top of page
notification.png

 Diffodd y Dyfeisiau! 

Dyma erthygl sy’n weddol eironig. Wrth i chi ei darllen hwn ar ffôn, ar laptop neu ar ôl clicio i ddarllen wedi derbyn ein cylchlythyr, dyma’r neges; rhowch y ddyfais i un ochr! Wel, dim eto efallai. Gorffennwch ddarllen yn gyntaf, oherwydd mae gennym ni eiriau o gymorth pan mae’n dod i ddiffodd dyfeisiau.

Mae gan ddyfeisiau digidol, sy’n ein cysylltu ni gyda theulu a ffrindiau, fanteision a does dim dwywaith am hynny. Anodd iawn yw dychmygu amser pan roedd neges destun yn costio 10c ac roedd cysylltu gyda’r we ar ddamwain yn peri gofid enfawr rhag ofn i’r ffôn lyncu’r credit i gyd. Y dyddiau yma, mae apiau er mwyn cysylltu gydag eraill yn ddiddiwedd a sawl un am ddim.

 

Efallai dy fod wedi gweld dylanwadwyr neu ffrindiau yn nodi eu bod yn cymryd saib o’r socials, neu ‘social media detox’. Mae buddion diffodd y dyfeisiau yn werthfawr iawn, ac mewn gwirionedd does dim rhaid i ti ddileu bob un ap a chuddio dy ffôn mewn bocs er mwyn lleihau effeithiau negyddol y cyfryngau cymdeithasol. Wrth i ti leihau dy amser ar yr apiau, mae’n debyg y byddi di’n gweld dy fod yn teimlo llai o straen. Wrth sgrollio’n dragwyddol, rwyt ti’n derbyn llu o wybodaeth a newyddion, sy’n gallu bod yn ormod i ti ei brosesu. Mae’n debyg y byddi di’n llai tueddol o gymharu dy hun ag eraill - wedi’r cwbl, nid aur yw popeth melyn a dydi’r dylanwadwyr bendant ddim yn portreadu bywyd go iawn! Cred rhai bod gwario llai o amser ar y cyfryngau cymdeithasol yn gallu helpu gyda ffocws a hefyd cryfhau cysylltiadau gyda theulu a ffrindiau yn y byd go iawn.

Mae’n amlwg fod rheoli dy ddefnydd o’r cyfryngau cymdeithasol o les emosiynol ond mae rhoi’r gorau i sgrollio yn anodd, a’r awydd i gadw’r cyswllt gyda’r byd a’i sŵn yn ddeniadol tu hwnt. Felly, sut yn union mae mynd ati i ddiffodd y dyfeisiau?

 

Summer Fun

1.    Tyrd â ffrind efo ti ar y siwrnai!
Mae mynd ati i ddechrau siwrnai newydd a rheoli dy ddefnydd o’r cyfryngau cymdeithasol yn anodd, ond mae gwneud hynny ar ben dy hun yn anoddach fyth. Tybed, oes gen ti ffrind sy’n ceisio cadw i ffwrdd o’i ffôn hefyd? Os oes, perffaith! Ewch ati i drefnu gweithgareddau gyda’ch gilydd sy’n mynd i gadw eich meddwl ar bethau eraill. Mynd am dro i lan y môr, mynd i’r pwll nofio neu ychydig o siopa - mae’r dewis i fyny i chi!

2.    Gwiria gosodiadau terfyn amser
Yn ddiweddar, mae ffonau ac apiau yn gadael i ti fonitro faint o amser rwyt ti’n gwario ar dy ffôn. Cer i edrych, efallai byddi di’n synnu faint o amser rwyt ti’n gwario arnynt! Ta waeth, paid â phoeni gormod am hyn, a cher ati i osod terfyn amser. Cofia, bydda’n realistig ac efallai mai cyfyngu’r amser ti’n gwario ar yr apiau dros gyfnod ydi’r ffordd ymlaen i ti.

 

3.    Dileu, dileu, dileu!
Ar ein ffôn, mae modd cael sawl ap cyfathrebu. Mae gan bron pob platfform cymdeithasol system anfon negeseuon, a’r gwirionedd ydi, dwyt ti ddim ei hangen nhw i gyd! Gyda dy ffôn yn canu i dy hysbysu am neges sawl gwaith yn ystod y dydd, mae’n gallu teimlo’n ormod i ti ddelio ag ef. Ystyria pa apiau fedri di fyw hebddynt, a pha apiau fedri di fudo. Hynny yw, dwyt ti ddim angen cael dy hysbysu fod seleb wedi postio llun - mae yna bethau llawer mwy pwysig i ti fod yn gwneud heb i hysbysiad darfu arnat ti!

Felly, cer amdani a rho wybod i Lysh sut mae pethau’n mynd - os nad wyt ti wedi gwario gormod o amser yn syllu ar y sgrin, hynny yw! 

 

Messaging
bottom of page