top of page

FOMO a Ti

Woman Sitting Thoughtfully

Does dim teimlad cweit yn debyg i'r teimlad dy fod yn methu allan - a dydi'r teimlad ddim yn pylu wrth i ti dyfu'n hŷn! Boed yn methu allan ar wahoddiad i fynd allan i chwarae yn blentyn, ffrindiau yn mynd allan ar nos Sadwrn a tithau ddim callach neu'n methu allan ar docyn i gig y degawd, mae gweld eraill yn joio hebddo ti yn deimlad sy'n cael ei deimlo i'r carn.

Wedi dweud hynny, weithiau does dim byd fedri di ei wneud er mwyn osgoi methu allan. Weithiau, fedri ddim fforddio tocyn gig neu efallai fydd rhaid i ti weithio a dyna fo. Felly, beth yw'r ffordd orau i ddelio gyda FOMO? Ac ydi pobl wir yn mwynhau fel mae'r lluniau yn awgrymu?

 

Nid Arian yw Popeth

Fyddi di'n siŵr o fod wedi gweld cyfeillion ar y cyfryngau cymdeithasol yn mwynhau amser i ffwrdd ar wyliau neu mewn gŵyl gerddorol, a hwythau wedi gwario cannoedd ar y cyfle. Mae lluniau ar y socials yn rhai sgleiniog tu hwnt, ond yr hyn dwyt ti ddim yn ei weld ydi'r hynt a helynt y tu ôl i'r trip! Wrth gwrs, mae sawl trip yn ddi-ffws a ddiffwdan ond mae'n bwysig cofio nad ydi gwario arian wastad yn golygu amser da!

Does dim rhaid gwario er mwyn cael amser da ac mae'n bosib cal yr un hwyl ar ddiwrnod gyda ffrindiau a phicnic yn lleol ac sy'n bosib dramor. Mae arian yn gallu prynu bron popeth, ond dydi arian ddim yn gallu prynu hapusrwydd.

 

Outdoor Picnic Scene
Listening To Music

Bod ym Mhob Man

Braf fyddai gallu gwneud bob dim, ynde? Derbyn bob gwahoddiad a mynychu bob gig! Yn anffodus, y realiti ydi bod digwyddiadau yn clasho, rhywbeth arbennig yn digwydd tra byddi di'n gweithio neu weithiau mae dy gorff di angen gorffwys. 

Cofio gweddill yr haf hwn dy fod yn gallu gwneud unrhyw beth, ond does dim modd gwneud bob peth!


Dy Le Di

Mae pethau'n digwydd am reswm, meddai nhw. Ac, er mor rhwystredig ydi methu allan tra bod eraill yn joio, mi rwyt ti wir yn y lle dylet ti fod, hyd yn oed oes wyt ti’n gorfod methu allan a bod yn fodlon (ish) gyda gwylio eraill yn joio.

Efallai y byddi di’n gorfod siomi dy gylch o ffrindiau rhyw ben a gwrthod cyfle neu dynnu allan, ac mae hynny yn deimlad ych-a-fi ychwanegol i’r FOMO traddodiadol! Does dim osgoi siomi weithiau, ond cofia bod pethau yn digwydd am reswm.

 

bottom of page