top of page

Fi yw Elin

Green Farm

Os ydach chi’n disgwyl rhyw hanes mawr diddorol, stori gyffrous, neu ryw ymgyrch fawr sydd am newid y byd dwi wedi bod yn rhan ohoni, wel, ddrwg iawn gen i, ond rydach chi ar fin cael eich siomi. Fy enw i ydy Elin, dwi’n ferch ffarm o Uwchaled, ond dwi’n dallt dim am anifeiliaid na thractors, dwi’n anobeithiol ar fathemateg, a fy uffern fwyaf i ydy gwersi ymarfer corff.

Dydw i ddim yn ddiddorol iawn, ond, dwi’n meddwl rhywsut, mae beth sy’n ddiddorol ydy ‘mod i’n cynrychioli cannoedd o genod ifanc eraill o ar draws Cymru a’r byd. Dwi’n edrych yn aml ar luniau o bobl rydw i’n eu hadnabod ac enwogion sydd gannoedd o filltiroedd i ffwrdd ar gyfryngau cymdeithasol ac er mod i’n un gweddol dda am falio dim, a pheidio â chymharu fy mywyd i ac un neb arall, weithiau mae’n amhosib peidio. 

 

Weithiau, mi faswn i’n hoffi mynd i Efrog Newydd, neu i Groeg, a rhedeg ar draethau mewn ffrog fer a het haul drud. Weithiau mi faswn i’n hoffi gallu edrych fel Kylie Jenner a gallu gwneud i fy ngholur yn llyfn a sgleiniog. Mi faswn i’n hoffi gallu teimlo’n ddigon siŵr o mi fy hun i bostio llun ohona i mewn sgert.

Dwi’n cyfaddef weithiau y baswn i yn hoffi’r pethau yma. Dwi’n meddwl ei bod hi’n beth da cyfaddef, am ei fod yn gwneud i bawb deimlo’n llawer gwell. Y realiti rhyfeddol ydy, mae’n siŵr fod y merched ‘na ar y traeth yn Groeg yn cymharu eu hunain i rywun hefyd. Mae’n beth naturiol iawn i’w wneud, a dwi’n credu fod y tuedd yn cynyddu yn ystod ychydig flynyddoedd ein harddegau, yn enwedig mewn merched. Ond does dim pwrpas i hynny ac mae gan bawb eu profiadau, hanesion a breuddwydion, ac efallai mai newid gwnaiff y rheini wrth fynd ymlaen.

Mae’n rhaid i ni ddysgu mwynhau ein taith ni yn y foment a bod yn falch o’n straeon a’n hanesion, a gweithio er mwyn gwireddu ein breuddwydion. Mae stori pawb yn bwysig. Does dim rhaid i chi fod wedi ymweld â Thŵr Eiffel, na ennill cystadleuaeth, na brwydro i newid y byd.

 

Sunset and Palm Trees
Countryside Road

Mi dreuliais i ddydd Mercher yr hanner tymor yn sefyll ar ochr ffordd gyda chriw o deulu a ffrindiau, ynghanol y gwynt a’r glaw yn dal arwyddion oedd yn ceisio darbwyllo gyrwyr i yrru 30 milltir yr awr. Wnaiff hynny ddim newid y byd, ond mi fydd yn effeithio ein cornel fach ni o’r byd yn fawr os daw llwyddiant o’r ymgyrch, felly mae’n achos i’w ddathlu! Does dim rhaid bod wedi gwneud y peth mwyaf anghredadwy, nac aros yn y gwesty drytaf, na wisgo’r dillad gyda’r label mwyaf, na fod wedi meddwi fwyaf yn y parti. Mae gan bawb hawl i fod ynddyn nhw eu hunain.

Dwi erioed wedi bod i Lundain o’r blaen, ond mi es i i wylio sioe gerdd “Y Mab Darogan” wythnos diwethaf. Does gen i ddim côt North Face, am nad ydw i eisiau un. Dwi erioed wedi cael yn uwch na C yn Ffiseg a ges i radd U yng Nghemeg llynedd. Mae gen i ormod o ofn mynd ar y cwrs rhaffau yn Glan Llyn hyd heddiw a ‘dwi erioed wedi gwylio Vampire Diaries, er bod sawl un wedi ceisio fy mherswadio. Dwi’n crynu’n fy ‘sgidiau wrth wylio ffilmiau arswyd ac mae’n ffrindiau i’n mwynhau chwerthin ar fy mhen i. Does gen i ddim cannoedd o ffrindiau ar Snapchat, ond dwi’n gwybod yn iawn y gallai ddibynnu’n llwyr ar fy ffrindiau i. Mae fy nannedd i’n gam fel dan i’m be ac weithiau ‘dwi dal yn poeni am aros i ffwrdd o adref. 

 

Ydy o bwys? Dwi’n hapus.

Dwi’n gallu adrodd penodau cyfan o “C’mon Midffild” ar fy nghof. Fy hoff beth i yn y byd ydy pum munud ar hugain wedi pump ar nos Fawrth a nos Iau pan mae fy nheulu fi i gyd yn eistedd lawr efo’n gilydd i wylio Rownd a Rownd. Y gwyliau gorau bosib ydy gwyliau carafán a fy mreuddwyd i ydy ennill Cadair Eisteddfod Ffermwyr Ifanc Clwyd a gweld Cymru annibynnol. 

Dwi’n Gymraes (sy’n ddigon yn ei hun, wrth gwrs!). Dwi’n gallu chwerthin a gwrando, siarad, mwydro, crio a theimlo, caru. Dwi’n cael y fraint a’r anrhydedd o siarad fy iaith yn rhydd, mewn gwlad heddychlon. ‘Dwi mor eithriadol o lwcus. Mae gen i bob dim faswn i byth ei angen na’i eisiau, yma, rŵan. 

Er, mod i’n gobeithio cael brwydro dros yr iaith a chyfrannu at Gymru annibynnol a graddio o brifysgol a chael car a thŷ i mi fy hun rhyw ddiwrnod, a gobeithio yn wir y galla i gyflawni hyn, rydw i’n berffaith ddedwydd fy myd ar hyn o bryd. Does dim angen i mi newid, na chymharu fy hun i neb arall. Does dim angen i chithau chwaith. 

Chi yw chi. A fi yw fi. A ma’ hynny yn eithaf olreit, rhaid mi ddweud.

 

iStock-1294469941 (2).jpg
bottom of page