top of page

Diwrnod Barddoniaeth 2023

Writing by the Water

Mae Diwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth yn cael ei ddathlu ar y 5ed o Hydref! Mae barddoniaeth wedi chwarae rhan fawr yn ein hanes. Diolch i feirdd hanesyddol, mae hen straeon wedi cael eu cofnodi mor bell yn ôl â’r 4ydd ganrif! Y dyddiau yma, mae cerddi yn ffyrdd effeithiol iawn i gyfleu neges, rhannu barn ac mae ysgrifennu cerddi yn gallu bod yn brofiad pwerus i ryddhau emosiwn.

I ddathlu’r achlysur yma, beth am gerdd fath arbennig yn ecsgliwsif i Lysh? Gofynnwyd i
@geiriaugwain ysgrifennu darn bach, a dyma’r canlyniad gwych:

 

Ti’n gw'bod yr holl ddyddia’
Pan mae’r cloc yn llusgo’i dîn
A ti’n taeru ac yn stwna
“Dwi’n gach, dwi’n cyflawni dim”.

Pob atgof hen llawn cwilydd
Yn cylchu rownd dy ben
Hefo trac-sain sydd mor crinj
Ti’n gweiddio i stopio’r trên.

Pan ma’ lleisiau mwyn dy lyfs i gyd
Yn swnio fel lladd cathod
A dy afael ar synhwyrdeb
Yn gareiau wedi datod.

Wel, di rheini ddim yn wastraff,
Aml daw dryswch cyn cael trefn.
Rhaid torri wya’ i neud cacan,
Ildio’r mỳll, cyn joio gwên.

-@geiriaugwain

 

Cer draw i socials Lysh i gyd i ymuno yn y dathliadau ac i ddarganfod pwy yw hoff feirdd ein darllenwyr!
 

bottom of page