top of page

Fi Mewn Tri -
Branwen Davies

Yn cuddio’n slei yn ein siopau lleol mae llu o fargeinion dillad i’w cael. Yr unig beth sydd angen arnoch ydi llygaid craff ac, yn ôl Branwen Davies, dwylo doeth er mwyn teimlo trywydd y fargen!

Un o chwilotwyr bargeinion gorau’r wlad ydi Branwen, Trefnydd newydd Theatr Ieuenctid yr Urdd sy’n dathlu ei ail-lansiad. Mae hi’n un o sêr Instagram Cymru gyda’r cyfrif
@ailgaru_relove yn dathlu popeth ail-law a manteisiodd Lysh ar y cyfle i’w holi’n dwll am ei wardrob.

 

Photo 10-10-2022, 17 02 27.jpg
Photo 10-10-2022, 16 39 52.jpg

Lysh Cymru: Beth ydi’r fargen orau wyt ti wedi dod o hyd iddi?

Branwen Davies: Wrth feddwl am edrych am yr amgylchedd a bod yn ofalus efo beth a faint byddwn ni’n prynu, dwi wedi bod yn meddwl am capsule wardrobes a beth ydi’r pethau mae’n rhaid cael yn dy wardrob, y pethau ella bydd rhaid gwario ychydig mwy arnyn nhw ond fyddi di’n eu defnyddio nhw am byth.

Wrth ystyried hyn yn fy mhen, roeddwn i eisiau côt wlân lliw camel. Dwi’n meddwl eu bod nhw mor glasurol ac unwaith y byddai’n cael un fyddai’n ei gadw a’i wisgo am byth! Roeddwn i mewn siop elusen yn y Rhath yng Nghaerdydd ac roeddwn i’n mynd rownd y siop yn teimlo pethau. Dwi’n licio teimlo pethau ac wrth fy modd efo gwead dillad. Nes i gyffwrdd y gôt yma ac roedd o mor feddal wnes i stopio a meddwl “Www, beth ydi hwn?”

Wel, côt cashmere camel o’r brand Aquascutum am £10 ac roedd hi’n hollol newydd! Ar ôl edrych ar wefan Aquascutum welais fod rhai o’r cotiau yn mynd am £800!

Hon oedd y fargen orau, bendant. Dwi’n gwybod y byddai’n gwisgo hon am byth ac yn ei basio ymlaen wedyn.

 

LC: Os byddi di ond yn cael gwisgo un dilledyn am byth, beth fyddai o?

BD:
Mae hwnna yn gwestiwn da!

Roeddwn i’n byw yn Japan am flwyddyn ble roeddwn i’n dysgu Saesneg. Yn Japan, mae ganddyn nhw thrift stores anhygoel ac ar benwythnosau roeddwn i’n mynd o gwmpas y siopau i gyd. Un penwythnos roeddwn i’n ymweld â Osaka ac mewn un o’r siopau yma roedd yna ffrog sy’n eithaf tebyg  i’r llyfr Y Lindys Llwglyd oherwydd y smotiau lliwgar sydd drosti i gyd.

Ganddi pussybow hefyd ac mae hi’n ffrog sy’n gwneud fi’n hapus bob tro dwi’n ei gwisgo hi. Peth arall sy’n neis amdani ydi, er ei bod hi’n ffrog eithaf smart, mae hi’n rili gyffyrddus i’w gwisgo ac oherwydd i mi ei phrynu yn Japan, mae hi’n fy atgoffa i am gyfnod rili hapus yn fy mywyd.

 

Photo 10-10-2022, 16 41 24.jpg
Photo 10-10-2022, 16 41 04.jpg

LC: Pa eitem sy’n dal yr atgofion orau i ti?

BD:
Gan fy mod i’n ysgrifennu ac yn licio storis, dwi’n hoffi eitemau sy’n fy atgoffa i o aelodau’r teulu sydd ddim efo ni bellach.

Dwi’n cofio Taid yn dweud stori wrtha i amdano fo a Nain ar eu mis mêl yng Nghaer. Efo’r pres oedd ganddo ar ôl y mis mêl, er ddim llawer, prynodd Taid handbag i Nain a dwi efo’r handbag yna rŵan.

Mae o’n rhywbeth dwi’n ei ddefnyddio felly dal yn rhywbeth ymarferol. Dwi’n licio gwisgo’r bag a dwi’n meddwl fod o’n neis am ei fod o’n anrheg cariad i Nain.

Roeddwn i Nain yn rili agos a bob tro’n dweud wrth ein gilydd “O, ‘dan ni’n licio ein bagiau, tydan,” felly mae hwn yn rili neis oherwydd ei fod o’n fy atgoffa i o Nain a’r stori sy’n gysylltiedig efo’r bag.


Oes gennych chi ddilledyn sy’n drwm efo hanes neu fargen anghredadwy fel côt camel Branwen? Rhowch wybod i ni a chofiwch ddilyn
@ailgaru_relove ar Instagram am ysbrydoliaeth di-ri!

 

bottom of page