top of page
Gosod dy Ffin
%20(1).png)
Mae yna lot o sôn am osod ffin, neu boundary. Ond beth yn union ydi hynny? Wel, mae gosod ffin bersonol yn golygu datgan beth wyt ti’n teimlo’n gyffyrddus gyda. Hynny yw, mae’n esbonio ble mae dy glydfan, neu comfort zone, di yn gorffen, yn gorfforol ac yn feddyliol.
Ond, fel lot fawr o bethau, mae’n llawer haws dweud ‘na gwneud!
Pam gosod ffin?
Mae deall y rheswm am osod ffin yn hynod o bwysig. Efallai y bydd rhai yn camddeall y syniad fel esgus am fod yn hunanol, fel ffordd o osgoi gwrthdaro neu y bydd gosod ffin bersonol yn gwthio pobl i ffwrdd ac yn ynysu dy hun. Y gwir amdani ydi, mae gosod ffin yn golygu y byddi di’n gwarchod dy hedd personol di, er dy les di, fel dy fod di’n gallu bod ar dy orau i’r unigolion o dy gwmpas di. Ac o ran gwthio pobl i ffwrdd? Wel, yr unig bobl fydd yn teimlo fel eu bod nhw’n cael eu gwthio i ffwrdd ydi’r rhai sydd ddim yn dy barchu. Bydd y rhai sy’n ffrindiau go iawn yn parchu, ac yn aros.
Ar y socials
Os nad wyt ti wedi arfer gyda gosod ffin, mae cychwyn ar y cyfryngau cymdeithasol yn ffordd wych o ymarfer hynny. Pam? Achos ti sy’n rheoli’r cynnwys rwyt ti am ei ddilyn! Oes dylanwadwr neu seleb yn dy wylltio, neu oes hen ffrind ysgol yn rhannu negeseuon sy’n dy ypsetio? Mae’n berffaith iawn i ddad-ddilyn unrhyw un. Rheol ddefnyddiol ydi; os na fyddi di’n croesawu rhywun i eistedd yn dy ystafell fyw a sgwrsio dros baned a bisgedi, yna pam fysa ti’n eu dilyn nhw ar y cyfryngau cymdeithasol? A chofia, os wyt ti wir ddim eisiau gweld unrhyw friwsionyn o gynnwys rhywun, mae’r opsiwn i flocio yn un defnyddiol dros ben.
Mae gen ti gyfle i roi ffin ar yr hyn rwyt ti’n rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol, hefyd. Er bod rhai yn hoffi postio lluniau yn ddyddiol neu rannu bob eiliad o’r dydd ar eu stories, does dim rhaid i ti wneud hynny. Ti sy’n penderfynu beth wyt ti’n rhannu ar lein.
​
%20(2).png)
.png)
Mae “na” yn frawddeg lawn
Mae dweud “ia” i bob dim yn rhy hawdd o lawer, gyda’r syniad o ddweud “na” yn un sy’n teimlo’n ddigywilydd tu hwnt - i gychwyn, beth bynnag. Os mae rhywun yn gofyn i ti weithio shifft ychwanegol, a thithau methu gwynebu diwrnod arall o gwmni pobl, dydi troi’r cynnig i lawr er dy les di ddim yn mynd i ddiweddu’r byd, ac mae dweud “na” heb egluro ymhellach yn iawn, hefyd. Byddai “Diolch i ti am feddwl amdanaf, ond alla i ddim gweithio bryd hynny” yn gwneud y job yn grêt. Does dim dwywaith y bydd y rhai mwyaf busneslyd yn ein plith yn holi ymhellach, ond does dim rhaid i ti fynd i unrhyw fanylder os nad wyt ti eisiau - ti sy’n gosod y ffin.
​
bottom of page