top of page
04.png

Lucy Borja:
Steil ei Hun

05.png

Sut vibe y byddi di’n dilyn y Gwanwyn yma? Ymlaciol, llyfn, di-straen siŵr o fod? Wel, os wyt ti ffansi cerddoriaeth i gyd-fynd gyda dy gynlluniau ar gyfer gwneud y mwyaf o’r tywydd braf, yna hoffwn dy gyflwyno di i Lucy Borja!

Er megis mentro i fyd cyhoeddi ei cherddoriaeth ei hun mae Lucy, mae cerddoriaeth wedi bod yn rhan annatod o’i bywyd. “Dwi’n canu ers i mi gael fy ngeni! O wnes i ysgrifennu fy nghân gyntaf i tua 9 i 10 mlynedd yn ôl,” meddai.

Mae gan ei cherddoriaeth ei naws ei hun sydd yn ei gosod mewn categori unigryw iawn ar y sin miwsig yng Nghymru. Gyda Sage Todz yn ysbrydoliaeth a blynyddoedd o brofiad ysgrifennu ac arbrofi, mae Lucy wedi llwyddo i ddod o hyd i’w sain arbennig hi.

“Bydden i’n disgrifio fy steil o gerddoriaeth fel
soulful R&B, alt-pop gyda bach o Latin infusion,” dywedai. “Mae fy steil wedi newid dros y blynyddoedd. Yn y dechrau wnes i ysgrifennu’r rhan fwyaf o’n nghaneuon ar y piano. Nawr, dwi’n defnyddio lot fwy o dechnoleg ac yn  defnyddio meddalwedd fel Logic Pro i chwarae gyda synau gwahanol er mwyn creu mwy o sain fodern a phop.”

Cerddor dwyieithog ydi Lucy, yn ysgrifennu a chyhoeddi cerddoriaeth yn Gymraeg ac yn y Saesneg. Er hynny, eglurai Lucy bod y gefnogaeth a’r cyfleoedd mae hi wedi ei phrofi o ganu a pherfformio yn y Gymraeg yn hynod werthfawr. “Mae ‘na lot o gymorth o’r gymuned Gymraeg,” meddai Lucy. “Dwi wedi cael y cyfle i berfformio ar y teledu dau waith yn barod! Wnes i berfformio ‘Gen Ti’ ar sioe gyntaf Heno’r flwyddyn, oedd yn hollol grêt! Ar y cyfryngau cymdeithasol, dwi wedi ehangu fy nghynulleidfa a denu lot mwy o ddilynwyr ers i mi ryddhau fy nghân Gymraeg. O fewn y byd cyfryngau, mae yna gymaint o gyfleoedd gan fod pawb yn gweithio gyda'i gilydd mor dda a phawb eisiau cefnogi ei gilydd a’r iaith.”

Felly, os nad ydi ‘Gen Ti’ ar dy restr chwarae yn barod, yna cer amdani! A phaid anghofio i’w dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol, rhag ofn i ti fethu diweddariadau arbennig - fel un sydd yn dod yn fuan iawn!

“Edrycha am newyddion cyffrous ym mis Mai! Gen i rywbeth cyffrous yn arbennig i fy nilynwyr Cymraeg!”

 

06.png
bottom of page