top of page

Ffansi Podlediad?

Nadolig Llawen! Mae’r cyfan wedi cyrraedd creshendo, y bwyd yn dechrau teimlo fel tasg ac annwyliaid yn cnocio ar y drws yn dragwyddol.

Ffansi cau'r byd allan am ychydig funudau? Cau drws dy lofft a dianc yng nghwmni cyfeillion newydd sbon? Wel, beth am estyn y clustffonau a mwynhau detholiad o bodlediadau difyr a doniol?

 

Dim Clem.jpg

Dim Clem​

Wyt ti’n teimlo weithiau mai ti ydi’r unig berson yn y byd sydd ddim yn gwybod beth maen nhw’n wneud ‘na chwaith sut mae rhywun i fod i deimlo am bethau? Coelia neu beidio, ond dwyt ti ddim ar ben dy hun! I ddweud y gwir, mae ‘na lot  ohona ni allan yna heb fath o glem, ac mae hynny’n cynnwys Ffion, cyflwynwraig y podlediad Dim Clem.

Ym mhob pennod, mae Ffion yn holi cwestiwn gyda gwestai arbennig ond mae hi’n gwneud un peth yn gwbl glir ar y cychwyn - does dim addewid eu bod nhw am ddod i ateb call!

 

Siarad Siop

Byddi di’n siŵr o fod wedi cael blas o Siarad Siop efo Mari a Meilir wrth i glips cael eu rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol, ond heb ddod o hyd i gyfle i wrando’n iawn. Wel, dyma dy arwydd i wneud yn union hynny!

Materion cyfoes sydd ar blât Mari Beard a Meilir Rhys Williams, o ffilm Wicked i adolygu cyfresi deledu newydd, gan daro golwg onest, a doniol, ar y cyfan. Efallai nad ydi hwn yn gyfres i wrando arni ar drafnidiaeth gyhoeddus, oherwydd fyddi di’n chwerthin - a chwerthin lot.

Os wyt ti’n joio’r penodau diweddaraf, cofia bod dros 50 o benodau yn aros yn eiddgar amdanat ti. A dyma her i ti - cadwa wyneb syth pan mae Mari a Meilir yn cynnig enwau ar gyfer enwau drag Cymraeg...

 

Siarad Siop.png
Gwrachod Heddiw.jpg

Gwrachod Heddiw

Dyma bodlediad, credai rhai, sydd wedi cerfio’r llwybr ar gyfer yr holl bodlediadau eraill rydym yn ei fwynhau heddiw!

Cyflwynwyd Gwrachod Heddiw i’r byd gan Mari Elen yn 2020 - 5 mlynedd yn ôl! Erbyn heddiw, mae’r bodlediad ar ei bedwaredd gyfres ac mae gwesteion yn gynnwys Efa Lois, Angharad Tomos a Lisa Jên. Boed ti’n ystyried dy hun yn wrach neu beidio, byddi di’n siŵr o fwynhau’r sgyrsiau difyr ar bynciau gwrachaidd.

 

bottom of page