top of page
Hel Clecs

Hel clecs... Tywallt y tê... Gossip... Waeth be ‘da chi’n ei alw fo, mae pawb yn hoff o sgandal - cyn belled â nad ydi o yn dy effeithio di’n bersonol!
Yn ôl darllenwyr Lysh, mae 67% ohonynt yn mwynhau rhannu hanesion ymysg cyfeillion, ond pam yn union fod hel clecs yn teimlo mor dda, yn rhywbeth mae pobl wirioneddol yn mwyhau?!
Mae hen ddywediad yn dweud fod gormod o unrhyw beth yn ddrwg i ti. Gormod o goffi, gormod o haul, ac mae hynny hefyd yn cynnwys gormod o’r gos! Er bod rhannu newyddion am y rhai o dy amgylch, dy deulu, ffrindiau a chyd-weithwyr ac ati, yn rhan ddynol, bron yn reddfol, o’n bodolaeth, mae’n bwysig cydnabod y pwynt ble mae rhannu newyddion yn gorffen a bwystfil hel clecs yn codi ei ben. Pam? Wel, mae hel clecs yn effeithio dy fywyd personol di - heb anghofio’r rhai y byddi di’n siarad amdanyn nhw. Dewch i ni gael cipolwg ar sut...
Effaith Bersonol
Gall rhannu newyddion am y sgandal lleol diweddaraf teimlo’n grêt. Weithiau, mae cyfeillgarwch yn ffurfio wrth uniaethu dros atgasedd tuag at berson arall! Wedi’r cyfan, mae rhannu gelyn yn glynu pobl at ei gilydd ac mae hynny, am ryw reswm, yn wir mewn sawl agwedd ac mewn sawl rhywogaeth.
Ond, os nad wyt ti’n rhan ganolog o’r sgandal, siawns nad ydi’r clecs yn dy effeithio di? Wel, mae gwario gormod o amser yn trafod eraill ac ymddiddori yn eu helynt yn gallu bod yn arwydd o ddiffyg hunanhyder a hunan-barch. Drwy ganolbwyntio ar agweddau negatif bywydau eraill a’u barnu am hynny, mae hyn yn gallu gwneud i rywun deimlo’n well am eu bywydau nhw eu hunain.


Sgiwio’r Gwir
Rhaid cofio, efallai na fyddi di’n rhan ganolog o gossip ar y cychwyn, ond drwy rannu gwybodaeth yn chwit chwat mae’n bosib i ti ddod yn rhan o’r sŵn... neu wneud pethau’n llawer gwaeth i eraill!
Os wyt ti’n derbyn gwybodaeth boeth, mae’r awydd i rannu ymysg dy debyg yn gallu bod yn deimlad llethol. Weithiau, rwyt ti eisiau bod yn y person cyntaf i’w rannu, ac yn gwneud hynny’n weddol fyrbwyll. Rhaid i ti ystyried, cyn i ti rannu dim ymhellach, pa mor wir ydi’r hanes sydd wedi dy gyrraedd di. Mae hyn yn arbennig o wir os mae’r wybodaeth wedi dod i ti drwy ffrind, sydd wedi clywed gan gymydog, sydd wedi clywed gan athro gyrru ei nai. Wrth i’r hanes deithio o un geg i’r llall, mae’n hollol bosib bod gwybodaeth bwysig wedi cael ei adael allan neu fod elfen o anwiredd wedi cael ei ychwanegu. Gall ychydig o fŵg magu coelcerth yn hawdd iawn!
Felly, cyn i ti fynd ati i joio tywallt y te, ystyria:
- Ydi’r wybodaeth yma yn helpu rhywun?
- Ydw i’n rhannu’r wybodaeth er mwyn bod yn gas?
- Pa werth sydd yn ei rannu?
bottom of page
