top of page
Dod at dy Goed:
Dulliau Angori

Mae’r byd yn gallu bod yn... ormod weithiau. Tra bod gymaint yn mynd ymlaen yn dy fywyd personol di, mae yna hyd yn oed fwy o bethau pwysig yn digwydd yn y byd o dy gwmpas. Mae byw yn ystod cyfnod fydd, mae’n debyg, yn gyfnod allweddol mewn hanes rhwng popeth yn amhosib i flinedig.
Wrth i’r byd mynnu dy boeni am hwn, llall ac arall, mae’n bwysig adnabod ffyrdd o arbed gormod o straen ar dy gorff ac ar dy feddwl. Wyt ti erioed wedi clywed am ddulliau angori? Wel, maent yn dechnegau defnyddiol ar gyfer dy gadw di yn y foment bresennol, gan leddfu symptomau gor-bryder. Mae dulliau angori i bawb, er mae’r hyn sydd yn gweithio’n dda i ti yn gallu bod yn wahanol i rywun arall.
Felly dewch i ni ddod yn ôl ar ein coed a dod i adnabod ambell i dechneg angori er mwyn gwneud ein gorau i oroesi mewn un darn! A sôn am goed...
Dod at dy Goed
Dyma ddywediad sy’n gyfarwydd i ni gyd, ond mae gwiredd ynddo! Mewn coedwigoedd, mae’r coed o dy amgylch yn rhyddhau cemegau sydd yn lleihau straen a gostwng dy bwysedd gwaed. Os oes gen ti fynediad at goedwig, dyma’r lle perffaith i wneud ymarferion angori.
Dŵr Amdani
Rho dy ddwylo mewn dŵr, neu dwr sy’n rhedeg - dydi’r tymheredd ddim o bwys am y tro. Ffocysa ar sut mae hyn yn teimlo ar dy ddwylo ac, yna, ar wahanol rannau o dy ddwylo. Sut mae’r tymheredd yn teimlo i ti? Ydi o wedi newid?
Os oes gen ti fynediad ar rew, dal y rhew yn dy ddwylo a ffocysa ar y synhwyriad wrth iddo doddi. Sut mae’n teimlo ar y cychwyn i gymharu gydag ar y diwedd pan mae’r rhew yn troi’r dŵr?


Cym Anadl
Dyma’r dechneg symlaf a’r dechneg sydd yn bosib mewn unrhyw le er mwyn arafu dy anadl a dy gorff mewn sefyllfa anodd. Arbrofa gydag ymarferion anadlu a, pan fyddi di’n teimlo’r angen i dawelu’r meddwl, cym amser i ymarfer. Un ymarfer defnyddiol ydi cyfri fesul pedwar. Cym wynt am 4 eiliad, ei ddal am 4 eiliad, gollwng gwynt am 4 eiliad cyn ei ddal eto am 4 eiliad.
Heriau Meddyliol
Techneg arall sy’n bosib ei wneud mewn unrhyw le ydi heriau meddyliol. Mae’r heriau yma yn mynnu dy sylw llawn a drwy ganolbwyntio ar yr her y bydd dy gorff yn arafu ychydig. Syniad am her ydi cyfri i lawr o 100 fesul 8, neu o unrhyw swm fesul unrhyw rif - cyn belled â nad ydi o’n rhy hawdd a’i fod o yn ychydig o her i ti.
bottom of page
