top of page
O Gymru i India:
Taith Gwirfoddoli

Enlli Davies
Pan fyddwch chi’n aelod o’r Urdd, mae gymaint o gyfleoedd ar gael i chi. Perfformio ar lwyfan, bod yn rhan o glwb pêl-droed neu, os yda chi’n lwcus ofnadwy, taith fythgofiadwy i India.
Mae criw o ddeg merch newydd ddychwelyd i Gymru wedi cyfnod o wirfoddoli dramor gyda’r Urdd mewn cyd-weithrediad gydag elusen “Her Future Coalition”, elusen sydd yn gweithio tuag at atal trais yn erbyn merched a hynny drwy addysg.
Un o Fala ydi Enlli Davies, ac mae hi’n hynod o falch o wedi bod yn rhan o’r siwrnai yma.
“Dwi’n hynod o gyffrous i gael profiadau diwylliant cyfoethog India. Dwi wrth fy modd yn cwrdd â phobl newydd o wahanol gefndiroedd ac felly yn edrych ymlaen at ddysgu mwy a chefnogi menywod a phobl ifanc India. Mae’n fraint cael bod yn rhan o’r prosiect anhygoel yma ac rwyf yn benderfynol i wneud gwahaniaeth cadarnhaol.”
Yn gwmni i Enlli mae Mabli John o Gaerdydd;
“Rwy’n teimlo’n lwcus iawn i fod yn rhan o’r daith ac i allu cefnogi elusen mor bwysig - Her Future Coalition. Mae’r cyfle i helpu mewn cymuned yn werthfawr, ac mae’r gallu i brofi diwylliant gwahanol yn exciting iawn i fi.”
Mae gwirfoddoli yn bwysig iawn i Enlli, sydd eisoes yn hen law ar helpu eraill.
“Mae gwirfoddoli yn hynod bwysig, gall fod yn rhywbeth mawr fel teithio dramor i gefnogi prosiect, neu rywbeth syml fel rhoi amser i’ch cymuned leol. Mae pob gweithred o wirfoddoli yn cyfrannu at greu newid positif,” meddai. “Credaf fod gwirfoddoli yn bwysicach nag erioed heddiw, yn enwedig wrth i’r cyfryngau fod yn feirniadol tuag at leiafrifoedd. Mewn cyfnodau anodd, mae’n hanfodol ein bod yn sefyll gyda’n gilydd a dangos cefnogaeth.
“Roedd gwirfoddoli fel Llysgennad Coleg Cymraeg yn brofiad gwerthfawr iawn i mi. Nid yn unig y cefais gyfle i hyrwyddo’r Gymraeg, ond hefyd sylweddolais faint o gyfleoedd mae’r iaith yn ei gynnig! Ers dod i’r Brifysgol, rwyf wedi bod yn cymryd rhan mewn rasys elusennol er mwyn codi ymwybyddiaeth a chasglu arian. Credaf fod gwirfoddoli yn adlewyrchu cymeriad brwdfrydig ac empathig. Yn y dyfodol rwyf eisiau gweithio mwy gydag elusennau, dwi’n falch iawn o gael cefnogi’r elusen hollbwysig ‘Her Future Coalition’ gyda’r Urdd!”

Mabli John

Does dim dwywaith bod Mabli o’r un farn, yn credu bod gwirfoddoli yn cynnig cyfleoedd unigryw wrth wneud gwahaniaeth positif i fywydau eraill.
“Mae gwirfoddoli mor bwysig i helpu eraill ac i gael effaith bositif ar fywydau pobl, yn enwedig pobl mewn angen. Hefyd mae e mor bwysig i helpu datblygiad person. Mae gwirfoddoli yn rhoi persbectif gwahanol ar fywyd, mae’n gyfle i gael profiadau unigryw a gwerthfawr gall gael eu defnyddio trwy gydol bywyd,” esboniai, cyn mynd ymlaen i egluro mwy am ei gwaith gwirfoddoli yn y gorffennol gyda phlant ag anableddau dysgu. “Mae e wedi bod o fudd enfawr i mi, o ddatblygu sgiliau cymdeithasol i ddysgu am gefndiroedd pobl wahanol. Mae fy mrwdfrydedd dros helpu eraill wedi tyfu oherwydd fy ngwaith gwirfoddoli, ac mae e wedi helpu gyda dewis fy llwybr gyfra. Ar ran bersonol, rwyf wedi dysgu cymaint am fy hun a fy ngwerthoedd personol wrth wirfoddoli ac mae wedi helpu i fi dyfu fel person a rhoi persbectif ar fy mywyd.”
bottom of page