top of page
Joio Dy Gwmni
gan Elen Jones

Elen ydw i. Dwi’n 24 oed ac yn byw yn Abertawe.
Yn ddiweddar, dwi wedi bod yn gwneud llawer o waith ar fy hunan, gan geisio bod yn fodlon yng nghwmni fy hunan a mwynhau cwmni fy hunan. Un o’r pethau dwi’n trio gwneud yw mynd a solo dates er mwyn trio pethau gwahanol a dysgu sut i fwynhau cwmni fy hunan. Y gwir yw; mae bywyd yn fyr ac os wyt ti wir eisiau gwneud rhywbeth, weithiau does dim cwmni i fynd gyda ti, ond dyw hyn ddim yn golygu bod angen i ti fethu allan ar y profiad!
Dwi’n cofio mynd ar fy solo date gyntaf dros flwyddyn nôl bellach. Nes i ddewis mynd i’r sinema ac oni wir ddim yn siŵr bet hi wneud! Sut ro’n i fod i ymddwyn? Beth oedd pobl yn mynd i feddwl gan fy mod i yno ar ben fy hunan? Ond, mi es a doedd neb yn poeni mod i yno ar ben fy hunan. Erbyn hyn, dydw i ddim yn siŵr pan ro’n i'n poeni! Oni’n teimlo wedi fy ngrymuso ar ôl bod hefyd, gan fy mod i wedi camu allan o fy comfort zone i.
Hyd yma dwi wedi bod am sawl solo date gwahanol, ac yn sicr maen nhw’n dda i’r enaid. Dwi wedi bod i’r sinema, siopau goffi i ddarllen, cerdded mewn llefydd gwahanol a newydd a dwi hyd yn oed wedi bod ar wyliau tramor i Prague - ia, ar ben fy hunan! Bydde Elen bach 16 oed byth wedi gweld hynny’n digwydd!
Ges i’r syniad o ddechrau cyfres ddigidol pan nes i ymweld â’r caeau tiwlipau yn y ‘Gower Fresh Christmas Trees’ ychydig nôl gan fy mod i’n teimlo eithaf fflat a di-fynadd cyn mynd yno’r bore hwnnw ac eisiau gwneud rhywbeth i wella fy hwyliau. Ar ôl i mi fod, roeddwn yn teimlo’n wych! Mae’r ymateb i’r fideos ar y cyfryngau cymdeithasol wedi bod yn wych hefyd, er taw nid er mwyn cael ymateb dwi’n ei wneud o. Dwi’n neud o er lles fy hun, ac yn y byd sydd ohoni ble mae pawb yn sownd i’w ffonau (dwi’n euog o hyn hefyd), dwi’n gobeithio hefyd i ysbrydoli pobl i fentro hi allan ar ben eu hunain a gwneud pethau hwyl, yn enwedig merched ifanc gan fod bod yn hapus a bodlon yng nghwmni ei hunain mor bwysig!
.jpg)

Dwi’n un o’r bobl ‘na sydd weithiau gydag ysgogiad i wneud rhywbeth neu drio rhywbeth gwahanol felly dwi jest yn codi a mynd “reit, awê”, sy’n ffab! Fe ddes i ar draws ddyfyniad yn ddiweddar ar y cyfryngau cymdeithasol, a dwi’n credu fod o’n grêt:
“Girl, be your own best friend.
Be your own gym partner.
Be your own coffee partner.
Be your own partner in crime.
Be everything for yourself rather than relying on others to be that for you”.
(anhysbys)
Ers dechrau mynd ar solo dates ac yna penderfynu dechrau’r gyfres ddigidol, dwi wedi dysgu i beidio teimlo cywilydd mewn mynd i lefydd ar ben fy hunain. Mae’n dod a rhyddid arbennig i ti ac mae hwyl i’w gael yng nghwmni dy hun. Dwi’n bendant yn fwy bodlon a hyderus yng nghwmni fy hunan ac mae’n gyfle gwych i gyfarfod pobl newydd hefyd!
Dwi’n edrych ymlaen at fynd ar lawer mwy o solo dates gwahanol er mwyn trio pethau newydd a chael llawer o hwyl wrth wneud! Felly os wyt ti awydd gweld lle byddai’n ymweld â nesaf, dilyna fi ar Instagram (@elenjxnes) neu ar Tiktok (@elenjones19). Ac os wyt ti’n nerfus am fynd am solo date, gwna rywbeth syml i ddechrau a cheisia fwynhau gwmni dy hun, siarada gyda phobl newydd. Pwy a ŵyr, falle wnei di wneud ffrindiau newydd!
bottom of page