top of page
Gwanwyn y Gwneud -
Rhestr Ysbrydoliaeth

Dyma ni, mae hi’n dechrau cynhesu! Wel, dyna mae’r rhagolygon yn gado, beth bynnag.
Mae gymaint o edrych ymlaen am y Gwanwyn, unwaith mae hi yma mae’n gallu teimlo’n amhosib gwneud bob dim wyt ti eisiau gwneud - yn enwedig pan rwyt ti’n ceisio cynllunio yn y group chat! Felly, defnyddia’r amser yma rŵan er mwyn rhoi trefn ar bethau a chreu rhestr o’r pethau rwyt ti’n bwriadu eu cyflawni, a dyma restr o syniadau am ysbrydoliaeth:
Bydda’n ymwelwr yn dy dref dy hun!
Wyt ti erioed wedi meddwl, pam bod gymaint o ymwelwyr yn dy ardal leol di? Pam bod twristiaeth yn rhemp a beth yn union yw’r atyniad? Yna efallai bod hynny’n arwydd i ti ddod yn ymwelwr dy hun am ddiwrnod!
Dydi hyn ddim yn gorfod bod yn gostus, cofia. Mae’n gallu golygu mynd am dro i amgueddfa leol (a phwy â ŵyr, efallai y byddi di’n dysgu rhywbeth newydd ar dy stepen ddrws!) neu fynd am dro fyny mynydd adnabyddus, neu hyd yn oed mynd am hufen iâ i’r traeth sydd wastad yn orlawn yn yr haf.
A’r peth gorau am fanteisio ar dywydd braf y Gwanwyn er mwyn bod yn ymwelwr yn dy ardal leol di? Mae’n hollol bosib y bydd pethau’n llawer tawelach i gymharu â’r haf!


Cymryd rhan yn Her Ddarllen Gwobrau Tir Na N-Og
Oes gen ti addewid flwyddyn newydd i ddarllen mwy dwyt ti heb cweit cychwyn arni eto? Dim esgusodion, mae Her Ddarllen Gwobrau Tir Na N-Og yma’n barod i dy ddal i gyfrif!
Nid heriau arferol yw’r rhain - mae digon o heriau darllen sydd digon hawdd eu cyflawni i dy roi ar ben ffordd dy siwrnai am flwyddyn o ddarllen. Boed hynny’n “ailddarllen eich hoff lyfr pan oeddech chi’n blentyn” neu “rhannu hoff lyfr ar y cyfryngau cymdeithasol”, mae ‘na her neu ddau at ddant bawb. Heb ddod o hyd i eistedd gyda llyfr eto? Yna mae’r her “gwrando ar lyfr” yn barod ar eich cyfer, neu hyd yn oed “gwrando ar bodlediad am ddarllen”. Cer amdani drwy glicio yma:
https://llyfrau.cymru/gwobrau/tir-na-nog/her-ddarllen-gwobrau-tir-na-n-og-2026/
Edrycha i fyny!
Gwanwyn eleni, mae cryn dipyn o ddigwyddiadau yn digwydd uwch ein pennau. Efallai dy fod wedi clywed am brosiect Artemis gan NASA, gyda’r bwriad o lanio ar y lleuad unwaith eto ac ystyried adeiladu safle arbennig ar y lleuad, gyda’r bwriad pellach o anfon dynolryw i’r blaned Mawrth. Wel, mae sôn bod y lansiad nesaf ar droed! Maent wedi clustnodi’r 6ed o Fawrth fel y dyddiad lansio mwyaf ffafriol nesaf, ond gall hynny newid yn ddibynnol ar amryw o amodau gan gynnwys y tywydd. Bydd y criw yn hedfan heibio’r lleuad y tro hwn, ddim yn glanio, ond mae’n hediad sydd yn archwilio i mewn i allu’r dechnoleg i gwblhau’r daith yn effeithiol.
Ffansi gweld sêr yn gwibio uwch dy ben? Yna rho’r dyddiadau yma yn dy ddyddiadur! Rhwng y 16eg o Ebrill a’r 25ain, bydd cawod o sêr gwib Lyrid yn heidio heibio’r ddaear. Er mai’r 22ain yw’r noson y bydd yr awyr ar ei phrysuraf, mae’n werth cadw golwg drwy gydol y cyfnod. Oes gen ti ddymuniad yn barod?!


Adeiladu den
Ocê, ella ychydig bach yn blentynnaidd... ond dychmyga! Casgla’r holl flancedi o amgylch y tŷ, adeiladu’r den fysa'r “ti” o dy blentyndod mor genfigennus ohoni, cer i brynu digonedd o sothach i’w bwyta a threulia’r diwrnod yn cuddio a dal fyny â chyfres Amor & Mynydd. Pwyntiau bonws os wyt ti’n gallu cynnwys goleuadau tylwyth teg yn y den!
bottom of page
