top of page

Llyfrau Llawen

Hoffi darllen, ond ddim yn siŵr beth sydd ar gael? Efallai y byddi di’n chwilio am anrheg Nadolig a ddim yn rhy siŵr pa lyfr fysa ffrind yn hoffi, neu efallai does gen ti ddim syniad ble i gychwyn yn dy lyfrgell leol? Wel, cymer olwg ar y rhestr isod - digon o ddewis i dy gadw’n gysurus dros gyfnod yr ŵyl a thu hwnt!
 

Fel y Moroedd.jpg

Fel y Moroedd
Sioned Erin Hughes


Cyhoeddiadau Barddas

 

Mae’n rhaid i bob bwrdd coffi frolio cyfrol o gerddi. Oes rhywbeth gwell ‘na phori am ysbrydoliaeth yn achlysurol?

Ymysg ei cherddi, mae’r bardd yn archwilio i mewn i athrawon bywyd - hynny yw, agweddau o fywyd sydd yn dysgu gwersi i ni ar hyd ein taith bywyd, yn arbennig y rheini rydym yn ei ddysgu yn ein plentyndod. Does dim cuddio rhag pynciau mwy cymhleth, chwaith, sydd yn ei hun yn teimlo’n braf i’w darllen.

 

Trysorau'r Nadolig.jpg

Trysorau’r Nadolig
gol. Jo Heyde


Cyhoeddiadau Barddas

 

Yn dilyn cyfrol o gerddi, nesaf ar ein rhestr mae cyfrol arall o gerddi! Ond, y tro hwn, blodeugerdd sy’n eich gwahodd i fyd gwbl Nadoligaidd sydd yn siŵr o’ch lapio yn ysbryd yr ŵyl.

Mae’r wledd farddonol yma yn cynnwys gwaith gan 20 o feirdd, gan gynnwys Mererid Hopwood, Tegwen Bruce-Deans ac Elinor Wyn Reynolds. A beth yw cyfrol dda heb ddarluniau hudolus i gyd fynd? Wel, mae’r darlunydd Karl James Mountford wedi sortio’r cyfan, gan gwblhau’r awyrgylch hollol Nadoligaidd.

Yr anrheg berffaith, boed hynny i ti dy hun neu ar gyfer hosan annwyliaid, sydd yn siŵr o godi gwên bob blwyddyn. Traddodiad newydd, efallai?

 

Cymoedd.jpg

Cymoedd
Lois Roberts


Gwasg y Bwthyn

 

Chwilio am rywbeth sydd rhwng cyfrol o gerddi a nofel drylwyr? Yna beth am gyfres o straeon byrion?

Dyna beth yw Cymoedd gan Lois Roberts, sef deuddeg stori fer sydd yn talu teyrnged i’r ardal sydd wedi chwarae rhan mewn ym mywyd yr awdur. Archwilio gwnâi’r straeon i fywydau merched a sut mae’r cymoedd yn rhan mor annatod o’u bywydau ac, heb os, yn llywio eu bywydau, yn union sut mae'r cymoedd wedi llywio bywyd Lois.

 

Paid a Deud.jpg

Paid â Deud
Mari Emlyn


Gwasg y Bwthyn

Wyddost ti, mae gan gyfrinachau’r gorffennol dueddiad i godi ei ben yn y dyfodol (yn enwedig mewn nofelau dramatig)? Wel, dyma’n union sydd yn digwydd yn Paid â Deud gan Mari Emlyn, sy’n ymchwilio i mewn i’r syniad o rywun sydd wedi cadw cyfrinach a dewis peidio dweud dim yr holl ffordd nôl yn yr 80au, a chanlyniad hynny yn 2025.Ond, beth yw’r gyfrinach?

Wel, swatiwch gyda’ch paned a chacen Nadolig... mae’n bryd i ti ddarganfod y gwir!

 

bottom of page