top of page
Ffliw y Glasfyfyrwyr:
Be yn y Byd?!

Mae sawl agwedd i fywyd yn y brifysgol sydd yn eich llethu’n annisgwyl. Yr hiraeth, y llwyth gwaith... gymaint o bethau does neb wedi dy rybuddio di amdanynt! Efallai y byddi di wedi cael dy rybuddio am Ffliw y Glasfyfyrwyr, neu Freshers Flu, afiechyd sydd yn diffinio’r cyfnod cyntaf o fywyd mewn prifysgol. Ond, beth yn union ydi o? Fedri di ei osgoi? Ac os wyt ti ddigon anlwcus i’w ddal yn dy wythnosau gyntaf o fywyd fel myfyriwr, sut fedri di ddod drosto reit handi?
Beth ydi Ffliw y Glasfyfyrwyr?
Nid “ffliw” go iawn ydi Ffliw y Glasfyfyrwyr, er bod yr enw yn awgrymu ei fod o! Afiechyd arferol ydi o, yn eithaf tebyg i annwyd cyffredin, ond wedi cael ei gymysgu gyda hiraeth ac ambell i ben mawr, mae’n haeddu ei derm ei hun fel afiechyd eiconig ar gychwyn blwyddyn academaidd yn y brifysgol.
Yn ystod dyddiau ac wythnosau cyntaf blwyddyn newydd yn y brifysgol, mae yna lot o gymdeithasu a chymysgu yn digwydd - hyd yn oed i’r rhai mwyaf swil yn ein plith. Rhwng yr holl ddigwyddiadau, darlithoedd ac ymweld â gwahanol gymdeithasau, mae afiechydon yn lledaenu’n hawdd iawn. Os wyt ti’n ffafrio dy gwmni dy hun i gymharu gyda mynd allan gyda’r nos, mae’r siawns o ddod ar draws rhywun yn dy ddarlithoedd sydd ddim yn teimlo’n dda dal yn uchel iawn. Felly, mae gwybod beth i’w wneud yn bwysig!
Beth yw’r symptomau?
Pan fydd yr afiechyd wedi dy gyrraedd di, fyddi di’n gwybod! Y symptomau mwyaf cyffredin ydi:
- Blinder llethol
- Cur pen
- Gwddf tost
- Annwyd
Mae’n bwysig cofio bod symptomau Ffliw y Glasfyfyrwyr yn gallu bod yn debyg i sawl afiechyd gwahanol. Os wyt ti’n poeni bod dy symptomau yn debyg i afiechyd arall, mae cysylltu gyda meddyg yn gam synhwyrol.


Ydw i’n gallu ei osgoi?
Wyt, mae’n debyg, a hynny gydag ymarferion hylendid da, yfed digonedd o ddŵr a chadw at arferion osgoi afiechydon fel bysa ti unrhyw adeg o’r flwyddyn. Ond, gyda chymaint o gymysgu mewn darlithoedd a digwyddiadau gyda’r nos, mae osgoi Ffliw y Glasfyfyrwyr yn hynod o anodd, hyd yn oed i’r rhai sydd yn dewis peidio cymdeithasu yn ormodol am y cyfnod cyntaf yma.
Does dim dwywaith bod bwyta’r bwydydd cywir yn mynd yn bell, er bod myfyrwyr yn fyd-enwog am beidio bwyta’n dda! Am yr ychydig wythnosau gyntaf, ceisia wneud ymdrech ychwanegol i roi’r bwydydd iawn i dy gorff. Mae digon o amser ar gyfer têc-awês a nwdls cyflym hwyrach ymlaen yn y flwyddyn!
Mae gen i Ffliw y Glasfyfyrwyr... Be ydw i fod i wneud?!
Mae’n debygol y byddi di’n teimlo blinder llethol ac yn teimlo awydd cryf i orffwys - felly gwranda ar dy gorff! Cofia yfed digon o ddŵr a pharhau gydag arferion hylendid da. Os wyt ti’n teimlo’n wael iawn, siarada gyda fferyllydd er mwyn derbyn cyngor ar feddyginiaeth.
Tra byddi di’n brysur yn gorffwys, beth am agor gwefan Lysh er mwyn cael sbec ar yr erthyglau diweddaraf? ;)
​
bottom of page







