top of page

Hud a Rhoddi:

Gwir Ysbryd y Nadolig

Wrapped Gifts

Wyt ti weithiau'n teimlo, wrth i ti siopa a meddwl am anrhegion Nadolig, bod pethau wedi mynd ychydig dros ben llestri? Bod ysbryd yr ŵyl wedi mynd ar goll yn rhywle rhwng yr holl wario a disgwyliadau a'r brysio diddiwedd yn paratoi am ddiwrnod byr yn ddigon i ddiflasu? Wel, nid ti yw'r unig un!

Er mai dim ond mis Tachwedd ydi hi, mae bywydau pawb mor brysur y dyddiau yma nes bod angen meddwl ychydig o flaen llaw er mwyn sicrhau anrhegion sydd a) yn gynaliadwy, b) yn feddylgar a c) sy'n osgoi rhoi arian i fanwerthwyr mawr a chas y byd. Mae modd i ti gyflawni hyn ac ailddarganfod hud y Nadolig, ond i ti roi ychydig o amser i ti dy hun i baratoi.

 

Caru Creu

Os wyt ti'n hoffi creu anrhegion dy hun, neu yn meddwl gwneud am y tro cyntaf eleni, yna mae cychwyn y broses yn fuan yn gwneud synnwyr, yn enwedig os wyt ti'n brysur rhwng popeth! Efallai bydd estyn y bocs celf bob nos a swatio er mwyn creu yn dod yn draddodiad newydd i ti - ac mae'n rhai rhywbeth bron-yn-Nadoligaidd i ti wneud ym mis Tachwedd er mwyn dy gadw di'n brysur rhag teimlo'r awydd i roi'r goeden i fyny cyn cychwyn y mis!

Os wyt ti ffansi dysgu crefft newydd a rhannu dy sgiliau newydd gyda dy anwyliaid, yna mae cychwyn yn gynt yn syniad gwych, rhag ofn i ti wneud camgymeriadau lu! Mae'r amser ychwanegol yn rhoi rhyddid i ti fwynhau gwneud y camgymeriadau hynny, heb boeni am derfyn amser. Fel maen nhw'n ddweud; "'Dolig Daw ei Hunan"!
 

02.png
03.png

Arbed Arian
 
Does dim dwywaith bod pawb yn chwilio am ffyrdd i arbed arian, yn arbennig adeg yma'r flwyddyn. Y ffordd orau i wneud hynny ydi drwy siopa ail-law, ac rwyt ti siŵr o fod yn gwybod pa mor anodd ydi darganfod yr union beth wyt ti'n chwilio amdano yn ail-law! Mae'n amser nawr i gychwyn chwilio - pigo mewn i'r siop elusen wrth basio neu sgrolio a sbecian drwy Vinted. Er mae'n debyg na fyddi di'n dod ar draws yr union beth yn syth, ond wrth gychwyn yn fuan mae gen ti siawns well o ddod o hyd i rywbeth perffaith.

Nid dim ond ymarfer i arbed arian ydi hyn yn unig, ond mae'n ychwanegu antur fach i dy dasg o brynu anrheg. Mae'n gorfodi i ti feddwl am y person fydd yn derbyn y rhodd a hynny dros gyfnod hir weithiau, a pha mor hyfryd ydi derbyn rhywbeth gan rywun sydd wir wedi rhoi ymdrech i dy weld yn gwenu?
​

Plesio Pawb

Cofia, does dim modd plesio pawb, er mor braf fysa gallu gwneud hynny. Does dim rhaid i ti brynu rhywbeth arbennig i bawb yn dy fywyd, ac weithiau mae cerdyn gyda nodyn personol yn llawn digon.

Meddylia am y rhai sydd wedi dy helpu dros y flwyddyn a noda'r enwau yn saff ar bapur - a chychwyn meddwl rŵan fel bod gen ti amser i ychwanegu fel wyt ti'n cofio! Pan gei di gyfle yn y cyfnod yn arwain at y Nadolig, eistedda i lawr gyda phaced o gardiau Nadolig a'r rhestr o enwau ac ysgrifenna nodyn personol, yn diolch ac efallai nodi atgofion penodol. Mae gair o'r galon yn mynd yn bell, ac yn mynd yn dda iawn gyda bar o siocled!

 

01.png
bottom of page