’n cael dy adael allan oherwydd nad wnest ti gael gwahoddiad i ddigwyddiad, neu’n genfigennus oherwydd bod y bachgen rwyt ti’n hoffi wedi mynd allan gyda rhywun arall. Tase ti ddim ar dy ffôn, efallai na fyddet ti hyd yn oed wedi gwybod, a bydde ti wedi canolbwyntio ar yr hyn sy’n digwydd o dy flaen di, gan deimlo’n hapusach o ganlyniad. Paid â gadael i fywyd go iawn fynd heibio tra bo ti’n mwynhau bywyd digidol!
Y newyddion da? Nid oes rhaid i “digital detox” olygu dileu pob ap neu fwrw dy ffôn trwy’r ffenestr! Mae’n golygu cymryd seibiau bach o’r sgrin fel bod dy feddwl yn cael cyfle i... wel, meddwl! Boed hynny’n hanner awr, cwpl o oriau neu noson gyfan, mae rhoi amser i ffwrdd o’r ffôn yn helpu i ti deimlo’n dawelach, yn gliriach ac yn rhoi rheolaeth o dy fywyd yn ôl yn dy ddwylo di.


Mae’n ymwneud â bod yn fwy bwriadol. Y tro nesaf rwyt ti’n codi dy ffôn, gofynnwch i ti dy hun; ydw i wir angen gwirio rhywbeth (fel tecstio mam i ddweud pa amser fydde ti adre am swper!), neu ydw i jyst yn sgrolio o arfer?
Bydda yn bresennol yn y funud. Y tro nesaf rwyt ti gyda dy ffrindiau neu dy deulu, ceisia hyn: gwnewch gytundeb i roi’ch ffonau i gyd mewn un lle - allan o’r golwg, allan o’r cof. Dim tynnu sylw, dim hanner gwrando, jyst cysylltu’n iawn â’ch gilydd.
Byddi di’n sylwi mor fwy pleserus yw treulio amser gyda phobl pan fydd pawb yn bresennol. Bydd y sgyrsiau’n llifo’n haws, bydd y chwerthin yn swnio’n fwy hael, a byddi di’n dechrau sylwi ar y pethau bach eto - pa mor gynnes yw’r haul ar dy wyneb, pa mor flasus yw’r siocled, a pha mor hyfryd yw bod gyda dy ffrindiau.
Pan wyt ti’n bresennol, nid wyt ti jyst yn bodoli - rwyt ti’n byw go iawn.
​
bottom of page







