Tri Dilledyn
Cip ar dri dilledyn sy’n bwysig i Efa Lois
gyda Llio Angharad

Wyddoch chi mai yng Nghymru mae’r chwilotwyr bargen gora yn y byd yn byw? Wel, dyna fy marn i beth bynnag!
Mae wardrob yr arlunydd Efa Lois yn gartref i drysorau a bargeinion di-ri. Yn ein sgwrs, rhannodd Efa stori o sut achubwyd côt Gymraeg a’i dychwelyd yn ôl yma i Gymru ond cyn hynny, holais… Beth ydi’r fargen ora mae hi erioed wedi ffeindio?

Efa Lois: Oni’n meddwl am hwn am ages! Nes i gal ffrog Laura Ashley am £3.50. Ond dwi’n meddwl wastad am price per wear, bydd e’n siŵr o fod yn un o ddau beth. Wnes i yn 2014 prynu cot camel gwlân am £5 mewn siop elusen a dwi’n gwisgo hwnna am chunk mawr o’r flwyddyn, bob blwyddyn. Dwi’n gorfod mynd a fe i seamstress i gael ei drwsio oherwydd odd e wedi cyrraedd y pwynt ble o’n i wedi bod yn gwisgo fe gymaint!
Neu ma gyda fi ffrog flodeuog 1970s efo high-neck, a wnes i brynu hwnna am fel £5 rhyw dro, ond mae o wastad yn dod ac atgofion melys i fi o fy mhen-blwydd fi flynyddoedd yn ôl. O’n i ar fy mhen fy hunan yn ystod y dydd achos oedd neb arall ar gael i weld fi, so wnes i fynd ar fel tour o Lerpwl on foot yn mynd i fel siopa elusen wahanol a mynd i barciau gwahanol, ac o’n i’n gwisgo’r ffrog yna ac mae o wastad yn atgoffa fi o’r diwrnod yna.
LA: Mae Lerpwl yn lle neis i fod ar ben dy hun dydi, fedri di ddim bod yn bored efo llwyth o siopa vintage a siopa elusen… Ond wnes di sgipio dros y ffrog Laura Ashley yna am £3.50! Fedri di ddim sgipio dros honna! Dwi’n gweld nhw ar Depop ac maen nhw’n gwerthu am agos at £70! Sut wnes di ffeindio honna?!
EL: Siop elusen, dwi’n meddwl yn Aber oedd e, ag oedd e jest yn look ar y manequin ac o'n nhw'n cael sêl ble odd popeth yn hanner pris. So dwi’n credu dim ond £7 oedd e beth bynnag. Mae o definitely o’r 80au-90au cynnar yn hytrach ‘na bod e fel peak Laura Ashley. Mae o’n neis, mae o’n gotwm. Dwi’n meddwl hefyd dwi wedi dod i werthfawrogi defnydd mwy, mae hwnna’n definitely rhywbeth sydd wedi newid i fi yn y 3-4 blynedd diwethaf, yw sylweddoli pa mor wael yw polyester, a’r ffaith ei fod o wedi neud â fossil fuels ac wedyn yn rhyddhau microplastics pan ti’n golchi e. Mae cal pethe sydd yn gotwm, yn enwedig cotwm ail law, gwlân ail law, petha felna yn well ac mae o hefyd yn gwneud i ti deimlo’n well achos mae o’n ista’n haws ar dy gorff di mewn ffordd.
LA: Pa ddilledyn sy’n dal yr atgofion mwya melys i chdi?
EL: Ma gyda fi got brethyn gwyn a gwyrdd… Nes i brynu e mewn ffair vintage yn Crypt Eglwys Gadeiriol Anglicanaidd Lerpwl. Oedd o’n le bizzare i fod yn prynu dillad beth bynnag a dwi’n cofio ar y pryd teimlo fel odd e’n ddrud, achos stiwdant o'n i ar fy mhedwaredd flwyddyn yn y brifysgol felly odd o’n odd, o’n i fel a fyddwn i’n ei wisgo fe? Odd dim gyda fi unrhyw beth tebyg iddo fe ar y pryd, ond wnes i benderfynu mynd amdani a dwi yn gwisgo fe trwy’r amser. Ond be sy’n neis amdano fe yw bod gyda fi’r atgof o ble wnes i brynu fe, a’r ffaith ei fod o wedi bod mewn lle mor bizzare ac yn ddiwrnod mor neis pan nes i brynu e. Ond mae hefyd, odd rhywbeth neis am brynu rhywbeth o Gymru pan o’n i’n byw yn Lerpwl, y cyswllt yna efo adra hefyd. Ond wedyn wrth wisgo’r got dwi wedi cael lot o brofiadau neis, hyd yn oed pethe da ni’n dod i werthfawrogi mwy fel llefydd ‘da ni’n mynd am goffi, llefydd dwi wedi mynd am day trips yn gwisgo fe.
Llynedd nes i wisgo fe i fynd i Sain Ffagan gyda fy nheulu i, ar ôl cyfnod o ddim gweld nhw am ages. Ac oedd hwnna’n rili felys wedyn oherwydd mae’r atgof extra sydd gyda fi yn gwisgo hwnna.
LA: Dwi’n siwr wnei di lot mwy o atgofion melys yn ei gwisgo hi yn y dyfodol hefyd, am ei fod yn vintage ac yn para!
EL: Dyna di’r peth! Blwyddyn yn ôl wnes i ddysgu neud darning, ac mae stwff brethyn yn rili neis i drwsio oherwydd mae o wastad yn edrych yn dwt achos bod y llinellau yna i ti ddilyn, mae trwsio unrhyw beth yn edrych yn well ar frethyn ‘na mae o’n edrych mewn gwlân arall achos mae o mor batrymog mae o’n blendio fewn.
Be arall wnes i ddarganfod... Ma’ ‘na cobblers rili da ar Cowbridge Road yng Nghaerdydd, ac odd hwna’n rhybweth... O'n i'n mynd a sgidie dawnsio i gal taps newydd arnyn nhw a stwff ond o’n i ddim rili wedi mynd a chael sgidie wedi trwsio ag o’n i ddim wedi sylweddoli mor... dim rhad yw e ond mae o way rhatach cal par o sgidie wedi trwsio nag yw e i brynu un arall fel arfer.

