top of page

Tri Dilledyn 
Cip ar dri dilledyn sy’n bwysig i Efa Lois

gyda Llio Angharad

1. Ffrog Flodeuog.jpg

Wyddoch chi mai yng Nghymru mae’r chwilotwyr bargen gora yn y byd yn byw? Wel, dyna fy marn i beth bynnag!

Mae wardrob yr arlunydd Efa Lois yn gartref i drysorau a bargeinion di-ri. Yn ein sgwrs, rhannodd Efa stori o sut achubwyd côt Gymraeg a’i dychwelyd yn ôl yma i Gymru ond cyn hynny, holais… Beth ydi’r fargen ora mae hi erioed wedi ffeindio?

 

1. Ffrog Laura Ashley.jpg

Efa Lois: Oni’n meddwl am hwn am ages! Nes i gal ffrog Laura Ashley am £3.50. Ond dwi’n meddwl wastad am price per wear, bydd e’n siŵr o fod yn un o ddau beth. Wnes i yn 2014 prynu cot camel gwlân am £5 mewn siop elusen a dwi’n gwisgo hwnna am chunk mawr o’r flwyddyn, bob blwyddyn. Dwi’n gorfod mynd a fe i seamstress i gael ei drwsio oherwydd odd e wedi cyrraedd y pwynt ble o’n i wedi bod yn gwisgo fe gymaint!
Neu ma gyda fi ffrog flodeuog 1970s efo high-neck, a wnes i brynu hwnna am fel £5 rhyw dro, ond mae o wastad yn dod ac atgofion melys i fi o fy mhen-blwydd fi flynyddoedd yn ôl. O’n i ar fy mhen fy hunan yn ystod y dydd achos oedd neb arall ar gael i weld fi, so wnes i fynd ar fel tour o Lerpwl on foot yn mynd i fel siopa elusen wahanol a mynd i barciau gwahanol, ac o’n i’n gwisgo’r ffrog yna ac mae o wastad yn atgoffa fi o’r diwrnod yna.

LA: Mae Lerpwl yn lle neis i fod ar ben dy hun dydi, fedri di ddim bod yn bored efo llwyth o siopa vintage a siopa elusen… Ond wnes di sgipio dros y ffrog Laura Ashley yna am £3.50! Fedri di ddim sgipio dros honna! Dwi’n gweld nhw ar Depop ac maen nhw’n gwerthu am agos at £70! Sut wnes di ffeindio honna?!

EL: Siop elusen, dwi’n meddwl yn Aber oedd e, ag oedd e jest yn look ar y manequin ac o'n nhw'n cael sêl ble odd popeth yn hanner pris. So dwi’n credu dim ond £7 oedd e beth bynnag. Mae o definitely o’r 80au-90au cynnar yn hytrach ‘na bod e fel peak Laura Ashley. Mae o’n neis, mae o’n gotwm. Dwi’n meddwl hefyd dwi wedi dod i werthfawrogi defnydd mwy, mae hwnna’n definitely rhywbeth sydd wedi newid i fi yn y 3-4 blynedd diwethaf, yw sylweddoli pa mor wael yw polyester, a’r ffaith ei fod o wedi neud â fossil fuels ac wedyn yn rhyddhau microplastics pan ti’n golchi e. Mae cal pethe sydd yn gotwm, yn enwedig cotwm ail law, gwlân ail law, petha felna yn well ac mae o hefyd yn gwneud i ti deimlo’n well achos mae o’n ista’n haws ar dy gorff di mewn ffordd.

 

LA: Pa ddilledyn sy’n dal yr atgofion mwya melys i chdi?

EL: Ma gyda fi got brethyn gwyn a gwyrdd… Nes i brynu e mewn ffair vintage yn Crypt Eglwys Gadeiriol Anglicanaidd Lerpwl. Oedd o’n le bizzare i fod yn prynu dillad beth bynnag a dwi’n cofio ar y pryd teimlo fel odd e’n ddrud, achos stiwdant o'n i ar fy mhedwaredd flwyddyn yn y brifysgol felly odd o’n odd, o’n i fel a fyddwn i’n ei wisgo fe? Odd dim gyda fi unrhyw beth tebyg iddo fe ar y pryd, ond wnes i benderfynu mynd amdani a dwi yn gwisgo fe trwy’r amser. Ond be sy’n neis amdano fe yw bod gyda fi’r atgof o ble wnes i brynu fe, a’r ffaith ei fod o wedi bod mewn lle mor bizzare ac yn ddiwrnod mor neis pan nes i brynu e. Ond mae hefyd, odd rhywbeth neis am brynu rhywbeth o Gymru pan o’n i’n byw yn Lerpwl, y cyswllt yna efo adra hefyd. Ond wedyn wrth wisgo’r got dwi wedi cael lot o brofiadau neis, hyd yn oed pethe da ni’n dod i werthfawrogi mwy fel llefydd ‘da ni’n mynd am goffi, llefydd dwi wedi mynd am day trips yn gwisgo fe.
Llynedd nes i wisgo fe i fynd i Sain Ffagan gyda fy nheulu i, ar ôl cyfnod o ddim gweld nhw am ages. Ac oedd hwnna’n rili felys wedyn oherwydd mae’r atgof extra sydd gyda fi yn gwisgo hwnna.


