top of page
Haf Lysh, Corff Lysh

Rwyt ti’n siŵr o fod wedi clywed y term “summer body”. Dyma sy’n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio’r corff “delfrydol”, sut y dylai pawb anelu i edrych. Mae’r term yn codi ei ben yn y Gwanwyn, gyda dylanwadwyr yn hyrwyddo diet arbennig, a does dim saib i’w gael rhag y pwysau nes bydd gwyliau’r haf wedi dirwyn i ben.
Yr hyn nad ydi’r dylanwadwyr a’r cwmnïau gwerthu dillad ymarfer corff am i ti wybod ydi; does dim ffasiwn beth â “summer body”. Felly, dewch i ni waredu ar y syniad hwnnw a’i newid am derm gwell. Beth am “Corff Lysh”? Achos, y gwir amdani ydi, mae bob corff yn gorff lysh! Ond dewch i ni fynd i mewn i fanylder ar yr hyn sy’n gwneud corff yn lysh...
Mae dy gorff yn fwy na’r hyn rwyt ti’n ei weld mewn drych. Mae dy gorff wedi tyfu gyda ti ers o ti’n beth bach, y galon dal i guro heb oedi eiliad. Mae dy ysgyfaint di’n dal i anadlu heb i ti feddwl am y peth, a dy ymennydd yn cadw’r holl sioe i fynd (er iddo orfeddwl weithiau). Efallai nad wyt ti’n hoff o’r ffordd mae dy goesau yn siglo rhywfaint, ond dydyn nhw ddim yn poeni am dy feirniadaeth - maent yn dal i dy gario i ble mynni di. Efallai nad wyt ti’n hoff o dy wên, ond mae’r olygfa yn cael ei drysori gan dy ffrindiau. Ac, ocê, efallai nad ydi dy ben ôl di mor siapus a fysa ti’n hoffi, ond mae’n dy gadw’n gyfforddus wrth eistedd ar gadeiriau caled.
Dyna ni wedi cychwyn newid meddylfryd rhywfaint. Beth am nodi mantra neu ddau i’n hatgoffa’n ddyddiol am y gwyrthiau mae’n cyrff ni’n eu perfformio’n ddyddiol?
“Mae fy mreichiau yn fy helpu i gofleidio’r bobl dwi’n caru.”
​“Mae fy nghluniau yn gryf ac yn fy nghefnogi ar anturiaethau."
“Mae fy nghroen yn fy amddiffyn.”
“Nid fy nghorff yw’r elfen fwyaf diddorol ohonof fi.”


“Does neb arall yn edrych yn union fel fi, ac mae hynny’n hollol hyfryd.”
“Mae fy nghorff yn haeddu parch.”
“Mae fy nghorff yn newid o hyd, a does dim byd yn bod gyda hynny.”
Cofia, dydi ailadrodd yr uchod ddim yn mynd i drawsnewid bob dim dros nos. Mae’n cymryd amser i newid meddylfryd, ac er bod modd teimlo’n positif am dy gorff yn aml, mae pawb yn teimlo’n isel o dro i dro. Yr hyn sydd wir angen ydi amynedd, hunangariad a hunan-drugaredd.
bottom of page







