top of page

Haia, Hydref!

Autumn

Gyda’r tywydd wedi setlo, y dail wedi troi eu lliw a’r siwmperi cynnes yn barod amdanat ti, mae’n deg i ddweud bod ein darllenwyr yn gyffrous iawn am ddyfodiad yr hydref. Mae gymaint o bethau i’w wneud, o ymweld â chaeau pwmpenni i fynd i gaffi am baned sbeis pwmpen (yn dy sanau pwmpen hefyd, wrth gwrs). Ond, gyda thymor sydd yn teimlo mor fyr i’w gymharu gyda gweddill y flwyddyn, sut wyt ti’n mynd i allu gwneud bob dim?

Awyr Agored

Ym mis Hydref, ar drothwy tywydd mawr y gaeaf, mae’n gwneud synnwyr gwneud y mwyaf o bob un diferyn o’r haul a’r awel eiconig hydrefol. Mae’n mynd heb ddweud bod mynd am dro yn syniad da, ond mae rhaid yn credu mai’r hydref yw’r tymor perffaith ar gyfer mentro. Pam? Wel, dydi hi ddim yn rhy boeth nac yn rhy oer, ac os fyddi di ddigon lwcus i allu cymryd mantais o’r cyfle heb dywydd rhy wyllt yna byddi di’n dyst i wledd o fyd natur wrth i’r holl anifeiliaid a phlanhigion paratoi am y gaeaf i ddod - sydd yn gwneud cefndir perffaith ar gyfer lluniau i’r socials!

Os oes cae o bwmpenni yn dy ardal di, beth am fynd amdani i fwynhau’r olygfa? Efallai bod rhai yn hoff o ddatgan bod caeau pwmpenni yn hen arfer “Americanaidd”, sydd yn wir i ryw raddau. Ond, rhaid cyfaddef, mae’n swnio fel lot fawr iawn o hwyl, dydi? Paned, pwmpeni, a digon o chwerthin.

 

Pobi a Choginio

Sôn am bwmpenni... Paid gadael i holl bwmpenni’r hydref fynd i wastraffu! Ymchwilia ac arbrofa gyda ryseitiau am gawl pwmpen, neu gawl cnau menyn. Mae gymaint o lysiau hyfryd ar gael ac yn barod i ti'r tymor yma (moron , mwyar, afalau, cennin... gormod o lawer i’w rhestru) a gyda chymaint o ddewis ar gael, mae mynd ati i bobi neu i goginio hen ryseitiau a darganfod ryseitiau newydd yn un beth sydd rhaid i ti neud eleni. Pwy â ŵyr, efallai byddi di’n datblygu rysáit newydd sbon i ti dy hun - ond fydd rhaid i ti ddewis wedyn os ydi hwn yn rysáit cyfrinachol neu’n rhywbeth i basio ymlaen i dy ffrindiau! Ac, wrth gwrs, byddi di’n diolch i ti dy hun bod cawl cynnes ar gael i ti’n syth wedi i ti ddychwelyd o ddiwrnod allan yn yr awyr agored!
 

Pumpkin Pie
Halloween Lights

Hanner Tymor

Os wyt ti’n ddigon ffodus i fwynhau gwyliau’r hanner tymor, byddi di’n siŵr o fod eisiau gwneud y mwyaf o’r amser. Y newyddion da ydi bod nifer fawr iawn o ddigwyddiadau ymlaen yn ystod yr wythnos yma. Y newyddion drwg ydi bod dewis a dethol beth i’w wneud yn her! Felly, gydag ychydig o wythnosau i fynd nes yr wythnos fawr, mae gen ti ddigon o amser i fyfyrio dros y cyfan.

Calan Gaeaf

Eleni, mae Calan Gaeaf ar ddydd Gwener, sy’n berffaith os wyt ti’n bwriadu mynd allan gyda dy ffrindiau! Ond, os wyt ti’n brysur yn ystod y bydd ac yn crefu i ymuno yn y dathliadau, paid â phoeni - mae digonedd o ddigwyddiadau ar hyd y wlad yn digwydd yn ystod wythnos yr hanner tymor. Os wyt ti’n chwilio am bethau i wneud, edrycha beth sydd ymlaen yn dy ardal di yn ystod yr wythnos a hefyd dros y penwythnos. Bydd digon ymlaen i dy ddiddanu!

 

bottom of page