top of page

Dathlu a Dysgu:

Mis Pride

Pride Flag Bunting

Mae mis Mehefin yn fis arbennig iawn, a hynny gan ei fod yn Fis Pride. Dyma fis sydd yn canolbwyntio ar ddathlu’r gymuned LHDTC+ ar hyd a lled y byd a mis sydd yn hybu cydraddoldeb, gan edrych yn ôl ar hanes y gymuned, dathlu hunaniaeth heddiw a thrafod sut allwn ni symud ymlaen yn y dyfodol.

Cychwynodd Mis Pride yn 1979 draw yn yr Undol Daliaethau, a hynny er mwyn dathlu blwyddyn ers Terfysgoedd Stonewall. Er i sawl ddigwyddiad dathlu cael eu cynnal yng Nghymru yn y 80au a 90au, yn 1999 oedd y digwyddiad Pride Cymru swyddogol cyntaf yng Nghaerdydd. Dros y cyfnod yma, mae gymaint wedi newid ac, mewn sawl gwlad bellach, mae bywyd yn llawer tecach, yn llawer mwy diogel i aelodau’r gymuned. Ond, yn yr un gwynt, rhaid cofio bod gymaint o ffordd eto i fynd a nid pawb sydd yn teimlo’n saff o ddydd i ddydd – a dyma un rheswm pam bod Mis Pride mor bwysig. Wedi’r cyfan, does dim cydraddoldeb nes mae pawb yn ddiogel.

 

Dathliadau Eleni

Erbyn heddiw, mae digwyddiadau Pride ar hyd a lled y wlad yn niferus - gymaint nes nad ydyn nhw'n ffitio mewn un mis!


O fis Mai i fis Medi, mae digwyddiadau wedi eu gwasgaru ar draws y wlad ac mae'n siwr bod un yn agos i ti. Dyma'r rhai sydd eto i'w cynnal eleni:
 

  • Ystradgynlais (Parc yr Orsedd), 27ain o Fehefin

  • Pride Gogledd Cymru (Canolfan Ucheldre, Caergybi) 18fed o Orffennaf

  • Wrecsam (Sgwâr y Frenhines) 25ain o Orffennaf

  • Caldicot Pride, 15fed o Awst

  • Casnewydd (Pride in the Port), 5ed o Fedi

Wyt ti'n ymwybodol o ddigwyddiad arall? Rho wybod i ni!

Pride Parade Scene
Pride Socks Outdoors

Balchder i Ti

Mae Lysh yn falch iawn o fod yn gymuned sydd yn glos ac yn agored, a holwyd y darllenwyr am beth yn union mae'r mis benodedig yma yn ei olygu iddynt. 
 

"Mae o'n gyfle i ddathlu! Dwi'n hoff iawn o ddarllen am yr arwyr sydd wedi brwydro am ein hawliau ni heddiw, a dwi wrth fy modd yn adrodd yr hanesion yna ymysg fy ffrindiau... ac i bawb sydd awydd gwrando! Mae o mor bwysig i gofio'r rhai sydd wedi brwydro ac sydd wrthi'n brwydro o hyd ac i adnabod y dewrder hwnnw."

"Dydw i ddim yn aelod o'r gymuned LHDTC+, felly mis o wrando ydi hwn i mi. Mae yna gymaint i'w ddysgu, a'r ffordd orau  o ddysgu ydi trwy wrando. Dim just gwrando ar y wybodaeth sydd yn dod ein ffordd ni, chwaith, ond drwy mynd ati i ddysgu ar bwrpas!"

 

"Dwi'n newydd i'r gymuned, felly mae mynd ar fy mhen i ddathliadau LHDTC+ wedi bod yn gysur mawr. Dydi pethau heb fod yn hawdd, felly mae syrthio mewn i môr o gefnogaeth lliwgar wedi gwneud pethau gymaint haws."

"Dwi bob tro yn dysgu rhywbeth newydd yn ystod y mis yma, a fel arfer drwy'r cyfryngau cymdeithasol! Mae hanes y gymuned LHDTC+ yn llawer mwy dwys 'na mae rhywun yn ddychmygu, ti'n meddwl ti'n gwybid y cyfan cyn i rywbeth newydd codi ei ben!"

 

Pride Parade Celebration

Llen Lliwgar

Os wyt ti, fel ein darllenwyr uchod, eisiau dysgu, gwrando ac ymfalchïo yn y gymuned LHDTC+, yna dyma awgrymiadau o lyfrau gwych i'w ddarllen y mis yma a thu hwnt:
 

Lladd Arth.jpg

Lladd Arth
gan Kayley Roberts

Curiadau.jpg

Curiadau
(Gol. Gareth Evans-Jones)

Y-Twr.jpg

Y Tŵr

gan Rebecca Thomas

Samsara.jpg

Samsara

gan Sonia Edwards

Tu Ol i'r Awyr.jpg

Tu Ôl i'r Awyr
gan Megan Angharad Hunter

Y Pump.jpg

Cyfres
Y Pump

Byw yn fy Nghroen.jpg

Byw yn fy Nghroen
(Gol. Sioned Erin Hughes)

bottom of page