top of page
Night Camping_edited.jpg

Edrycha Fyny!

Mae’r byd llawn rhyfeddodau lu, ond mae’r awyr uwch ein pennau yn rhyfeddol tu hwnt. Y mis yma, cawn wledd arbennig yn y lloer gyda thri digwyddiad nodedig a digon o gyfle i ni allu eu gweld (yn ddibynnol ar y cymylau, wrth gwrs!).

Mewn un mis eleni, cewch weld pedwar ffenomena cosmig. Dwy Leuad Orwych, Cawod Meteor Perseid ac hefyd golygfa glir o’r blaned Sadwrn. 

 

Lleuad Orwych.jpg

Delwedd: © Getty Images

Y Lleuad Orwych

Mae Lleuad Orwych yn digwydd pan mae’r lleuad yn llawn neu’n lleuad newydd ac hefyd ar ei phwynt agosaf ar ei orbit o amgylch y ddaear. Golygai hyn fod y lleuad yn llawer mwy o ran ei maint ac hefyd yn fwy llachar.

Mae un lleuad orwych llawn wedi bod y mis yma yn barod - mae Awst 2023 yn fwy arbennig fyth gan fod y lleuad orwych llawn yn digwydd unwaith eto a hynny ar y 31ain o Awst. Yr enw ar yr ail leuad lawn mewn mis ydi Lleuad Glas. Felly, ar ddiwedd y mis, gallwn weld y Lleuad Orwych Las. Wel, dyna i chi deitl hir!

Ddim yn aml mae’r fath yma o leuad yn digwydd, ond dydi’r achlysur yma ddim yn ddigon i wirioni gwyddonwyr ac astroffisegwyr. Mae digwyddiad llawer mwy cyffrous sy’n cymryd lle'r mis hwn hefyd, sef llu o sêr gwib!

 

Cawod Meteor Perseid

Dyma gyfle euraidd i weld seren wib neu ddwy. Wel, i ddweud y gwir, efallai y byddwch yn gweld llawer mwy na hynny gan fod gwyddonwyr yn tybio y bydd oddeutu 50 meteor yr awr i’w gweld uwch ein pennau.

Fe welwch y meteorau yn gwibio heibio rhwng y 17eg o Orffennaf a’r 24ain o Awst, ond fydd y sioe ar ei orau rhwng y 12fed a’r 13eg o Awst.

Nid yw gweld sêr gwib mor syml â dod o hyd i’r lleuad. Maent yn llawer llai a llawer mwy cyflym a does dim dal ymhle fydd y meteorau yn ymddangos, a hynny am eiliadau yn unig! Er bod posibilrwydd i chi weld sêr gwib lle bynnag yr ydych yn y byd, mae yna rhai ffactorau i gofio er mwyn sicrhau'r olyfga orau posib.

 

Cawod Meteoraidd.png

Delwedd: © Rafael Schmall

Mae awyr glir o fantais ond does dim byd fedrwch chi wneud os nad yw’r tywydd yn ffafriol, ar wahân i groesi bysedd! Cofiwch, gan ein bod ni yng nghanol yr haf, nid yw’r haul yn machlud nes yn hwyr iawn a’r sêr arferol yn cymryd ychydig o amser i ddweud helô. Felly, os am fentro i weld y meteorau, paratowch ddigon o bethau da i’w fwyta wrth ddisgwyl!

Wrth edrych ar yr awyr, mae llygredd golau yn gallu atal neu effeithio ar yr hyn gallwn ei weld. Os ydych chi yn y ddinas, ceisiwch chwilio am fan lle nad oes gymaint o olau. Os fyddwch chi’n edrych trwy’r ffenest i geisio cip o’r meteorau, trowch oleuadau’r tŷ i ffwrdd er mwyn syllu i fyny. Mae angen ychydig o amser ar eich llygaid i addasu i weld y lloer yn well, felly byddwch yn amyneddgar a pheidiwch ddigalonni os nad ydych yn gallu gweld meteor yn syth!

 

Sadwrn.jpg

Delwedd: © Jeff Barton a Josh Walawender / NASA

Sadwrn

Os nad ydi gweld y lleuad a meteorau yn ddigon, mae cyfle hefyd i chi weld planed!

Ar y 27ain o Awst fydd Sadwrn i’w weld yn glir iawn. Mae hyn oherwydd lleoliad y planedau. Bydd Sadwrn a’r Ddaear mewn llinell berffaith gyda’r Haul, sy’n golygu y bydd Sadwrn yn cael ei oleuo gan yr Haul ac yn ei wneud yn glir iawn i ni yma ar y Ddaear gyda’r nos.

Mae hyn yn ddigwyddiad arbennig i astroffotograffwyr, oherwydd mae’n bosib tynnu lluniau anhygoel o’r blaned gan ddefnyddio offer tynnu lluniau proffesiynol. Peidiwch â phoeni, oherwydd does dim angen offer lu i weld Sadwrn yn ei holl ogoniant. Mae digonedd o aps ar gael sy’n rhoi cymorth i chi ddarganfod lleoliadau planedau gyda’ch llygaid yn unig, gan gynnwys gweld y blaned Sadwrn.

 

Os welwch chi un o’r tri digwyddiad yma, rhowch wybod i ni drwy dagio Lysh Cymru ar y gwefannau cymdeithasol!
 

bottom of page