top of page

Dysgu Gyda Jess

Untitled design (18).png

Mae mynd ati i ddysgu iaith newydd yn dipyn o gamp ac i’r rhai sy’n siarad Cymraeg o’r crud mae’n anodd sylweddoli’r heriau sy’n bodoli wrth fynd ati i’w dysgu nes ymlaen mewn bywyd. O’r treiglo i’r amryw helaeth o dafodiaith, mae’n iaith go gymleth i’w thaclo. Er hynny, mae Jess Martin wedi mynd ar ei phen i nid yn unig dysgu’r iaith, ond astudio’r iaith hefyd. Dyma ei stori.
 

JESS.jpg

Wnes i ddim tyfu i fyny yn siarad Cymraeg, nac yn clywed llawer ohono chwaith. Hyd nes i mi fod ym mlwyddyn 11 yn astudio ar gyfer fy arholiadau TGAU, yr unig Gymraeg ro’n i’n hadnabod oedd dyddiau’r wythnos, sut i ysgrifennu ‘gwaith cartref’ ar frig fy nhudalennau, sut i ddweud fy enw a fy mod i’n hoffi mynd i’r sinema gyda fy ffrindiau dros y penwythnos.

O ystyried mai dim ond dwy awr o wersi Cymraeg oedd gen i bob wythnos, roedd gallu siarad hyd yn oed y lefel yma o Gymraeg yn cael ei ystyried yn dda yn fy ysgol cyfrwng Saesneg. Fel y rhan fwyaf o fyfyrwyr eraill yn fy mlwyddyn i, wnes i erioed rhoi llawer o feddwl i ddysgu Cymraeg cyn blwyddyn 11 ac roedd ein gwersi Cymraeg yn lle i fyfyrwyr eraill yn fy nosbarth i geisio bod yn glowns dosbarth. Roedd fy athrawes TGAU, Miss Jarrett, yn sant i roi i fyny gyda ni.

Yn wir, dylanwad Miss Jarrett ac athrawes arall yn fy ysgol, Miss Karen Davies, dechreuodd newid fy meddwl am y Gymraeg. Trwy gydol blwyddyn 11, ro’n i’n cael problemau gyda fy iechyd meddwl ac ro’n i’n cael pyliau o banig sawl gwaith y dydd. Roedd cyfuno hyn â’r straen o wneud mwy na phymtheg arholiad dros bythefnos greu llanast i mi. Dwi’n cofio un diwrnod mewn gwers Gymraeg ro’n i’n ymarfer papurau arholiad, a dyma Miss Jarrett yn tynnu dwy gadair i mewn i’r coridor ac yn mynd trwy’r papur un cwestiwn ar y tro gyda fi, a’r lefel yma o garedigrwydd fwy nag unwaith oedd yn fy helpu i ymddiddori yn y Gymraeg.

 

Mae’r gweddill yn hen hanes! Penderfynais astudio’r Gymraeg ar gyfer Lefel A, gydag athrawon newydd a barhaodd i feithrin fy nghariad a’m diddordeb ym mhob peth Cymraeg. Dwi’n dal i feddwl amdanyn nhw’n annwyl. Credai Mrs Evans ynof gymaint nes fy mod i nawr yn y brifysgol lle rydw i hefyd yn astudio’r Gymraeg, yn dal i ail-ddarllen y geiriau ysgrifennodd hi mewn cerdyn gefais ganddi ar ddiwedd fy arholiadau Safon Uwch.

Fe wnes i gyfrif ar Instagram tua diwedd 2021 o’r enw
@dysgugydajess lle dechreuais rannu pytiau bach o fy nhaith yn dysgu a defnyddio’r Gymraeg gan nad oeddwn i’n adnabod unrhyw un oedd yn siarad Cymraeg. Cefais groeso i’r gymuned yn gyflym gan lawer o gyfrifon. Roeddwn i eisiau rhywle lle gallwn rannu'r llawenydd roeddwn i wedi'i ddarganfod trwy ddysgu mwy am y lle rwy'n ei alw'n gartref. Roeddwn i'n gweld y mwyaf o’n i’n postio, y mwyaf ro’n i’n dysgu am Gymru drwy'r ysgol a phobl eraill. Y tro cyntaf i mi glywed erioed am Gapel Celyn oedd pan o'n i'n ddwy ar bymtheg.

 
Roedd y cyfrif hwn yn helpu fi i ddatblygu fy hyder shwt gymaint. Os ydych chi'n nerfus ynglŷn â siarad Cymraeg, fy nghyngor i fyddai tafla dy hun ar dy ben i fewn i’r Gymraeg. Dwi'n anghofio geiriau ac yn eu hynganu nhw'n anghywir weithiau hefyd, ond dyw e ddim yn fy ngwneud i'n llai o siaradwr Cymraeg. Mae pobl bob amser yn hapus i'ch cywiro a'ch helpu.
 

369902624_1104878040496208_6898703431024670155_n.jpg
Untitled design.jpg

Mae ambell beth wedi bod yn y newyddion yn ddiweddar am sut nad oes gan fyfyrwyr mewn ysgolion Saesneg sgiliau iaith Cymraeg gwych, ac fel rhywun a aeth i ysgolion cyfrwng Saesneg drwy gydol fy addysg, rwy'n deall pam. Mae fy nghyfnither fach newydd ddechrau yn yr un ysgol gyfun yr es iddi, ac mae ganddi awr o Gymraeg yr wythnos, tra bod pynciau STEM yn cymryd rhan fwyaf o'i hwythnos. Mae'n drist bod cyn lleied o ystyriaeth yn cael ei roi i ddysgu iaith ein mamwlad, a sut mae unrhyw un i fod i adael addysg cyfrwng Saesneg a bod yn siaradwr hyderus, fel y mae Llywodraeth Cymru ei eisiau, ddim yn gwneud unrhyw synnwyr i mi. Dyma pam penderfynais i sgwennu fy nhraethawd hir am sut i wella addysg Gymraeg i'r rhai mewn ysgolion cyfrwng Saesneg, a gobeithio y bydd y system addysg hon yn well yn y dyfodol. Byddwn i wedi bod wrth fy modd yn gadael yr ysgol yn gallu siarad Cymraeg yn rhugl, ond rydw i hefyd yn ddiolchgar am bopeth sydd wedi arwain i mi astudio o dan adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe.
 

bottom of page