top of page
Galw am Lenorion i Ddathlu Pen-blwydd

Pwy sydd ddim yn joio dathlu pen-blwydd?
Draw ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae adran arbennig yn dathlu pen-blwydd godidog - mae Adran y Gymraeg yn 150 oed! I ddathlu’r achlysur hwn, mae myfyrwyr yr adran wrthi’n trefnu cylchgrawn arbennig, a hynny drwy alw ar lenorion, y rhai profiadol a’r rhai newydd sbon, i gyfrannu er mwyn arddangos talentau ysgrifennu creadigol ein gwlad.
Un o’r criw sy’n cydlynu’r cylchgrawn ydi Elliw Mair, sy’n gweithio gyda’i chyd-fyfyrwyr ar y prosiect sy’n rhan o’u hastudiaethau ac eglurai mwy am y prosiect a’r gystadleuaeth sy’n cyd-fynd.
“Bob blwyddyn, mae’n rhaid i fyfyrwyr blwyddyn gyntaf Cymraeg Proffesiynol Prifysgol Aberystwyth lunio a rhyddhau cylchgrawn fel rhan o’n cwrs. Eleni, mae’n flwyddyn fawr i’r adran gan ei bod yn dathlu ei phen-blwydd yn 150 oed ac felly rydym yn agor y cylchgrawn i chi!”
Y thema eleni? Dathliad, wrth gwrs! Ond pa fath o ddarnau mae Elliw a gweddill y myfyrwyr yn chwilio amdanynt?
“Bydd y cylchgrawn hwn yn cynnwys eitemau creadigol byr, sydd heb eu cyhoeddi eisoes, megis cerddi, limrigau, straeon byrion, darnau llên meicro ac yn y blaen. I ddathlu pen-blwydd yr adran, rydym yn cynnal cystadleuaeth ysgrifennu greadigol a bydd y darn gorau, ym marn y bwrdd golygyddol, yn derbyn taleb gan Gyngor Llyfrau Cymru. Ni allwn addo bydd pob darn yn cael eu cynnwys yn y cylchgrawn, ond rydym yn gobeithio cynnwys gynifer â phosib!”

Delwedd: aber.ac.uk

Rhywbeth at ddant pob ysgrifennwr creadigol y wlad, felly! Cofiwch anfon eich gwaith draw at Elliw, a hynny cyn y dyddiad cau fis nesaf.
"Os oes gennych ddiddordeb, yna anfonwch eich gwaith at ellmair14@gmail.com erbyn yr 8fed o Fawrth 2025."
Digon o amser i roi pensil ar bapur, felly. ‘Da ni’n edrych ymlaen at ddarllen y cylchgrawn a’r holl waith gorffenedig!
bottom of page