top of page
Gofal yn y Gwres
Mae pethau'n poethi – yn llythrennol! Ar ôl dechrau digon salw i'r haf, mae'r haul wedi penderfynu ymweld â Chymru fach – meddai nhw, beth bynnag!
Mae'r tymheredd yn codi dros yr wythnosau nesaf ac, yn ôl y rhagolygon, yn gaddo aros yn uchel am sbel hir i ddod (er, pryd oedd y tro diwethaf i'r rhagolygon fod yn fanwl gywir?!). Hyd yn oed os bydd y rhagolygon yn hollol groes i realiti, dyma’r tymor ble mae’r haul ar ei gryfaf, felly mae gofal croen dal i fod yn hynod o bwysig, beth bynnag! Dyma gyfle felly i baratoi am yr hyn sydd i ddod, a pha ffordd well o gychwyn na gydag eli haul. Wyt ti wedi sortio dy ofal croen haf eto? Wedi'r cwbl, er nad ydi Cymru yn wlad boeth a trofannol o bell ffordd, mae edrych ar ôl ein croen adref yr un mor bwysig ag amddiffyn ein croen pan fyddwn ar wyliau mewn gwlad dramor. Wyt ti wedi mynd ati i brynu cynnyrch ac eli haul o'r newydd eleni? Beth? Wyt ti am ddefnyddio'r un rhai â llynedd?! Paid â dibynnu ar hen gynnyrch, a dyma i ti pam!
"Mae edrych ar ôl ein croen adref yr un mor bwysig ag amddiffyn ein croen pan fyddwn ar wyliau mewn gwlad dramor."
Oes gen ti botel o eli haul o gwmpas? Wel, cer i edrych arni. Wyt ti'n gweld llun bach o rywbeth sy'n debyg i bot bach, gyda rhif y tu mewn? Efallai fydd o'n nodi "12m", sy'n golygu 12 mis. Dyma beth yw hyd bywyd effeithiol y cynnyrch felly, ac wedi'r 12 mis mae ei effeithlonrwydd yn dirywio'n sylweddol. Y poteli wnes di brynu llynedd? Efallai na fyddan nhw'n dy amddiffyn rhag pelydrau peryglus yr haul, felly mae'n syniad gwaredu'r cynnwys, ailgylchu'r botel a phrynu eli ffres!
​
Rŵan, pan fyddi di'n chwilio am gynnyrch newydd, beth sy’n rhaid edrych allan amdano? Wel, sylwa ar y botel unwaith eto. Weli di gylch gyda'r llythrennau UVA a sêr y tu mewn? Mae hyn yn nodi pa mor effeithiol ydi'r eli er mwyn ein gwarchod rhag pelydrau uwchfioled A. Paid cyboli gydag unrhyw eli sy’n llai na 4 seren - mae 5 seren yn well! Edrycha am y sêr pan fyddi di'n dewis dy eli haul eleni.
​
Fyddi di'n siŵr o fod yn ymwybodol fod gan bob eli haul rif sy'n dynodi ffactor amddiffyn rhag yr haul, neu SPF (sun protection factor). Dyma'r rhif mawr ar y blaen fel arfer. Cofia ddewis eli sy'n nodi 30 neu uwch. Yr uchaf, y gora! Paid â bod ofn defnyddio ffactor 50 hyd yn oed, achos rwyt ti'n siŵr o gae rhyw faint o liw haul, beth bynnag!
​
Mae yna sawl peth allwn wneud i amddiffyn ein hunain rhag yr haul a'r gwres, sy'n gwarchod ein hiechyd rŵan (osgoi llosgi a blinder haul) ac iechyd hirdymor (clefydau croen a'r fath). Felly, mae cymryd pob cam bach posib i atal difrod gan yr haul yn bwysig, a dyma ambell top tip pellach:
​
-
Aros tu mewn neu yn y cysgod rhwng 11yb a 3yp. Dyma pryd mae'r haul ar ei gryfa!​
-
Cofia ofalu am dy groen hyd yn oed pan mae hi'n gymylog. Mae pelydrau uwchfioled yn dod trwy'r cymylau yn hawdd.​
-
Dŵr! Mae yfed digon o ddŵr yn holl bwysig er mwyn cadw'n iach yn ystod tymor yr haf.
​
bottom of page