top of page
Lansio’n Feddal: Be a Sut?!

Does rhywbeth i’w baratoi amdani o hyd?! Mae’r Nadolig a’r Flwyddyn Newydd yn teimlo fel ddoe ac mae’n amser meddwl am Ddydd Santes Dwynwen yn barod!
Os wyt ti wedi magu perthynas newydd dros yr wythnosau diwethaf, eisiau cymryd pethau’n araf deg ond yn ysu i gymryd rhan yn y rhannu lluniau di-ben-draw ar-lein, yna mae’n bryd i ti ystyried lansio’n feddal. Ia, y “soft launch”.
Ond beth yn y byd ydi lansio’n feddal?! Wel, un tro, cyn dyfodiad y cyfryngau cymdeithasol, doedd dim rhaid cyhoeddi i’r byd dy fod wedi dod o hyd i gymar. Roedd pethau’n symud yn ei flaen yn esmwyth heb ffws ‘na ffwdan. Bellach, mae’r pwysau i rannu popeth ar-lein yn drwm ac mae’r awydd i bostio diweddariadau ac atgofion yn teimlo fel y peth mwyaf naturiol i wneud, er efallai nad wyt ti eisiau rhannu bob manylyn wrth reswm. Felly, mae lansio dy berthynas mewn ffordd “meddal”, neu mewn ffordd gyfyng a dirgel, yn ateb gwych er mwyn cyfarch gofyn dy ffrindiau busneslyd wrth gadw elfen o breifatrwydd i’r ddau ohonoch!
Mae lansio’r feddal yn cynnwys;
- Rhannu lluniau sydd ddim yn datgelu gwyneb
- Peidio eu tagio mewn post ar-lein
- Rhannu digon i awgrymu dy fod mewn perthynas, ond ddim yn rhannu manylion pendant (achos, rili, dydi hynny’n fusnes i neb arall ond ti a nhw!).
Rhaid cofio, nid ffordd o gadw perthynas yn dawel oherwydd embaras ydi hyn. Dim pawb sydd eisiau rhannu eu hwynebau ar y cyfryngau cymdeithasol, boed hynny o ddewis personol neu oherwydd natur eu swydd. Mae’n bwysig trafod gyda dy bartner newydd cyn postio unrhyw beth amdanynt ar-lein. Nid pawb sydd yn hoff o rannu yn ddigidol, a hynny am lu o resymau gwahanol a dilys.
Felly, os wyt ti ffansi rhannu lluniau o dy newyddion mawr heb ddatgelu’r cyfan, mae mynd amdani i bostio lluniau sydd ddim yn datgelu gwyneb dy gymar yn syniad. Sut fath o luniau? Wel...


1. Dwy law
Dyma lun sydd yn awgrymu’n gryf dy fod yn gweld rhywun. Tynna lun o’ch dwylo pan fyddwch yn mynd am dro, yn gafael llaw gyda chefndir tymhorol neu o flaen y teledu’n gwylio ffilm.
2. Dau baned
Wyt ti’n un sydd yn hoffi rhannu lluniau o dy goffi pan fyddi di mewn caffi neu’n mwynhau paned wrth fynd am dro? Ychwanega paned dy gariad i’r llun! Oes rhywbeth mwy rhamantus ‘na cariad sydd yn dod yn rhan anatod o dy fywyd o ddydd i ddydd?!
3. Cysgod
Os fyddi di ddigon lwcus i fynd am dro pan fydd yr haul allan (sydd wedi mynd yn beth prin!) yna tynna lun o’ch cysgod yn gafael llaw neu’n cusanu.
Eisiau elfen ychwanegol o ddirgel? Yna mae’n syniad postio ar dy “stori” yn unig, a gadael post grid am ychydig o wythnosau. Wedi’r cyfan, bydd dy ffrindiau dryw yn siŵr o’i weld ar dy stori ac yn parhau i dy holi di’n dwll!
bottom of page





