top of page

Gair gan y Golygydd

DJI_20240309151004_0110_D.JPG

Rhaid i mi gyfaddef, dydw i ddim yn un am sgrolio ar y socials yn ormodol. Wir yr! Y gwir amdani ydi bod y profiad o joio’r socials wedi ei suro i mi - gan newyddion ffug, casineb tragwyddol ac algorithm sydd yn gyndyn i fy ypsetio.

Fyddai, fodd bynnag, yn joio bach o Rwydwaith Menywod Cymru. Dyma oleuni mewn ogof faith a lloches ble mae cyngor call ar gael (fel arfer). Wrth gwrs, mae yna ddrwg yn bob caws (‘da chi’n gwybod pwy yda chi!) ond serch hynny, mae’r positifrwydd sydd yn bosib o’r fath grŵp yn disgleirio a threchu bob atgasedd.

Dros y misoedd diwethaf, mae yna un pwnc sydd wedi codi sawl gwaith a hwnnw’n bwnc sydd wir yn fy mhoeni i. Mae sawl merch wedi datgan nad oes ganddyn nhw ffrindiau, neu fod eu ffrindiau ysgol yn parhau i gyfarfod blynyddoedd ar ôl darfod addysg, neu fod adeiladu perthnasau gyda ffrindiau gwaith yn her. Wrth graidd yr holl gwestiynau, mae unigrwydd torcalonnus a’r unigrwydd hynny yn cael ei ddyrchafu gan yr hyn rydym yn ei weld ar y cyfryngau cymdeithasol.

 

Cyn mynd ymhellach, rhaid i mi wneud un peth yn glir. Dwi’n LYFIO bod ar ben fy hun. Does gen i ddim problem gyda mynd i’r sinema ar ben fy hun fach ‘na chwaith mentro am dro i fwynhau byd natur gyda neb ond panel podlediad yn fy niddanu (ac ambell i snac, wrth gwrs). Ond, dwi wedi profi’r hyn sydd yn gyfarwydd i ni gyd, sef mynd o dreulio bob dydd a thrwy’r dydd gyda chriw o ffrindiau ysgol (hyd yn oed ar-lein wedi’r ysgol ar yr hen MSN), a chamu i mewn i’r rhyddid llethol o fod ar ben dy hun heb sefydliad i’ch gorfodi i ddod at eich gilydd. Mae’n brofiad sydd yn ddigon o ansefydlogi unrhyw un.

Pan es i i’r brifysgol, roedd gen i ddisgwyliadau mawr am wneud ffrindiau. Wedi’r cyfan, roeddwn i wedi clywed sawl gwaith bod “ffrindiau coleg yn ffrindiau oes” a’r broses yn swnio mor hawdd. Grêt! Fysa gwneud ffrindiau ar y diwrnod cyntaf, ffrindiau mor dda fysa’n forwynion priodas i mi ymhen degawd, yn gwneud popeth LLAWER haws! Wel, spoiler alert, wnes i ddim gwneud ffrindiau oes yn y coleg (a dydi’r briodas heb ddigwydd, a fydd hi fyth, ond gair am ddiwrnod arall yw hwnnw). I fod yn onest, mae’n teimlo mai dim ond fi o’r coleg hwnnw sydd heb gadw mewn cysylltiad gyda chyd-fyfyrwyr. Mae’r gweddill yn rhannu lluniau arlein, yn teithio’n bell ar hyd y wlad i weld ei gilydd. Oedd, mi oeddwn i’n teimlo ychydig bach yn drist ar y cychwyn. Pwy fysa ddim?! Ond erbyn rŵan, dwi wedi sylweddoli mai'r unig beth dwi’n ei weld arlein ydi’r hyn mae pobl yn dewis rhannu.

 

Woman Sitting Thoughtfully
Sunset Beach Companions

Fy mhwynt i ydi; dydi pawb ddim yn mynd i wneud criw o ffrindiau oes. Yn hytrach, efallai byddi di’n casglu ffrindiau ar hyd dy oes, bob un fel trysor. Mae’n bosib y byddi di’n gwneud ffrindiau unigol mewn gwahanol lefydd ar hyd dy oes, ac nid fel grŵp mawr sy’n cwrdd i fynd allan fel haid ar ŵyl y banc. Mae ffrindiau, cyfeillgarwch a pherthnasau fel plu eira, bob un yn hollol unigryw ac yn hollol sbeshal. Er bod yr hyn y byddi di’n ei weld arlein yn edrych yn ddelfrydol a phob criw yn edrych bron fel efelychiad o’r llall, dydyn nhw ddim. Maen nhw’n unigryw ac yn werthfawr yn rhinwedd eu hunain, ond dydi hynny ddim yn golygu mai dyna’r nod pan mae’n dod i ffrindiau.

Mae’n deg dweud na fyddi di’n dod o hyd i’r un ffrind yn eistedd adref, felly efallai y byddi di’n penderfynu mynd allan i’r byd, ymuno mewn dosbarth neu weithgaredd diddorol er mwyn cysylltu gydag eraill sy’n rhannu’r un diddordebau. Cam mawr ydi hyn i rai, ond rhaid cofio does dim byd yn bod gyda gwneud pethau rwyt ti isho gwneud ar ben dy hun. Ffansi bach o ysbrydoliaeth? Cymera gip ar gyfrif Elen Jones (
@elenjxones) neu Elen Wyn (@_elenwyn) ar Instagram, y ddwy yn rhannu syniadau gwych am dripiau neu weithgareddau i wneud ar ben dy hun - a hynny wrth waredu ar unrhyw gywilydd o wneud pethau ar ben dy hun!

 

Cyn i mi fynd, dwi’n meddwl bod o’n hynod o bwysig i mi atgoffa bob un – os wyt ti’n profi unigrwydd, dydi hynny ddim yn golygu bod rhywbeth yn bod arnat. Dim personoliaeth ydi “unig”, ond yn hytrach dy gorff yn adnabod ei angen am gysylltiad gydag eraill. Mae pawb yn teimlo hyn o bryd i’w gilydd, hyd yn oed y mwyaf annibynnol yn ein plith.
 

bottom of page