top of page

Jîns ac Aeliau:
Haciau Bywyd

Happy Woman

Waeth beth mae rhywun yn ei ddweud am y rhyngrwyd a’r cyfryngau cymdeithasol, mae’n le da iawn er mwyn dod o hyd i haciau bywyd, sef dulliau bach sy’n gwneud bywyd lot haws. Yn wir, mae rhai o’r haciau bywyd yma ychydig yn rhyfedd, ambell un yn hollol bonycrs, ond maent yn gallu dod yn rhan naturiol o fywyd rhywun ac, yn fwy aml na pheidio, yn cael ei basio ymlaen i’r rhai o dy amgylch.

Gyda chymaint o driciau a hacs ar hyd y lle, mae’n anodd iawn cadw rhestr o’r rhai sydd wirioneddol yn gweithio, y rhai sydd yn fwy o drafferth ‘na dim byd arall, heb anghofio’r rhai sydd ddim yn gweithio o gwbl! Felly, dyma restr Lysh, wedi ei gydlynu gennych chi’r ddarllenwyr, ar hacs sydd wir yn gweithio - ac yn werth ei drio!

 

Hac y Pasta
 
“Dwi’n coginio lot fawr iawn o basta (bywyd stiwdant!) felly mae’r hac yma wedi arbed lot o lanhau i mi! Er mwyn osgoi’r dŵr sy’n tasgu dros ymyl y sosban wrth iddo ferwi, rhowch lwy bren i orffwys ar ben y sosban. Does gen i ddim syniad sut mae hynny’n gweithio, ond mae pawb yn y tŷ yn gwneud hyn nawr!”

Hac yr Aeliau

“Pan fyddi di’n plycio dy aeliau, ti’n gwybod bod angen cymryd pwyll nad wyt ti’n mynd yn rhy bell. Cofia, os wyt ti’n meddwl am EILIAD dy fod wedi gorffen, yna rho’r tweezers i gadw. Os wyt ti’n amau, rwyt ti’n siŵr o fod wedi gorffen. Wnes i ddysgu’r ffordd anodd, ond mae’r mantra yma wedi osgoi sawl trychineb aeliau wedyn!”

pasta.jpg
Folded Denim Jeans

Hac y Jîns

“Pan fyddi di allan yn siopa am jîns newydd, rhowch fand gwasg y jîns o amgylch eich gwddf - o’r botwm i’r ochr arall. Os yw’r band gwasg yn ffitio o amgylch eich gwddf, mae’n debyg y bydd y jîns yn dy ffitio. Mae’n arbed i chi drio nhw yn y siop ac maen nhw bob tro’n ffitio’n berffaith!”

Hac yr Allwedd

“Gen i gymaint o oriadau yn styc i fy ngoriad car. Un ar gyfer tŷ adra, un ar gyfer drws ffrynt y fflat a hefyd drws fy ystafell i... ac maen nhw i gyd yr un lliw a siâp! Dwi’n rhoi blobyn o baent ewinedd ar y goriadau mewn lliwiau gwahanol er mwyn gallu adnabod yr un cywir yn sydyn. Safio lot o ffaff!”

Hac y Gôt

“Os wyt ti’n clywed cnoc yn y drws a ddim yn siŵr beth mae’r person eisiau, rho dy gôt ymlaen cyn ateb y drws. Os wyt ti’n agor y drws a wirioneddol ddim eisiau trafod gyda’r person, yna dweud dy fod ar y ffordd allan - mae dy gôt ymlaen yn barod! Os wyt ti eisiau parhau'r sgwrs a’u gwahodd i mewn, yna cei dynnu dy gôt ac esgus dy fod newydd gyrraedd adref.”
 

bottom of page