top of page

Gofalu Gaeafol:

Edrych ar ôl eich croen

Handwashing under faucet

Dydi o’n rhyfedd sut mae’r tymhorau yn ein synnu bob blwyddyn, fel petai hi erioed wedi bod mor oer o’r blaen na chwaith mor dywyll gyda’r nosau? Syndod yw, hefyd, bod ein croen yn ymateb i’r oerni bob blwyddyn.

Sut mae dy groen di yn ymateb i’r gaeaf? Mae rhai yn hen gyfarwydd gyda gwefusau sych a phoenus, tra bod eraill yn profi sychder mewn mannau eraill o’r wyneb. Mae yna lu o dechnegau syml fedri di eu gweithredu, a hynny heb wario ffortiwn ar gynnyrch drud!


Cynnes - nid poeth!

Deniadol iawn ydi gwres, yn arbennig ar foreau oer, ond pan mae’n dod i olchi’r wyneb yn y gaeaf mae troi’r tymheredd i lawr yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr. Paid â phoeni, does neb yn awgrymu golchi’r wyneb gyda dŵr oer, chwaith! Yn hytrach, mae cadw’r gwres yn gynnes yn gwarchod amddiffynfa naturiol dy groen ac yn helpu atal croen sych. Er bod hyn yn newid syml i dy drefn gofal croen, gydag amser mae’n gallu gwneud byd o wahaniaeth - a hynny heb wario dim arian o gwbl!
 

Pelydrau’r Haul

Mae gofalu am ein croen yn ystod yr haf yn wybodaeth gyffredin iawn. Rydym ni i gyd yn ymwybodol am y pwysigrwydd o warchod ein croen rhag pelydrau pwerus yr haul! Yn y gaeaf, dydi’r pelydrau ddim mor gryf, wrth gwrs, ond maent yn bodoli beth bynnag. Os wyt ti’n un am wisgo colur, ymchwilia i mewn i gynnyrch o safon sydd yn cynnwys SPF er mwyn taro dau dderyn gydag un garreg. Neu, os nad wyt ti’n gwisgo colur, ymchwilia i mewn i eli sydd yn cynnwys SPF.

Lleithder

Mae’r union gynnyrch dylid ei defnyddio yn amrywio i bawb (ac mae’n bwysig derbyn cyngor gan rywun profiadol) ond un  cynnyrch sydd yn ddefnyddiol iawn er mwyn gwarchod y croen yn y gaeaf ydi eli lleithder, neu moisturiser. Yn ystod y gaeaf, mae’r croen yn gallu mynd yn sych ofnadwy ac mae hynny oherwydd bod yr aer yn sych – a phan fo’r amgylchedd o dy gwmpas yn sych, mae’n bosib y bydd dy groen di’n sych, hefyd. Yr amser gorau i ddefnyddio’r cynnyrch yma ydi ar ôl golchi’r wyneb, er mwyn sicrhau bod y lleithder yn aros yn y croen a ddim yn dianc.

Cofia, mae gan bawb math croen gwahanol, a does dim un cynnyrch yn mynd i siwtio pawb. Mae’n bwysig sgwrsio gydag arbenigwr er mwyn sicrhau nad wyt ti’n defnyddio rhywbeth sydd yn gwneud niwed, a chofia os byddi di’n profi poen neu gosi ar ôl defnyddio cynnyrch i atal ei ddefnydd yn syth!

 

Facial Cream
Hand on shoulder

Sychu

Ar ôl ymolchi, mae’r ffordd wyt ti’n sychu dy wyneb yn gallu effeithio dy groen. Mae’n bosib bod yn rhy frwnt wrth sychu gyda thywel arferol, felly yn hytrach ‘na rhwbio dy wyneb dylid patio’n ysgafn er mwyn amsugno’r dŵr sydd yn weddill ar dy wyneb. Er bod tyweli arbennig ar gael ar gyfer gofal croen, does dim rhaid buddsoddi - cyn belled â bod y towel yn un glân, cer i batio!

Cyngor

Os wyt ti’n dioddef gyda chroen sydd yn brifo, yn sych ofnadwy neu os oes gen ti rywbeth sydd yn dy boeni di, mae’n syniad da i holi meddyg neu fferyllydd am gyngor arbenigol.
 

bottom of page