top of page
Dolig Di-Straen

Dyma ni eto! Mis Rhagfyr bron â chyrraedd a’r Nadolig rownd y gornel. Wel, os yda chi wedi bod yn siopa’n ddiweddar mae’n debyg bod y cwmnïau mawr i gyd yn mynnu bod y Nadolig wedi cychwyn ar ganiad hanner nos ar Noson Calan Gaeaf!
Efallai y byddi di wedi bod yn poeni am yr holl anrhegion yn barod, a dydi’r holl bobl sydd yn brolio eu bod wedi gorffen yn barod ddim yn helpu dim! Efallai dy fod wedi cael y dasg o drefnu rhan o’r cinio Nadolig, a ddim yn siŵr sut bydd y gost ychwanegol yn ffitio i mewn i dy gyllideb fisol, sydd ddigon tynn ar ben ei hun. Waeth beth yw dy sefyllfa, mae’r ŵyl yn fwy ‘na’r gwario.
Nid anrhegion yw popeth!
Ocê, mae hwn yn mynd i swnio ychydig bach yn gawslyd, ond mae o’n wir; nid anrhegion yw popeth. Os wyt ti’n meddwl am y peth go iawn, wyt ti’n cofio beth wnes di dderbyn llynedd? A hyd yn oed os wyt ti’n cofio’n union beth oedd o dan y goeden, sawl anrheg oedd yn wirioneddol ddefnyddiol i ti a sawl anrheg sydd dal yn y bocs (neu wedi cael ei roddi i raffl leol!).
Meddylia am yr holl atgofion Nadoligaidd dros y blynyddoedd, sawl atgof sydd cynnwys straeon doniol o aelodau’r teulu neu ffrindiau annwyl ar ôl gormod o bwdin? Sawl atgof sydd yn cynnwys chwerthin rownd y bwrdd bwyd, neu fynd allan gyda dy ffrindiau ar y nos Wener cyn yr ŵyl, neu drefnu’r wisg berffaith ar gyfer joio’r dathlu? Tipyn mwy o atgofion melys felly fyswn ni’n tybio!
​​


Mae rhywbeth bach yn poeni pawb
Rhaid i ti chwilio’n bell iawn i ddod o hyd i rywun sydd ddim yn poeni am y diwrnod mawr. Boed hynny’n rhywun sy’n poeni am dwrci ac amseroedd coginio neu’n rhywun sy’n poeni am wario, mae rhywbeth bach yn poeni pawb adeg y Nadolig. Dydi hyn ddim yn synnu neb, gan fod pwysau mawr yn cael ei roi arnom i drefnu’r diwrnod Nadolig orau erioed. Wyddost ti, efallai drwy gynnig Nadolig ychydig bach mwy synhwyrol, a rhatach, mae’n debyg y bydd y rhai o dy gwmpas yn rhoi ochenaid o ryddhad? Anodd iawn ydi cyfaddef dy fod yn stryglo gyda chostau’r ŵyl. Felly, os wyt ti’n teimlo’n ddewr, bydda di yn y cyntaf sy’n cynnig syniad newydd.
Mae sawl un ar-lein yn rhannu syniadau ar y socials am weithgareddau a thraddodiadau newydd i’w mabwysiadu’n flynyddol, ac mae un yn cynnwys her siop elusen. Os wyt ti’n prynu anrhegion i griw o ffrindiau, ystyriwch y syniad o “santa cudd” mewn siop elusen, gan roi cyllideb i bawb gyda’r her o ddod o hyd i rywbeth doniol, neu ddefnyddiol, heb dorri’r gyllideb. Os byddi di ddigon sydyn, efallai byddai defnyddio aps ail law yn syniad os nad wyt ti’n ddigon dewr i wynebu’r tyrfau sy’n siopa Nadolig!
Addurniadau amrywiol
Sut mae manwerthwyr yn gwneud arian mawr? Trends, wrth gwrs! Nid yn unig trends ffasiwn sy’n cynhyrchu arian mawr i fusnesau, ond trends Nadoligaidd, hefyd. Bob blwyddyn, mae’r siopau yn ceisio eich denu i brynnu bauble lliw gwahanol, sydd yn fargen, ac o fewn dim bydd rhaid i chi fuddsoddi mewn addurniadau lu o’r un lliw newydd a’r gost wedi cynyddu’n sylweddol! Wedi’r cyfan, rhaid i ti fod yn postio’r lluniau perffaith ar dy socials, does?!
Wel, nagoes! Does dim byd yn bod gyda defnyddio’r un addurniadau blwyddyn ar ôl flwyddyn. Wedi’r cyfan, mae’n Nadolig, yn draddodiadol, yn ŵyl draddodiadol, ble mae traddodiadau yn ffynnu, dydi?!
Os mai dyma’r flwyddyn gyntaf i ti fod yn addurno dy le dy hun, yna mae’n debyg y byddi di’n edrych ymlaen at brynu dy addurn neu ddau gyntaf. Felly, bydda’n bwrpasol - pryna rhywbeth sydd yn gwneud i ti wenu ac sy’n debygol o wneud i ti wenu bob tro y byddi di’n ei dynnu o’r bocs. A chofia, mae’n bosib prynu addurniadau ail law mewn siopau elusen neu ar-lein, os wyt ti am fargen dda!
​​

bottom of page







