top of page
Gorwneud a Gorflino... a sut i’w osgoi!

Wyddost ti fod 94% o ferched wedi profi pwysau neu straen ofnadwy yn y flwyddyn ddiwethaf, yn ôl “The Burnout Report” gan Mental Health UK?
Burnout - term sydd bellach wedi gosod ei hun yn daclus yn ein bywydau o ddydd i ddydd. Er bod burnout, neu orflino, yn derm sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer straen yn y gweithle, does neb yn imiwn i’r cyflwr. Myfyrwyr, gofalwyr ifanc, rhieni ifanc... Does dim diwedd i’r rhestr, ac felly mae’n bwysig i ni ddod i ddeall beth ydi gorflino fel ein bod yn gallu ei osgoi.
Dyma derm sy’n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio straen eithafol a pharhaol, a hynny wedi ei brofi dros gyfnod o amser. Er bod symptomau straen a gorflino yn debyg i ryw raddau, mae gorflino fel petai’n gam ymhellach. Pan fo rhywun yn profi straen, mae ei effeithiau yn rai byr dymor sy’n effeithio ar eu cwsg, emosiynau ac efallai ar eu profiadau cymdeithasol. Ar y llaw arall, mae gorflino yn fwy eithafol - mae’n dod gyda theimlad sylweddol o anobaith na fydd y straen byth yn pylu, sy’n gallu arwain at le tywyll dros ben. Mae’n gallu dod gyda llu o symptomau, sy’n amrywio i bawb. Mae rhai yn profi cur pen rheolaidd neu drafferthion anadlu tra bod eraill yn profi teimlo’n ddiwerth neu drafferthion canolbwyntio. Er nad ydi Sefydliad Iechyd y Byd ddim yn nodi gorflino fel cyflwr meddygol, mae’n sicr yn gallu arwain ar gyflyrau fel gorbryder ac iselder ac felly mae’n holl bwysig ceisio lleddfu ar y straen cyn iddo fynd yn ormod.


Felly, sut i’w osgoi?
1. Manteisia ar bob saib
Oes gen ti gyfle am wyliau bach neu hyd yn oed trip i’r siop goffi? Manteisia ar bob cyfle, boed hynny’n saib ar ben dy hun neu gyda ffrindiau’n gwmni. Boed yn fyfyriwr neu’n weithiwr, cymera dy awr ginio o ddifrif a phaid â bwyta dy becyn bwyd ger y ddesg! Oes gen ti amser gwyliau i ffwrdd o’r gwaith sy’n ddyledus i ti? Cymera bob un diwrnod sydd gen ti. Rwyt ti’n haeddu bob cyfle!
2. Gosod dy ffin
Cyn i bethau mynd yn ormod, cofia gosod ffiniau. Hynny yw, os wyt ti’n gorffen gwaith am 5 yna rhaid i ti orffen am 5. Os wyt ti’n mynd ar wyliau, yna ti’n mynd ar wyliau a ddim yn ateb galwadau gan dy gyd-weithwyr. Mae gosod ffin yn heriol, ond gydag ychydig o ymarfer mae pethau’n dod yn haws.
3. Gofyn am gymorth
Dydi’r uchod ddim yn mynd i ddatrys bob problem sydd yn gysylltiedig â gorflino. Wrth gwrs, mae gwneud y pethau bychain yn gallu cael effaith bositif, ond weithiau mae gofyn am gymorth yn gwneud byd o les. Os wyt ti’n teimlo bod y straen yn effeithio ar dy fywyd mewn ffordd negatif sy’n golygu nad wyt ti’n gallu joio bywyd fel o ti arfer, yna mae ymweld â dy feddyg teulu yn gam synhwyrol - ond cam anodd. Os wyt ti’n teimlo’n ddigon cyfforddus i fynd i’r feddygfa, cer amdani. Os wyt ti’n bryderus, yna mae siarad gyda llinell gymorth yn gallu bod o gymorth. Mae gan Lysh dudalen sy’n nodi manylion cyswllt defnyddiol, clicia yma i’w ddarllen.
bottom of page