top of page

Gair gan y Golygydd:
O'r Babell
Erbyn i'r darn yma gael ei gyhoeddi, mi fydd maes yr Eisteddfod yn prysur ddychwelyd i dir fferm unwaith eto. Dwi'n ysgrifennu hwn o fy mhabell glyd, gyda fy meibion yn cysgu'n sownd. Wel, mae un yn trio cysgu, beth bynnag, ond mae miwsig o Lwyfan y Maes yn rhy dda i beidio gwrando!
Mi fyddwch chi, erbyn hyn, wedi clywed y newyddion am ddyfodol cyllido cylchgronau Cymru a dyfodol posib Lysh. Heddiw, ges i air gyda newyddiadurwr ar gyfer Newyddion S4C ac mae'n rhaid cyfaddef mai rhyfedd iawn oedd cael fy nghyfweld a ddim yn yr un sy'n cynnal y cyfweliad!
Mae Lysh yn cael ei ariannu'n bennaf gan Gyngor Llyfrau Cymru ac, bob ychydig o flynyddoedd, mae angen gwneud cais am dendr er mwyn parhau gyda'r gwaith am bedair blynedd arall. Y tro hwn, fodd bynnag, mae Lysh ymysg y rhai sydd heb dderbyn cyllid.
Rhaid i mi gyfaddef, dwi'n gweld hi'n anodd iawn i wybod be i ddweud. Mae'n siom enfawr, heb os, ond wrth ystyried yr holl dda sydd wedi dod o Lysh dros y blynyddoedd, mae'n ychwanegu haen drwchus o dristwch sy'n dwyn bob gair gennai.
Cychwynnodd Lysh yn 2019 gan Llinos Dafydd ar ôl iddi sylweddoli bod bwlch enfawr ym myd y cyfryngau ar gyfer merched ifanc ac mae Lysh wedi sefyll yn gryf yn y bwlch hwnnw ers ei ddyfodiad. Yn blatfform i dalent newydd, mae sawl cyfrannwr wedi mynd ymlaen i fagu gyrfaoedd llewyrchus, yn awduron, yn gyflwynwyr ac yn feirdd. Mae dod ar draws rhywun sydd yn nodi ei bod wedi mwynhau erthygl benodol neu fod erthygl wedi ei helpu mewn rhyw ffordd yn brofiad heb ei ail.
Ar lefel bersonol, mae bod yn olygydd ar Lysh wedi bod yn y swydd ddelfrydol. O sgyrsiau difyr gyda chantorion i ymchwilio i mewn i bynciau dwys, does dim eiliad lle nad ydw i wedi mwynhau. Dwi wedi cael gwireddu breuddwyd drwy fod yn ysgrifennydd (dyna oeddwn i eisiau bod ers o'n i'n blentyn bach, coeliwch neu beidio!), ac mae bod yn olygydd yn fonws. Wrth drefnu cynnwys, byddai'n defnyddio adborth chi'r darllenwyr yn uniongyrchol, felly mae bod mewn swydd olygyddol sydd â pherthynas mor agos gyda'r gynulleidfa wedi bod yn brofiad arbennig - felly diolch i chi am hynny!


Fedra i ddim dychmygu pa mor anodd oedd penderfyniad y cyngor i beidio rhoi cyllid i Lysh a'r holl gylchgronau eraill, cylchgronau sydd mor bwysig i'w cynulleidfaoedd eu hunain. Mae'r pot o arian ar gyfer y math yma o gelfyddyd yn lleihau gydag amser, ac mae hynny'n wir ar draws y sector creadigol.
Felly, beth mae hyn yn ei olygu i ti fel darllenydd? Wel, am y tro, mae popeth fel yr hen arfer draw ar wefan Lysh. Mae dal yr un croeso cynnes i ti gysylltu a chyfrannu, dal erthygl wythnosol yn barod amdanat a'r cylchlythyr yn neidio mewn i dy flwch e-bost gyda'r diweddaraf.
Byddwn yn siŵr o dy ddiweddaru ymhen ychydig ond tan hynny, cofia;
Bydd lafar, bydd lawen, bydd Lysh!
bottom of page

