top of page

Glanhau’r Gwanwyn... yn yr Hydref!

Autumn Vibes

Mae’r amser wedi dod! Amser swatio, gyda dy hoff gyfres deledu, ffilm neu lyfr, a digonedd o bethau da i dy gadw i fynd.

Wrth i ti setlo lawr i orffwys, y peth olaf wyt ti angen ydi eistedd ymysg dillad sydd angen eu cadw, llawr sydd heb weld sugnwr ers wythnosau a geiriach yn cuddio sgrin y teledu. Mae’n hen bryd am sesiwn o lanhau go iawn - os am ymlacio, mae’n rhaid ymlacio’n iawn!

Ddim yn siŵr ble i gychwyn? Dyma restr fer i dy roi ar ben ffordd.

Y Silff Ffenest

Mae clirio dy silff ffenest yn gallu gwneud byd o wahaniaeth, a’r newyddion da ei fod yn dasg hawdd iawn... ac yn un boddhaol hefyd! Fel arfer, mae’r silff ffenest yn fan sydd yn cael ei anghofio amdano yn aml ac mae budred yn eistedd yno nes bod rhywun yn ei lanhau. Felly, agora’r cyrtens allan o’r ffordd a cher i nôl y cynnyrch glanhau. O fewn munudau, bydd y cadach yn fudur a’r silff ffenest llawer mwy glân, dy ystafell yn arogli ychydig mwy ffres - a byddi di’n teimlo fel dy fod wedi gwneud lot mawr iawn o waith gydag un dasg syml!


Cylchdroi’r Wardrob
 
Dyma dasg sydd yn cymryd ychydig bach mwy o ymdrech, ond ydi dy wardrob di’n gorlifo? Wel, mae’n bosib bod yr holl ddillad hafaidd yn cymryd lle'r dillad y byddi di’n gwisgo go iawn dros y misoedd oer. Os oes gen ti le i storio’r dillad na fyddi di’n eu gwisgo dros y misoedd nesaf, yna cer amdani! Os wyt ti’n fwy trefnus fyth, efallai y byddi di’n dod o hyd i bethau i’w gwerthu neu i’w rhoddi i siop elusen - ond mae eu storio er mwyn gwneud ffasiwn aeafol ychydig bach yn haws yn wych am y tro.
 

Open Wardrobe
Bedroom with Orange Accents

Gwely yn y Golch

Os byddi di’n ddigon ffodus i allu manteisio ar ddiwrnod braf (bonws os mae yna awel dda), yna mae’n hen bryd taflu bob dilledyn gwely yn y golch - ac mae hynny’n golygu popeth! Y blancedi sy’n cael ei lusgo o un ystafell i’r llall pan mae hi’n oer? Golch! Y clustogau addurniadol sydd yn cael eu taflu ar y llawr pan dwyt ti ddim yn eu defnyddio nhw? Golch! Her ydi ceisio golchi popeth a chael nhw’n ôl ar y gwely cyn nos, yn arbennig gyda’r tywydd mor ansefydlog, ond mae popeth yn teimlo’n fwy hwylus fel gêm, dydi?! A phan fyddi di’n neidio i mewn i wely sydd yn ogleuo fel diwrnod braf o’r hydref, yna bydd hynny’n wobr gwerth chweil!

Agora’r Ffenestri!

Y ffordd orau o waredu ar arogl ych-a-fi ydi drwy agor y ffenestri - ond i ti gofio eu cau nhw! Does dim byd gwaeth ‘na gwario oriau yn glanhau a mynd i deimlo’n benwan oherwydd yr holl gemegau glanhau. Gydag ychydig o awyr iach, byddi di’n gwneud lles mawr i ti ac i’r tŷ!
 

bottom of page