top of page
Helo Haf - Rhestr Fwced!
Dyma ni, wedi cyrraedd y tymor rydym wedi bod yn hiraethu amdani ers misoedd! Fel yr hen arfer, does dim dal pa dywydd bydd yn ein croesawu ar fore bob diwrnod newydd. Un diwrnod, gall y person tywydd darogan glaw sy’n torri record un diwrnod, cyn iddi fod yn annioddefol o boeth y diwrnod wedyn. Er mwyn gwneud y mwyaf o bob diwrnod, rhaid cael cynlluniau sydd yn addas ar gyfer unrhyw sefyllfa!

Ar ddiwrnod poeth
1. Gwylio’r machlud.
Os ydi hi wedi bod yn boeth drwy’r dydd a tithau’n teimlo’n ddiog wedi 'mochel rhag yr haul drwy’r dydd, yna mae mynd allan i ffarwelio gyda’r haul yn ffordd lyfli i ddiweddu diwrnod. Pwyntiau bonws os mae’r awyr yn rhoi gwledd o liwiau i ti!
2. Cysgad bach yn y prynhawn.
Dim bod angen esgus arnat - os wyt ti wedi blino, rhaid gorffwys - ond os mae siesta ddigon da i’r Sbaenwyr, yna mae’n ddigon da i ti.
3. Picnic i frecwast.
Os mae’r rhagolygon yn gado diwrnod poeth o dy flaen a dwyt ti ddim eisio aros nes iddi nosi er mwyn mynd am dro, yna cer a dy frecwast allan gyda ti ar antur!
4. Trîts oer!
Does neb eisiau pobi mewn tywydd poeth, ond dydi hynny ddim yn golygu cadw allan o’r gegin. Rhaid cofio yfed digon yn ystod yr haf, felly pa ffordd well ‘na hydradu a chadw’n brysur yr un pryd drwy wneud smŵddis blasus?
5. Ymweld â mannau gyda system aerdymheru.
Orielau lleol, yr archfarchnad, caffis... Unrhyw le sydd yn oerach ‘na thu allan!
6. Gwylio’r sêr.
Fel torheulo, ond gyda’r nos. Cer allan ar noson glir er mwyn ceisio dod o hyd i glwstwr neu ddau. Mae’n ffordd wych o oeri gyda’r nos cyn ceisio mynd i gysgu.


Ar ddiwrnod glawiog
1. Mynd allan gydag ymbarél.
Os ydi hi ddigon cynnes i ti a dwyt di ddim am i’r glaw dy atal rhag mentro allan, yna cer amdani! Mae rhywbeth braf iawn am gerdded yn y glaw ac arogli’r tir. Cyn belled a bod paned yn aros amdanat ti ar y diwedd!
2. Mynd am dro gyda welis.
Na, nid rhywbeth i blant yn unig ydi mynd am dro er mwyn neidio mewn pyllau glaw! Mae’n hwyl i bawb o bob oed, coelia di ni. Cofia gwneud yn siŵr nad oes tyllau yn dy bâr cyn mynd amdani...
3. Mentro i le braf.
Weithiau, mae mannau mwyaf prydferth Cymru ar ei orau ar ddiwrnodau llwm.
4. Darllen!
Os wyt ti’n styc yn y tŷ, dyma gyfle euraidd er mwyn gweithio trwy dy restr ddarllen.
5. Dal fyny.
Mae bywyd yn gallu bod yn brysur weithiau ac mae colli cysylltiad gyda ffrindiau yn llawer rhy hawdd. Ar ddiwrnod ble mae’r byd yn dy orfodi i arafu, manteisia ar y cyfle a holi ffrind am alwad er mwyn rhoi’r byd yn ei le.
6. Gemau bwrdd.
Sownd gyda dy deulu neu ffrindiau ac yn gyrru eich gilydd o’ch cô? Gemau bwrdd amdani! Efallai bydd hwn yn achosi mwy o ffraeo, ond o leiaf gewch chi hwyl ar y cychwyn!

bottom of page
