top of page

Dallt y Jargon

Coins

Mae byd arian a chyllid yn... gymleth. A’r hyn sy’n ein drysu ni’n llwyr? Y terminoleg!

Yda chi erioed wedi gwylio’r newyddion gyda’r cyflwynydd yn cyhoeddi’n bwysig bod chwyddiant wedi cynyddu, a meddwl i ti dy hun “Be yn y byd mae hynny yn ei olygu?!”. Yna, maen nhw’n symud ymlaen i’r stori fawr nesaf, heb oedi i egluro beth yn union ydi chwyddiant a beth mae hynny yn ei olygu i ni! Wel, digon yw digon. Isod mae rhestr o eiriau sydd yn cael eu defnyddio’n aml ym myd arian a chyllid. Felly, y tro nesaf y byddi di’n trafod y newyddion diweddaraf gyda rhywun, fyddi di’n siwr o allu smalio dy fod yn gwybod beth wyt ti’n siarad am!

 

Chwyddiant (Inflation)
Mae chwyddiant yn digwydd pan fo prisiau yn cynyddu ac mae Cyfradd Chwyddiant (Inflation Rate) yn dweud wrthom pa mor gyflym mae’r prisiau yn codi.

Datchwyddiant (Deflation)
Er nad ydi hyn yn digwydd yn aml y dyddiau yma, dyma term sy’n gwbl groes i’r uchod – pan mae prisiau yn mynd i lawr!

Cyfraddau Llog (Interest Rate)
Pan fo rhywun yn menthyg arian o’r banc, mae’r cyfraddau llog yn dweud faint sydd yn rhaid ei dalu yn ôl yn ychwanegol, ar ben yr arian sydd yn cael ei fenthyg. Ond nid y banc yn unig sy’n elwa o gyfraddau llog – os wyt ti’n rhoi arian mewn cyfrif cynilo, mae’r cyfradd llog yn dweud faint o arian sy’n cael ei dalu i dy gyfrif di! Canran yw’r cyfradd llog.
 

Entering credit card details
Canary Wharf London

Sgôr Credyd (Credit Score)
Mae sgôr credyd yn rhoi syniad i fanc ar dy arferion credyd. Hynny yw, os wyt ti’n gwneud cais am gerdyn credyd, morgais neu am fenthyciad, mae’r banc neu’r benthycwr angen syniad o dy hanes credyd – sy’n gwneud synnwyr, dydi? Byddet ti ddim yn benthyg paent gewinedd i ffrind sydd byth, byth yn dychwelyd pethau! 

GDP (Cynnyrch Domestig Gros, neu Gross Domestic Product)
Yn ryngwladol ac ar y newyddion, yr acronym GDP sy’n cael ei ddefnyddio er mwyn disgrifio maint a iechyd yr economi.

Dirwasgiad (Recession)
Dyma gyfnod o ddirywiad economaidd sylweddol sy’n diwgwydd pan mae’r nifer o bobl sy’n ddi-waith yn cynyddu a’r GDP (gweler uchod) yn dirywio.

ISA (Cyfrif Cynilo Unigol, neu Individual Savings Account)
Dyna acronym bach ciwt! Cyfrif cynilo ydi ISA, sydd ychydig bach yn wahanol i gyfrif cynilo arferol. Mae’r arian sy’n cael ei gadw yn y cyfrif yma yn derbyn llog di-dreth, ond mae cyfyngiad yn y nifer o arian allwch chi roi yn y cyfrif bob blwyddyn.
 

Mae yna lu o dermau a llond trol yn fwy o acronyms i’w gael ym myd cyllid. Ond, gobeithio bod yr esboniadau uchod yn eich rhoi ar ben ffordd!
 

bottom of page