top of page

Joio Darllen

Sgwrs gyda Francesca Sciarrillo

Sut i Ddarllen 1.jpg

Dydi'r siwrnai i ddysgu darllen ddim yn brofiad tebyg i bawb. I rai, mae darllen yn golygu syrthio mewn cariad gyda nofel a'r holl gymeriadau ac mae nofel wych yn gwneud i chi grio a chwerthin, weithiau'r un pryd! I eraill, tasg ydi darllen - rhywbeth sydd rhaid dysgu yn yr ysgol, rhywbeth mae rhywun yn ei wneud am fod rhaid a dim am eu bod nhw eisiau.

Y gwir amdani ydi, mae yna lyfr at ddant pawb. Ond sut mae dod o hyd i'r llyfr perffaith i ti? Dyma beth mae Francesca Sciarrillo yn trafod gyda'i gwesteion, ymysg lu o bynciau eraill, ar y podlediad newydd Sut i Ddarllen.

Wrth i ni aros yn eiddgar am y bennod nesaf, dewch i ni holi Francesca:

 

Lysh Cymru: Haia Francesca! Pa bethau ydych chi’n drafod ar y podlediad?

Francesca: Rydan ni wedi trafod pob math o agweddau ar ddarllen - o’i ddylanwad i’w effaith ar ein bywyd bob dydd. Ac yn rhannu atgofion ac argymhellion darllen - yn ogystal ag arferion darllen, gan geisio cynnig atebion i gwestiynau fel: sut mae dychwelyd at ddarllen os nad wyt ti wedi ers sbel? Neu sut wyt ti’n dod o hyd i'r llyfrau perffaith i ti, a sut mae gwneud amser i ddarllen? Roedd pob sgwrs efo’r gwesteion hyfryd yn ysbrydoledig iawn.

​
LC: Oes gwesteion cyffrous ar y gweill?
​
F: Oes! Chwe gwestai sydd wedi ymuno efo fi am sgwrs - ac mae wedi bod yn bleser ac yn fraint i sgwrsio efo pob un ohonyn nhw. Mae cymysg o bobol sy’n hoff iawn o ddarllen erioed, awduron ac ysgrifenwyr, a phobol sydd wedi dychwelyd at ddarllen neu isio darganfod mwy o lyfrau. Mae ambell un ohonom ni’n siaradwyr newydd i'r Gymraeg, felly roedd yn braf cael sgwrs am sut mae llyfrau wedi chwarae rhan ar hyd y ffordd.

LC: Beth yw dy hoff beth di am ddarllen?

F: Mae llyfrau’n dod â chymaint o hapusrwydd i mi; dwi wrth fy modd yn ymgolli mewn byd y llyfr - y cymeriadau a’r stori.

 

Joio Darllen 2_edited.jpg
Joio Darllen 1.jpg

​LC: Pa lyfr wyt ti’n darllen ar y funud?

F: Dwi ar ganol darllen Dau gan Bethan Nantcyll - enghraifft dda o brynu llyfr oherwydd y clawr cyn hyd yn oed ddarllen y broliant. Mae mor hyfryd - ro’n i'n gwybod yn syth y byddwn i'n ei fwynhau, felly roedd yn rhaid i mi gael copi! A dwi hefyd newydd orffen Casglu Llwch gan Georgia Ruth sydd wir werth ei darllen.


LC: Beth sy'n gwneud llyfr da, yn dy farn di?

F: Rhywbeth sy'n gallu edrych yn agos iawn ar neu o bersbectif a safbwynt penodol, dwi’n credu. Dwi'n caru llyfrau lle does dim llawer yn digwydd o ran plot, ond dwi'n troi’r tudalen olaf ac yn teimlo fy mod i'n nabod y cymeriadau neu'n gallu dallt rhywbeth o safbwynt arall.

 

LC: Pwy yw dy hoff gymeriad di erioed, o unrhyw lyfr?

F: Cwestiwn anodd iawn! Dwi’n hoff iawn o Nefyn o’r llyfr Drift gan Caryl Lewis.


LC: Pam wyt ti’n meddwl bod darllen yn bwysig?

F: Yn ogystal â bod yn iach ac yn llesol i ni - ac yn ogystal â bod yn ffordd hyfryd o ddatblygu sgiliau empathi - mae darllen yn rhoi cyfle i ni feddwl yn greadigol: hyn yw hud llyfrau dwi’n credu, a rhywbeth sydd mor, mor bwysig yn fy marn i.


LC: Pa gyfleon wyt ti wedi gael o ganlyniad i ddarllen a dy gariad at ddarllen?

F: Mae darllen wedi agor y byd i mi - ac nid dim ond rhwng cloriau'r holl lyfrau dwi wedi eu mwynhau dros y blynyddoedd. Dwi mor ffodus o ddeud bod darllen a llyfrau wedi siapio fy ngyrfa a’m mywyd yn gyfan gwbl. Roedd astudio Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Bangor yn agoriad drws i gymaint o gyfleoedd ac wedi arwain at waith dwi’n ei garu mewn diwydiant sydd mor agos at fy nghalon - gan gynnwys y cyfle i gyflwyno ar bodlediad Sut i Ddarllen. Mae’n fraint i fod o gwmpas llyfrau pob dydd - yn y gwaith a thu hwnt!

 

Round Library
bottom of page