top of page

Iselder Tymhorol -
Be ydi o?!

Mae’n anodd credu bod yr haf wedi ymadael, dydi? Gyda’r cyhydnos wedi mynd heibio a diwrnod troi’r clociau’n ôl yn codi ei ben unwaith eto, buan fydd y nosweithiau a boreuau tywyll yn ein lapio. Er nad ydi’r tywydd wedi troi am y gaeaf eto, mae’r rhagolygon yn bygwth gaeaf hir a stormus. Lyfli!

Wrth i ni edrych ymlaen i’r hyn sydd i ddod, tyrd i ni edrych ar bwnc sydd yn codi ei ben bob gaeaf, sef iselder tymhorol. Ond, beth yn union ydi o? Sut mae paratoi er mwyn ei drechu?

 

Iselder Tymhorol

Tristwch Dwys

Mae iselder tymhorol yn wahanol iawn i dristwch arferol. Mae pawb yn gallu mynd i deimlo’n drist o bryd i’w gilydd, yn enwedig adeg yma’r flwyddyn pan fo gyda’r nosau’n teimlo’n llwm a hir, y tywydd yn chwarae mig ac arian dal i deimlo’n dynn wedi hwyl yr ŵyl. Ond, mae iselder tymhorol yn dra gwahanol i unrhyw dristwch arferol.

Pan fo rhywun yn teimlo’n isel, mae’n gallu effeithio arnat yn gorfforol. O flinder llethol i ddiffyg egni yn gyffredinol, mae iselder yn mynd y tu hwnt i unrhyw deimlad o dristwch. Mae’n bosib i iselder effeithio ar bob ran o dy fywyd, yn achosi rhywun i beidio cymdeithasu fel yr arfer a chael dylanwad ar dy gwsg.

 

Be sy’n achosi’r iselder?
 
Yn union fel mae’r term yn ei grybwyll, yr hyn sydd yn achosi iselder tymhorol ydi’r tymor! Yn ystod y gaeaf, does dim gymaint o olau dydd. Er nad ydym yn byw ym mherfeddion yr Arctig ac yn profi 24 awr o dywyllwch, mae diffyg golau dydd yn effeithio ar ein cyrff ffodd bynnag. Dydi’r tywydd ddim yn helpu, chwaith, gyda chymylau trwm y glaw yn pylu’r golau prin! Rydym ym mis Chwefror ar hyn o bryd ac er nad ydi hi mor dywyll ag oedd hi ar ddechrau’r flwyddyn, mae’r aros am ddyddiau hirach yn teimlo’n faith.

Yn ystod y gaeaf, mae lot llai o olau naturiol yn cyrraedd ein cyrff, sy’n golygu nad ydym yn derbyn lefelau arferol o Fitamin D, fitamin sydd yn hanfodol ar gyfer creu serotonin. Cyfeirir at serotonin yn aml fel “hormon hapus” gan ei fod yn cael dylanwad mawr ar sawl agwedd o’n bywydau o ddydd i ddydd; ein hapusrwydd, ein cwsg, ein cof a llawer mwy. Law yn llaw gyda diffyg serotonin, mae’r gaeaf yn gallu achosi i’r corff i greu gormod o felatonin, sef hormon sydd yn rheoli eich cwsg ac o’r herwydd yn gwneud i chi deimlo’n fwy blinedig. Wrth uno’r rhain gyda’r pwysau o gychwyn y flwyddyn yn greadigol, yn gynhyrchiol a’r disgwyliad y bydd eleni yn y “flwyddyn orau erioed”, oes rhyfedd ein bod ni erbyn hyn, gyda’r corff yn crefu gorffwys a thawelwch, yn teimlo’n hollol isel?! Dim pawb sydd yn teimlo effeithiau iselder tymhorol, ond wedi dweud hynny dydi teimlo’r effeithiau o’r iselder ddim yn rhywbeth sydd yn “bod” arnat ti. Yn hytrach, mae o’n rywbeth sydd yn gwbl naturiol – er mae’n bwysig gofyn am gymorth.
​

Mountain View Reflection
Winter Sunset Tree

Sut allai ei osgoi?

Mae’n debyg bod sawl ffordd wahanol o leddfu symptomau iselder tymhorol, ond mae’n bwysig dy fod yn trafod gyda rhywun yn gyntaf a rhoi gwybod i rywun yn union sut wyt ti’n teimlo. Efallai na fyddan nhw’n gallu cynnig datrysiad i ti, ond o leiaf maen nhw’n ymwybodol o dy deimladau ac yn gwybod i gadw golwg arnat ti.

Gan fod diffyg golau dydd yn chwarae rhan allweddol yn achosi’r iselder, mae’n gwneud synnwyr felly ein bod ni’n mynd ati i chwilio am olau naturiol! Does dim dwywaith bod mynd am dro yn ystod y dydd yn gallu gwneud byd o les. Mae pawb angen ychydig bach o awyr iach, ond mae’n fuddiol i wneud y mwyaf o’r golau dydd hefyd.

Os nad wyt ti’n gallu mynd allan ac yn sownd y tu ôl i’r ddesg, yna ceisia ddewis lleoliad sydd yn agos i olau naturiol. Wrth gwrs, mae’r haul yn symud drwy gydol y dydd felly ystyria’r posibilrwydd o symud gyda’r haul wrth i’r dydd fynd yn ei flaen. Wedi dweud hynny, mae symud yn ystod y dydd drwy gydol y flwyddyn yn fuddiol yn ei hun - sut mae rhywun i fod yn greadigol ac yn gynhyrchiol wrth eistedd mewn un lle am oriau?!

 

Os wyt ti’n teimlo bod pethau’n mynd yn ormod ac nad ydi’r manion bethau rwyt ti’n gallu gwneud er mwyn lleddfu ar symptomau yn gweithio, mae’n synhwyrol trafod gyda gweithiwr iechyd proffesiynol. Paid â thaflu’r symptomau i un ochr gan fod y Gwanwyn ar y ffordd (yn rhywle) a phethau’n siŵr o wella ar eu pen eu hunain pan fo’r hir ddyddiau wrth droed. Cer am gyngor proffesiynol - efallai y byddan nhw’n gallu cynnig cyngor i ti fydd yn helpu’n gyffredinol drwy gydol y flwyddyn, neu’n bendant pan fydd y gaeaf yn dychwelyd unwaith eto!
 

bottom of page