top of page
Dweud y Gwir

Dydi newyddion ffug ddim yn beth newydd. ‘Da ni gyd yn gwybod nad oes modd coelio popeth sydd yn cael ei ddangos i ni ar y we, na chwaith y penawdau mewn papurau newydd sydd wedi eu dylunio yn arbennig i ddenu’n sylw ac i werthu papurau (neu hybu “clics”). Ond bellach, gyda chymaint o newyddion amheus o gwmpas, sydd weithiau’n cael eu creu gan wleidyddion (a dylai wybod yn well). Rhaid cofio, hefyd, ein bod ni mewn byd ble mae deallusrwydd artiffisial, neu AI, hefyd yn chwarae rhan ddryslyd yn y mater. Mae’n fan peryglus iawn i’w lywio, ond tyrd i ni edrych ar ychydig o ffyrdd i adnabod newyddion ffug a, gyda lwc, atal ei ledaeniad!
1. Pwylla cyn ymateb
Mae newyddion ffug pwrpasol wedi cael ei ddylunio i’n gwylltio neu’n dychryn ni - felly pwylla! Os ydi erthygl yn gwneud i ti deimlo’n flin ofnadwy neu yn dy ofni di, cymer ychydig funudau i ystyried os ydi’r hyn rwyt ti’n darllen yn hollol gywir cyn mynd ati i rannu’r wybodaeth neu cyn gadael ymateb ar-lein. Os wyt ti’n amau am eiliad dy fod yn darllen newyddion ffug, mae mynd ati i’w wirio yn gallu bod yn broses syml.
2. O le ddaw’r darn?
Pan fyddi di’n sgrolio, mae’n holl bwysig cofio bod unrhyw un yn gallu postio unrhyw beth maen nhw eisiau arlein - boed hynny’n erthyglau ffeithiol cywir neu’n rwtsh llwyr. Gwna’n siŵr dy fod yn ymddiried yn y cyflenwr a’r newyddiadurwr, a’u bod nhw’n cael eu hadnabod fel cyflenwyr newyddion teg a chywir! Dydi hyn ddim i ddweud i aros gydag un cyflenwr am beth amser, oherwydd mae’n bwysig darllen a gwrando ar farn wahanol newyddiadurwyr sydd yn edrych ar sefyllfaoedd o safbwyntiau gwahanol.
Pan fo erthyglau werth eu hymddiried ynddynt, maent fel arfer yn rhannu ffeithiau ac ystadegau gan ddyfynnu o ble yn union daw’r wybodaeth hwnnw. Byddi di, wedyn, yn gallu mynd ati i wirio’r wybodaeth er mwyn gwneud yn siŵr dy fod yn darllen ffeithiau, ac nid newyddion ffug. Fel arfer, dydi newyddion ffug ddim yn dyfynnu ffeithiau gyda ffynonellau eglur a phendant - ac mae hynny’n fflag goch!
​


3. Gwiria’r dyddiad
Mae hyn yn arbennig o wir pan mae’n dod i gynnwys sydd yn cael ei rannu ar y cyfryngau cymdeithasol. Gan fod y rhyngrwyd fel bas data enfawr o erthyglau o ddegawdau yn ôl, mae’n hawdd rhannu rhywbeth sydd i’w weld yn gyfredol, ond bod y darn wedi cael ei gyhoeddi blynyddoedd yn gynt gyda data sydd, bellach, wedi newid. Felly, os wyt ti’n bwriadu rhannu gwybodaeth arlein, gwiria’r dyddiad i sicrhau nad wyt ti’n rhannu gwybodaeth anghywir gyda dy ffrindiau!
​
Gyda’r tri cham uchod, byddi di’n gallu adnabod newyddion ffug. Ond, cofia, os nad wyt ti’n siŵr os ydi erthygl yn rhannu gwybodaeth wir neu beidio, paid â’i rannu!
bottom of page







