top of page

Fi yw Jano

JANO_edited.jpg

Ry’ ni ferched yn gryf, yn ddewr ac yn wych. Ond mae merched cefn gwlad wir mewn maes gwahanol!

Fy enw yw Jano Evans ac rwy’n ferch fferm o ardal Talgarreg, Ceredigion.  Dwi’n caru byw yn y wlad, yng nghanol unman, yn bell o bawb ond fel un gymuned fawr glos. Mae arogli a blasu’r awyr iach fel moddion i fy ysgyfaint ac yn adfywio fy ymennydd. Dwi’n gweld cefn gwlad Ceredigion yn rhan ohonof bellach a diolchaf o gael byw ger y môr, yn cael fy amgylchynu gan dir a’r rhyddid i grwydro ac i fynd am dro yn rhydd ar y ddaear ffrwythlon.  

O ddydd i ddydd dwi’n barod i roi tro ar unrhyw beth ac mae gennyf lu o ddiddordebau yn cynnwys chwarae hoci, canu, chwarae’r piano, sgïo, siopa. Mae’r rhestr yn hirfaith!  Dwi’n dwlu ar yr ysgol ac er bod gwaith yn dod allan o fy nghlustiau ar adegau dwi’n hoff o fod yn brysur o hyd.  Fy hoff bwnc yn yr ysgol yw Mathemateg ac un o fy hoff bethau am yr ysgol yw cael bod yng nghwmni ffrindiau da.  Pan rwyf adre dwi’n hoff o fynd allan i gerdded, treulio amser gyda’r teulu ac weithiau allan yn gweithio ar y fferm boed yn bwydo’r lloi bach, godro ac ati.

 

Wrth fynd am dro dwi’n edmygu’r hyn o fy nghwmpas ac yn bennaf, mae’n amser i’r meddwl grwydro ac yn amser weithiau i mi feddwl am beth sy’n digwydd yn y byd, beth ydw i eisiau yn fy nyfodol ac i feddwl am yr holl bobl anhygoel sydd o fy nghwmpas o ddydd i ddydd.  Mae’r byd mawr i weld yn le ofnus, lle sydd wir yn gallu achosi pryderon i unigolyn ac rwyf i o hyd yn meddwl am yr holl wahanol bobl sydd allan yno yn byw ei bywydau o ddydd i ddydd.  Yr 8 biliwn o bobl erbyn hyn sydd yn gweithio, yn chwarae, yn gofidio, yn caru, yn galaru, yn rhydd, dan glo, ac er bod nifer yn gwneud ac yn teimlo’r un peth mae bob un person ar y blaned hon yn wahanol ac yn dod ar draws rhwystrau ac yn cyflawni nodau personol.

Felly, fy nyfodol.  Wrth gwrs mae’n nerfus meddwl am y peth ond yn ddyddiol dwi’n meddwl am y 10 mlynedd nesaf wrth i mi ddechrau’r chweched dosbarth ac yn gyffrous i weld yr holl gyflawniadau a breuddwydion yr wyf yn gobeithio eu gwireddu.  Yn dilyn fy magwraeth yng nghefn gwlad a dod ar draws pobl ysbrydoledig a gweithgar yn cynnwys teulu a ffrindiau sydd yn gweithio mor galed i gael y bywyd gorau posibl iddyn nhw ac i eraill, mae hyn wir wedi fy ysbrydoli i wthio fy hun i orau fy ngallu ac i ddilyn fy mreuddwydion.  Yn y dyfodol hoffwn symud i ffwrdd i’r ddinas i fyw ac i gael profiad gwahanol i’r hyn rydw i’n arfer a gobeithio mynychu’r brifysgol yno.  Dwi’n credu y byddai bwrlwm dinas yn fy siwtio gan fy mod yn berson byrlymus llawn sbort ac mi fyddai’n gyfle i mi gael gwneud cyswllt gyda ffrindiau newydd a chael y cyfle i fyw yn annibynnol o adref. 

 

Sunset
Countryside Scenery

Erbyn heddiw, gyda deintyddion yn brin ar draws y Deyrnas Unedig mae gennyf wir ddiddordeb i wneud cwrs Deintyddiaeth yn y Brifysgol ac er ei bod yn ddyddiau cynnar mae’n rhaid meddwl ymlaen gan wneud y dewisiadau cywir o ran pynciau ac ati yn yr ysgol er mwyn cael y cyfle i ymgeisio i brifysgolion.  Gyda chymaint o ganllawiau penodol ar beth sydd eisiau i fynd i’r brifysgol mae’r rhoi pwysau ar ferched a bechgyn blwyddyn ar ôl blwyddyn wrth geisio jyglo ei gwaith ysgol, gwaith cymunedol, profiad gwaith, clybiau ar ôl ysgol, amser hamdden ac amser i ymlacio mae pobl ifanc yn ofni rhoi ymdrech rhag ofn y cawn nhw eu troi i ffwrdd.

Er fy mod yn dweud y byddaf yn symud i ffwrdd i’r ddinas i fyw am ychydig, dwi’n gwybod yng nghefn gwald mae fy nghartref am byth ac mae fy ngwreiddiau wedi’i blannu yn ddwfn yn y tir adref a dwi’n dwli byw yma yng Ngheredigion.  Mae’r diwylliant yma yn rhan ohonof ac yn fy ngwneud yn fi. Felly fi yw fi a gei di benderfynu pwy wyt ti gan fod pawb yn unigryw ac mae gan bawb bersonoliaeth cryf i ddangos pwy ydyn nhw.  Mae gen ti’r gallu i ddewis dy lwybr mewn bywyd ac weithiau nid yw’n gweithio allan ond bob tro mae’r cyfle i ddechrau eto.  Does neb yn berffaith felly canolbwyntia ar wneud dy hun yn hapus gyntaf ac fe wneith bopeth arall ddilyn.  

 

bottom of page