top of page

Haenau'r Hydref

Woman in autumn park

Wyt ti’n mynd allan yn y bore wedi dy lapio yn barod ar gyfer camu allan i’r gwynt a’r glaw, ond erbyn amser cinio’n chwysu fel taset ar lan y môr yn ganol Awst? Nid ti yw’r unig un!

Dyma’r tymor anoddaf i wisgo ar ei chyfer, achos does dim dal pryd fydd y tywydd yn troi. Mae’n eithaf rhyfedd, i ddweud y gwir, achos os wyt ti’n mynd allan mewn côt fawr ac ymbarél, bydd yr haul yn siŵr o wenu cyn diwedd y bore. Ond anghofia dy ymbarél, a fydd y cymylau yn gollwng tunelli o law am dy ben. Sut ar wyneb y ddaear mae modd mynd tro un diwrnod hydrefol heb rynnu ‘na chwysu yn yr un pum munud?

Wel, haenau, wrth gwrs!

Mae’n swnio’n eithaf syml, dydi? Gwisgo mwy nag un peth ar ben ei gilydd a thynnu dillad fel wyt ti’n mynd yn rhy boeth drwy gydol y dydd. Ond, fel popeth mewn bywyd, dydi gwisgo haenau yn synhwyrol ddim mor syml â hynny.

 

Cadw’r haen gyntaf yn denau.

Hynny yw, paid â chychwyn gyda siwmper cyn taflu côt am ei ben. Fyddi di’n siŵr o fod yn boeth dros ben hyd yn oed os wyt ti’n tynnu’r gôt i ffwrdd! Gwisga top tenau cyn hyd yn oed meddwl estyn am y siwmper fawr gysurus. A sôn am siwmperi mawr...

Efallai nad ydi hi’n amser ar gyfer y siwmperi mawr eto.

Sori, dwi’n gwybod dy fod wedi bod yn ysu am y diwrnod lle byddi di’n gallu swatio unwaith yn rhagor, ond efallai bod y dydd hwnnw dal i ddod! Os wyt ti’n mynd allan am y dydd, y peth olaf ti angen ydi cario siwmper enfawr gyda ti. Ystyria gwisgo siwmper lai trwchus am y tro, neu hyd yn oed cardigan wlân neis o dan dy gôt. A sôn am gotiau...

 

Hand On Sweater
Woman in Yellow

Edrycha ar y rhagolygon.

Ocê, dydi person y tywydd ddim bob tro’n gywir, ond mae’n rhoi syniad go dda i ti o ba fath o gôt byddi di angen am y dydd. Os oes glaw ar y ffordd, cer am gôt sy’n atal gwlychu. Fel arall, rwyt ti’n rhydd i ddewis côt gynnes wlân (côt fysa’n gwneud dim i ti mewn cawod!). A sôn am wlân...

Mwynha cymysgu gweadau!

Dydi ffasiwn yn dda i ddim os nad ydi o’n hwyl (ac yn ymarferol, heb os). Amrywio gwead gwahanol sydd wrth galon ffasiwn hydrefol, a hynny oherwydd yr angen am wisgo sawl haen wahanol. Fedri di gymysgu defnydd ysgafn (cotwm ac ati) gyda siwmperi wedi gwau a hyd yn oed esgidiau lledr, a hyd yn oed arbrofi gyda hyd a maint gwahanol, does dim diwedd ar bosibiliadau ffasiwn yr hydref!

 

bottom of page