top of page

Gyrru yn y Gaeaf

3.png

Mae’n teimlo fel bod y Gaeaf wedi dod o nunlle’n fuan iawn eleni, dydi? Sawl un ohonom sydd wedi cael ein dal yn y bore gan rew ar ffenest flaen y car cyn rhuthro i gofio ble yn y byd mae’r hylif toddi rhew ‘na? Ydio’n bryd i ni baratoi, dudwch?

Gyrru yn y gaeaf - mae’n dod â’r heriau ei hun. Er i rywun fod yn yrrwr profiadol, mae gyrru i amodau a sicrhau fod dy gar yn ddiogel yn gallu bod  yn her. Wedi’r cyfan, mae misoedd ar fisoedd wedi bod ers y gaeaf diwethaf ac mae’n syndod gymaint ‘da ni’n anghofio!

Felly, wrth i ni gyd cael ein dal allan gan ymweliad Sioni Rhew, dewch i ni fod ar y blaen fel nad ydi’r ‘rhen Sioni yn ein gwneud ni’n hwyr!


Gwelededd

Os nad wyt ti’n gallu gweld yn glir drwy bob ffenest, boed hynny drwy eira, rhew neu anwedd, mae’n amser meddwl am sut i ddadrewi. Ia, bob ffenest! Yndi, mae cymryd yr amser i ddadrewi yn rhwystredig, yn arbennig os ydi o’n dod fel ychydig o sioc a dyma’r peth diwethaf o ti angen y bore hwnnw, ond er mwyn dy ddiogelwch di a phawb arall mae’n holl bwysig dy fod yn gwneud.
 

Top tip; os wyt ti’n sylwi ei bod hi’n noson glir, rho ddeg munud ychwanegol i ti yn y bore er mwyn dadrewi’r car. Os wyt ti’n sylweddoli nad oes angen dadrewi yn y diwedd, yna mae gen ti 10 munud perffaith ar gyfer coffi bach. Lysh!
 

Eira 

Os byddwn ddigon ffodus (neu anffodus) i weld eira eleni, yna mae hynny’n dod â heriau gwbl newydd. Dydi eira ddim yn digwydd yn aml i ni yma yng Nghymru, ac os bydd yna dim ond cwpwl o ddyddiau byddwn yn ei brofi ac felly mae osgoi gyrru yn yr eira yn weddol hawdd. Ond, petai ti’n gorfod gyrru, cymera ychydig o amser i feddwl yn union beth fydd rhaid i ti ei wneud yn wahanol.

Pan fyddi di ar frys, hawdd ydi meddwl nad oes rhaid i ti feddwl clirio eira o dop y car. Wedi’r cyfan, dydi hynny ddim yn effeithio ar dy welededd ni, nac ydi? Wel, mae peidio cymryd yr amser i glirio’r eira yn dy beryglu di a’r rhaid sydd yn gyrru y tu ôl i ti. Wrth i ti gyflymu, mae’r eira yn hedfan am yn ôl i lwybr y rhai y tu ôl i ti, a petai ti’n gorfod stopio’n gyflym yna mae’n bosib i’r eira syrthio ymlaen ac ar hyd y ffenest flaen yn fyr rybudd.

 

1.png

Hylif Glanhau Ffenest

Y tro nesaf y byddi di’n mynd ati i lenwi tanc yr hylif glanhau ffenest, mae’n bwysig dy fod yn ei lenwi gyda hylif sydd wedi cael ei ddylunio ar gyfer tymheredd isel... am resymau amlwg.

Dwyt ti ddim eisiau bod heb hylif glanhau ffenest yn y gaeaf. Mae’r holl halen ar y ffyrdd yn gwneud y ffenest flaen yn fudr tu hwnt a byddi di’n siŵr o fod yn defnyddio’r teclyn tasgu dŵr yn aml os byddi di’n dreifio mwy ‘na 5 munud!

 

2.png

Rhestr Cadw yn y Car

Os nad oes gen ti focs o offer gaeaf yn dy gar, rhag ofn i ti fod yn sownd yn rhywle neu rhag ofn y byddi di angen helpu rhywun arall, yna mae’r isod yn gychwyn synhwyrol:

​

  • Hylif Toddi Rhew (Anti Freeze)

  • Blancedi a dillad cynnes

  • Batri ar gyfer dy ffôn (a chebl!)

  • Dŵr a snacs (rhag ofn y byddi di’n sownd yn rhywle, ond mae snacs wastad yn syniad da, dydi?)

  • Teclyn crafu rhew

  • Sbectol haul (mae’r haul yn teimlo’n gryfach pan mae’n adlewyrchu ar eira neu ffyrdd gwlyb)

  • Tortsh

  • Cit cymorth cyntaf​

​

bottom of page