top of page

Dathlu gyda Balchder!

Pride Parade

Dan ni yng nghanol mis Pride ac mae cryn dipyn o ddathlu eisoes wedi ei drefnu! Tra bod Caerffili, Rhyl a Llandeilo wedi bod wrthi’n llawenhau yn barod, mae Fflint a’r Fenni yn barod amdani - heb anghofio’r prif ddigwyddiad, sef Pride Cymru yng Nghaerdydd.

Felly, pam fod mis Pride yn bwysig? Wel, mae’n deg i ddweud fod y mis yn golygu sawl peth gwahanol i bawb. Mae hunaniaeth yn rhywbeth personol, felly mae ystyr ac arwyddocâd mis Pride yn rhywbeth sy’n unigryw i bawb. Ond, ar raddfa fwy, does dim dwywaith fod magu balchder mewn rhywioldeb unigolyn wedi bod yn her hir a dim ond yn ddiweddar iawn mae amrywiaeth o rywioldeb yn cael ei dderbyn gan gymdeithas eang - ond nid dyma’r achos ym mhob cymdeithas ledled y byd, ac yn sicr mae ffordd helaeth i fynd eto er mwyn cael cydraddoldeb i bawb.

 

Mae rhywun yn mynd i feddwl am wledydd pell pan mae’n dod i homoffobia, trawsffobia ac atgasedd o’r fath. O ralis yn Unol Daliaethau America i wledydd ble mae bod yn hoyw yn cael ei ystyried yn anghyfreithlon, mae’n ymddangos fel problem sy’n bell i ffwrdd o’n cymdeithas ni... neu o leiaf yn rhywbeth o’r gorffennol, dydi? Y gwir amdani yw bod atgasedd tuag at y gymuned LHDTC+ yn gallu digwydd ar ein stepen ddrws - ac mae o YN digwydd ar ein stepen ddrws. Eleni, wrth osod arddangosfa i ddathlu’r mis hwn, bu i siop lyfrau Browsers ym Mhorthmadog brofi negeseuon cas. Mae hyn yn ein hatgoffa ni o brofiadau unigolion sy’n perthyn i’r gymuned LHDTC+, profiadau sy’n gallu digwydd yn ddyddiol.

Cynhaliwyd beth sy’n cael ei ystyried fel y parêd Pride cyntaf yn Efrog Newydd ar y 28ain o Fehefin 1970, blwyddyn wedi’r digwyddiad Stonewall y flwyddyn cynt, ac yn dilyn hynny cynhaliwyd parêd yn ninasoedd Chicago, Los Angeles a San Francisco. Roedd digwyddiad Pride cyntaf yn y Deyrnas Unedig yn 1972, a hynny yn Llundain, cyn i’r digwyddiad gyrraedd Cymru - o’r diwedd - yn 1982.
 

Rainbow Flags
IMG_4648.JPEG

Fel soniwyd ynghynt, mae’r mis o ddathlu a chydnabod yn golygu rhywbeth personol i bawb. O gefnogi ffrindiau neu deulu i gydnabod rhywioldeb am y tro cyntaf heb feirniadaeth, mae’n fis sy’n cynnig man diogel i fod yn ti dy hun. Gofynnwyd i ddarllenwyr Lysh beth mae mis Pride yn ei olygu iddyn nhw, a dyma’r negeseuon a gafodd eu rhannu gyda ni:

“I mi, mae mis Pride yn gyfle i ddathlu’r gymuned dwi’n ran ohoni. Dydi o ddim just amdana i a fy mhrofiad i – mae o am brofiad y gymuned a’r ffaith ein bod ni’n gallu dathlu yn ddiogel.”
-    Mari

“Dydw i ddim yn siwr beth ydi fy rhywioldeb eto, mae o’n rhywbeth dydw i ddim yn siwr ohono. Ond, dwi’n gwbod pan fyddai’n gwbod, fydd yna groeso mawr i mi a dwi wedi dysgu does dim brys i mi ddarganfod fy rhywioldeb i chwaith, achos profiad fi ydi, neb arall. Dwi wedi bod yn ran o parêd Pride gyda fy ffrindiau o’r blaen a ges i lot fawr o hwyl, felly dwi’n siwr fyddai yn ymuno eto yn fuan.”
-    Erin

“Mae mis Pride a’r holl ddathliadau yn golygu mod i’n rhan o rywbeth a bod yna bobl allan yna sydd yn debyg i fi mewn rhyw ffordd, neu sydd o leiaf wedi cael profiadau tebyg. Rwy’n byw yng nghefn gwlad, ac felly does dim cymuned LGBTQ+ reit ar fy stepen ddrws, ond rwy’n gwybod bod nw mas ‘na a dydw i ddim ar fy mhen fy hun.”
-    Laura

 

bottom of page