LA: Dwi’n siwr wnei di lot mwy o atgofion melys yn ei gwisgo hi yn y dyfodol hefyd, am ei fod yn vintage ac yn para!

EL: Dyna di’r peth! Blwyddyn yn ôl wnes i ddysgu neud darning, ac mae stwff brethyn yn rili neis i drwsio oherwydd mae o wastad yn edrych yn dwt achos bod y llinellau yna i ti ddilyn, mae trwsio unrhyw beth yn edrych yn well ar frethyn ‘na mae o’n edrych mewn gwlân arall achos mae o mor batrymog mae o’n blendio fewn.
Be arall wnes i ddarganfod... Ma’ ‘na cobblers rili da ar Cowbridge Road yng Nghaerdydd, ac odd hwna’n rhybweth... O'n i'n mynd a sgidie dawnsio i gal taps newydd arnyn nhw a stwff ond o’n i ddim rili wedi mynd a chael sgidie wedi trwsio ag o’n i ddim wedi sylweddoli mor... dim rhad yw e ond mae o way rhatach cal par o sgidie wedi trwsio nag yw e i brynu un arall fel arfer.

 

2. Cot Brethyn.jpg
3. Bwts Du.JPG

LA: Pa ddilledyn fysa chdi methu byw hebddo?

EL: O’n i’n meddwl am hyn am ages! Par o fŵts ble ti’n gallu gwisgo nhw i fynd am goffi, neu i fynd i’r gwaith ond ti hefyd yn gallu mynd am dro yn y goedwig ynddyn nhw... Fel dwi’n credu bo hwnna’n rhywbeth definitely ers i fi fynd yn hŷn a falle gallu gwario mwy ar bethe ond hefyd sylweddoli pwy ydw i, be dwi’n hoffi math o beth. So ma gyda fi tri neu bedwar bŵts du, ma rhan fwyaf ohonyn nhw yn Doc Martens ail law. So o Vinted neu Depop. Dwi’n credu bod y versatility yna yn bwysig i fi, a dwi’n meddwl o’n i definitely arfer bod yn berson odd fel... Odd cariad fi’n byw yng Nghaerdydd, ag o’n i’n byw yn Lerpwl ac o’n i’n pacio i fynd i weld e a bydden i’n dod ac fel y sgidia mwyaf ridiculous! Odd gyda fi fel bŵts bach arian, oedd yn amazing, ond bydden i definitely methu mynd am dro yn y goedwig ynddyn nhw. A dwi’n credu nawr dwi’n fwy o berson fel... dwi angen bod yn barod i neud beth bynnag math o beth.
Fi’n credu bod hwnna’n definitely thing o fel tyfu’n hŷn yn hytrach na fel... ti kind of angen yr amser yna os ti yn y brifysgol neu yn dy arddegau i kind of neud experiments efo dy ddillad.

LA: Dwi’n cytuno! Sgen i ddim amser i falu awyr efo traed yn brifo mewn heels aballu!

EL: Gosh ie! Fel orthopedic shoes!

LA: Dwi’n pasio Clarks weithia a meddwl... ww actually ma’ rheina’n rili neis! Deng mlynadd yn ôl fyswn i ddim yn sbïo arnyn nhw!

EL: Wnes i gal... Wyt ti di clywed am Hotter? Maen nhw wedi cael bach o rebrand ond o'n nhw definitely yn sgidie hen fenywod o blaen, ond ma gyda nhw fel sandals sydd fel union fel sandals berkeinstocks ond ma nhw’n orthopedic. So ma nhw fel be dwi’n dychmygu ydi berkeinstocks pan ti’n finally torri nhw mewn as opposed i be ma nhw fel i ddechre. Ac maen nhw’n amazing! Odd gyda fi dau bar, ac yna wnes i brynu rhai fel cowprint odd yn discontinued cwpwl o flynyddoedd yn gynt ar eBay. Dyna yw fy equivelent o fŵts yn yr haf! Orthopedic sandals!

 

bottom of page