top of page

Dy Ystafell Fyw Ddigidol

Family on couch from above

Un tro, ymhell yn ôl, roedd y cyfryngau cymdeithasol yn byw ar gyfrifiadur mewn cornel dawel o’r tŷ ac yma ble roedd o’n aros. Ocê, efallai nad oedd o mor hir yn ôl â hynny, ond mae pethau wedi datblygu mor gyflym. Roedd hysbysiadau yn aros i ti ddychwelyd a logio i mewn - doedd dim negeseuon yn gweiddi arnat yn mynnu dy sylw rŵan hyn! Coelia neu beidio, ond roedd rhaid mewnbynnu manylion logio i mewn bob tro ac os oedd Anti Jîn o Awstralia bell eisiau dweud “helo” yna roedd rhaid iddi aros oriau, os nad dyddiau, i ti logio mewn i weld ei neges ac ymateb.

Erbyn heddiw, mae’r cyfryngau cymdeithasol yn dy law a phan nad ydi dy ffôn yn dy law yna mae’r hysbysiadau yn siŵr o weiddi arnat i godi’r ffôn unwaith eto. Does dim rhaid logio i mewn na chofio’r un cyfrinair gyda neges Anti Jîn yn cyrraedd dy lygaid o fewn eiliadau - ei neges o Awstralia bell yn dy ddeffro ganol nos!

 

Mae pethau wedi mynd allan o reolaeth pan mae’n dod at ddefnydd o’r cyfryngau cymdeithasol a thechnoleg glyfar. Does dim saib i gael, a hyd yn oed os wyt ti’n ceisio torri i lawr ar dy amser sgrin mae cadw mewn cysylltiad gyda dy ffrindiau weithiau yn gofyn i ti fod ar dy sgrin. Wedi’r cyfan, dwyt ti ddim eisiau methu allan ar sgandal yn y sgwrs grŵp!

Does dim dwywaith bod rhaid i ti fod mewn rheolaeth o dy ddefnydd o’r cyfryngau cymdeithasol ac rwyt ti’n siŵr o fod yn teimlo hynny, er mor anodd ydi gwneud hynny. Mae’r dy algorithm wedi ei deilwria i ti er mwyn dy gadw’n gaeth drwy dangos cymysgedd o. Oes modd ei drechu?!

Oes, mae’n debyg, a hynny trwy drin dy socials fel ystafell gymdeithasol irl (go iawn) - dy ystafell fyw! Swnio’n boncyrs, ond darllena ymlaen...


Codi oddi ar y soffa


Dydi eistedd ar y soffa drwy’r dydd, bob dydd, ddim yn grêt, nac ydi? Ti’n gwybod hynny! Beth bynnag, er mor gysurus ydi treulio ychydig o oriau yn gwylio dy hoff gyfres newydd, mae’n mynd ychydig yn ddiflas ar ôl ychydig. Ti’n gwybod bod codi oddi ar y soffa a mynd i fwynhau chwa o awyr iach yn mynd i godi dy hwyliau, felly pam wyt ti’n eistedd ar Instagram am oriau yn sgrolio’n ddiddiwedd? Coda o dy soffa ddigidol!

Woman Using Smartphone
Person Staring at Smartphone

Amser tacluso

Wyt ti erioed wedi edrych o dy gwmpas a theimlo ysfa i lanhau? Digon teg, efallai nad ydi o’n digwydd yn aml, ond weithiau mae rhywun yn cyrraedd y pwynt ble mae’n RHAID i ti wneud rhywbeth am yr holl lanast. Wel, mae hynny’n wir gyda dy “ystafell” ddigidol hefyd.

Ymwelwyr

Mae dy ystafell fyw yn gallu bod yn le cymdeithasol, a ti sy’n penderfynu hynny! Ti sy’n penderfynu pwy sy’n cael dod i mewn am baned a sgwrs ac mae’n siŵr bod gen ti syniad go lew o bwy fysa ti DDIM yn ei wahodd i mewn! Felly, pam fysa ti’n eu croesawu i dy ffrwd? Mae rheoli beth wyt ti’n ei weld ar yr holl aps yn anodd ac mae dod ar draws rhywbeth dwyt ti ddim eisiau ei weld yn llawer rhy hawdd, ond rwyt ti yn gallu dad-gysylltu gydag unigolion sy’n rhannu cynnwys sy’n dy boeni neu flocio ambell i seleb problemus. Fesul tipyn mae mynd ymlaen!

 

bottom of page