top of page

Gwynebu dy Ugeiniau

Friends in Nature

Reit, dyma ni. Yn ei chanol hi. Arholiadau bron ar ben, penderfyniadau wedi eu gwneud ac elfen o ddifaru’n cychwyn cropian i dy ben. Wedi’r cwbl, mae bywyd yn fyr, dydi? Mae’r penderfyniadau ti’n eu gwneud rŵan yn mynd i siapio gweddill dy fywyd di! Os nad wyt ti’n mynd i’r brifysgol, boed hynny o ddewis neu oherwydd methu arholiadau , yna beth ar wyneb y ddaear sy’n dy wynebu di yn dy ugeiniau? Achos, mae pawb yn dy fywyd di sydd yn eu hugeiniau wedi datrys y cwbl lot - ganddyn nhw ffrindiau lysh ac maen nhw’n mynd ar wyliau i lefydd hollol lyfli. Mae ambell un yn gyfrifol am gi bach! Rwyt ti eisiau hynny hefyd, ond gall un camgymeriad rŵan chwalu’r cyfan.

Beth os taswn ni’n dweud wrthot ti... Does neb yn eu hugeiniau yn gwybod beth maen nhw’n ei wneud. Hud a lledrith yw’r cyfan, wedi ei gefnogi gan y cyfryngau cymdeithasol mae’n debyg. Dwyt ti ddim angen datrys cyfrinachau bywyd erbyn y byddi di yn dy ugeiniau (nac unrhyw oedran arall, i ddweud y gwir), ond mae’r pwysau i deimlo felly dal yn drwm. Mae’n rhaid edrych ar dy ugeiniau mewn ffordd wahanol...

 

Mae dy ugeiniau yn gyfnod ar gyfer archwilio a gwneud camgymeriadau, ac yn sgil hynny, dysgu. Ti wedi bod drwy gyfnod hir o osod nod a’i ddilyn i’r diben, yn gweithio tuag at yrfa benodol heb wir ddeall y goblygiadau. Gens, taflwch hynny drwy’r ffenest. Dyma’r amser i arbrofi gyda bob dim - gyrfaoedd, diddordebau, teithio. Os nad wyt ti’n mwynhau’r llwybr rwyt ti arni, yna cymera gam i lwybr arall. Mae gen ti ddigon o amser.

Pan mae’n dod i lwyddiant, mae ystyr hynny yn wahanol i bawb. Efallai wedi di hen ffrind ysgol yn croesawu babi newydd i’r byd, hithau’n wyn ei byd ac wedi aros ym mro ei mebyd. Efallai bydd hen ffrind arall wedi teithio i ben draw’r byd er mwyn arwain ar brosiect rhyngwladol, neu efallai bydd rhywun arall wedi sefydlu busnes bach ei hun ac yn teithio ffeiriau crefft o gwmpas y sir, yn joio bob eiliad. Mae’r rhain i gyd yn llwyddiannau, a bob un yn haeddu dathliad bach. Bydd dy lwyddiant di’n edrych yn gwbl wahanol i lwyddiannau eraill, felly canolbwyntia ar yr hyn sydd gen ti a’r hyn fedri di ei wneud. Beth bynnag, mae’r byd yn symud mor gyflym, does dim dal sut fydd y byd yn edrych mewn ychydig flynyddoedd. Efallai nad ydi dy yrfa’n bodoli eto!

 

Traveler Walking In Airport
Working from Home

Mae’n bosib y byddi di’n profi methiant neu ddau dros y blynyddoedd, bod hynny’n camgymeriad sy’n dy fai di’n llwyr neu sefyllfa anffodus sy’n digwydd i ti ble mae'n rhaid i ti bigo’r darnau i fyny. Dydi hynny ddim i fod yn ffordd negyddol o edrych ar bethau, ond yn hytrach atgoffwr o flaen llaw y byddi din’ gallu dod drwyddi, waeth pa fethiant ti’n ei wynebu. Beth bynnag, rwyt ti’n siwr o ddysgu rhywbeth newydd gyda bob methiant!

Felly, does dim rhaid i ti ddatrys cyfrinach bywyd, gan fod Lysh wedi ei ddatrys i ti; does neb yn gwybod beth maen nhw’n wneud.

 

bottom of page