top of page
Gwen a’r Gwirionedd
“Celwydd Noeth” gan Heiddwen Tomos

Ffraeo rhwng ffrindiau, problemau â chariadon, arholiadau, bwlio... Dyma sy’n mynd law yn llaw gyda phrofiad unrhyw ddisgybl sydd erioed wedi cerdded coridorau ysgol. Ond, erbyn heddiw, mae’r byd ar-lein wedi agor drws tywyll sy’n effeithio ar bob eiliad o’ch dydd. Llynedd, bu i 77% o ferched rhwng 11 a 21 oed brofi aflonyddu ar-lein, a dyma’n union sydd wedi digwydd i Gwen, un o brif gymeriadau Heiddwen Tomos yn ei nofel Celwydd Noeth.
Yn awdures weithgar thu hwnt, roedd Lysh yn falch iawn o fachu’r cyfle i’w chyfweld rhwng ei phrysurdeb o ddysgu ac ysgrifennu!
Lysh Cymru: Mae’r nofel yma yn dilyn stori Heb Law Mam, felly sut mae pethau wedi datblygu? Oes raid darllen y cyntaf er mwyn mwynhau’r nofel newydd?
Heiddwen Tomos: S’dim rhaid bo ti wedi darllen y gyntaf i ddeall yr ail un o gwbl, y cyfan sydd wedi digwydd mewn ffordd ydi bod y cymeriadau wedi aeddfedu - y disgyblion a’r athrawon! ‘Da ni’n gweld ochr wahanol i sawl cymeriad bellach. Yn y nofel gyntaf, roedd yr athro Mr Llew ‘da ni, athro reit cŵl a chwit chwat, ond wedyn yn y nofel ‘ma fi’n credu mae e wedi cyrraedd pen ei dennyn!
Yn Heb Law Mam ry’n ni’n cwrdd â chymeriad o’r enw Gwen, ac mae hi’n hogan reit gâs. Yn y nofel yma, ry’n i’n dod i adnabod hi’n well. Bellach, mae hi’n ddisgybl ym mlwyddyn 10 ac mae hi’n ffradach... Mae stori Gwen yn stori dwi’n gobeithio bydd pobl yn gallu uniaethu gyda hi, yn gallu teimlo drosti a magu ychydig bach o empathi yn hytrach ‘na throi yn ei herbyn. Mae lot yn troi yn ei herbyn, ond drwy edrych ar yr ochr arall i stori Gwen dwi’n gobeithio y bydd pobl yn meddwl dwywaith cyn agor eu cegau.
LC: Mae prif themâu’r nofel yma yn frawychus, sef aflonyddu ar-lein. Mae cariad Gwen yn rhannu lluniau preifat ohoni gyda’r ysgol gyfan, ac mae hyn yn rhywbeth sydd yn digwydd go iawn ac yn lot fwy aml ‘na mae rhywun yn tybio, dydi?
HT: Ydi, mae’n broblem ym mhob man. Dwi’n athrawes ac yn fam i 3 o blant, ac maen nhw’n blant eithaf call bydden i’n meddwl, ond ti byth yn gwybod beth sy’n mynd ‘mlaen, ar-lein yn arbennig. Yn aml, mae rhywun yn cael ei denu i wneud y pethau ‘ma, a ti’n gwybod bod o’n rhywbeth gael ac unwaith bod e ‘na, mae e ‘na am byth a dyw rhywbeth fel’na byth yn gadael rhywun. Mae’r groten Gwen yn gwneud rhywbeth dwl ac mae hi’n meddwl ei bod hi mewn cariad a... wnâi ddim dweud gormod, ond mae rhywun yn ei bradychu hi.
LC: Rwyt ti’n awdures sydd byth yn ofn trafod y pynciau hynny sydd, mewn gwirionedd, yn anodd eu trafod. Pa mor bwysig ydi hynny i ti?
​
HT: Hynod o bwysig. Wel, nes i gychwyn yn 2016 gyda nofel eithaf dirdynnol gyda lot o bethau bach tywyll yn digwydd ynddi, ond roedd bach o hiwmor drwy’r trwch. Mae ychydig o hiwmor yn gwneud pethau’n haws rhyw ffordd. Gyda’r nofel yma, gydag ychydig o hiwmor ynddi, rwy’n gobeithio ei bod hi’n stori sy’n tynnu ti mewn, yn hala ti i deimlo trueni ac yn brofiad bydd rhywun yn mynd i geisio osgoi yn dilyn darllen y nofel. Dwi’n gobeithio ei bod yn ffordd o agor y drws am drafodaeth bellach sy’n hybu pobl ifanc i holi am help os maen nhw angen hynny.

Fi’n gobeithio bod y nofel yn agoriad llygad sy’n trafod pethau cyfoes, pethau doeddwn i ddim yn gorfod mynd trwyddyn nhw pan o’n i’n yr ysgol ond bellach mae o’n rhywbeth ry’n ni fel staff yn aml yn gorfod mopio fyny, yr hyn sydd yn digwydd arlein ar y penwythnos, gyda’r nos. Mae’r pethau sy’n gwynebu pobl heddiw yn bethau sy’n clwyfo nhw am amser hir.
LC: O gip sydyn o’r nofel, mae’n glir iawn ble mae’r nofel wedi cael ei seilio! Wyt ti’n meddwl bod tafodiaith yn bwysig mewn nofel?
HT: Ydw! Fues ti’n gweithio’n agos iawn gyda Teleri o’r Lolfa, sy’n cribo drwy’r nofel i bigo allan geiriau sydd ddim yn rhy gyfarwydd ar draws y wlad, a fu cryn dipyn o drafodaeth am hyn! Fi’n credu bod tafodiaith yn beth iach, ac er bod e’n ddealladwy i bawb o bob cwr y wlad, mae’n glir bod y nofel wedi ei glymu i’r ardal yma.
Mae Celwydd Noeth ar gael nawr yn dy siop lyfrau lleol ac arlein!
bottom of page