top of page
Gwylia Adra
Os nad wyt ti'n mynd ar dy wylia eleni, mae gweld yr holl "dymps" o luniau heulog ger pwll nofio yn gallu gwneud i rywun deimlo reit genfigennus... Ocê, 'da ni gyd yn gwybod pa mor bwysig ydi peidio mynd i gymharu dy fywyd di gyda bywydau eraill ar lein. Wedi'r cyfan, does neb yn byw bywyd mor berffaith â'r hyn sydd yn cael ei bostio ar y cyfryngau cymdeithasol, nag oes? Ond, wedi dweud hynny, fysa'n braf cael rhannu "dymp" ti dy hun o luniau cystal, bysa? Tybed oes ffordd o joio vibe gwyliau, a chasglu lluniau i'w rhannu, heb adael y wlad, a chael digonedd o hwyl ar y ffordd?

Yr Awr Euraidd
Os wyt ti wedi bod wrthi'n gweithio drwy'r dydd ac eto i gael y cyfle i fynd allan a joio, yna paid diflasu ac aros i mewn o flaen y teledu. Dydi'r diwrnod heb ddarfod eto!
Yr Awr Euraidd yw'r term ar gyfer y cyfnod pan fo'r haul wrthi'n machlud ac yn taflu golau euraidd ar y tir. Dyma gyfle gwych i dynnu lluniau! Cer allan cyn y machlud er mwyn dod o hyd i'r lleoliad perffaith, a chofia gwneud yn siŵr bod batri dy ffôn yn llawn - does dim byd gwaeth 'na mynd i dynnu llun a sylwi nad oes gen ti fatri!
Nid yn unig cyfle am selffi ydi'r cyfnod yma, ond mae'n amser synhwyrol i fynd am dro gan fod y tymheredd fel arfer yn gostwng. Awyr iach ac ychwanegu at y casgliad o luniau? Lysh!
Gwisgo Fyny
Un i uchafbwyntiau bob gwyliau ydi cymryd amser i baratoi a gwisgo fyny am bryd o fwyd. Wel, does dim rheswm i ti beidio gwneud hynny adref!
Oes gen ti ffrog lyfli, ond yn aros am y cyfle perffaith i'w wisgo? Wyddost ti, yr amser perffaith i wisgo'r ffrog yna ydi... nawr! Does dim rhaid i ti aros am achlysur arbennig, achos TI ydi'r achlysur arbennig!
Felly, gwisga'r dillad fysa ti fel arfer wedi eu cadw i un ochr ar gyfer gwyliau a gwna dy golur yn union fel wyt ti eisiau a cher am swper - mewn bwyty neu lawr yn dy gegin!


Lan môr... Drwy'r dydd!
Yr hyn sy'n wych am wyliau ydi treulio diwrnodau cyfan yn gwneud dim byd - heb deimlo'n euog! Treulio diwrnod cyfan ar lan y môr heb ddim i dy boeni a neb yn disgwyl dim byd gen ti.
Lwcus, felly, bod amrywiaeth o lannau'r môr yn aros amdanat yng Nghymru fach, yn aros i ti ymweld â nhw er mwyn joio gwneud dim byd.
Meddylia... Y môr, llyfr da a digonedd o fwyd i gadw ti fynd o ganol y bore hyd at amser te. Hefo parasol ac eli haul, mae'n hawdd iawn twyllo dy hun i feddwl dy fod ar wyliau!
Ymwelydd lleol
Mae gan ein milltir sgwâr gymaint i'w gynnig, ac mae'n eithaf rhyfedd weithiau meddwl bod rhai pobl yn dod i dy ardal di am wyliau! Felly, meddylia... Ble mae ymwelwyr i dy ardal leol di'n mynd?
Gellir treulio prynhawn mewn oriel a darganfod artist lleol newydd, neu dod o hyd i lwybr cerdded newydd. Ceisia feddwl am anturiaethau anghyffredin yn dy sir di. Tybed pa rai fydd yn gwneud y lluniau mwyaf diddorol?
bottom of page
