top of page

Dal Tro'r Tymhorau

Tymhorau.jpg

Beth yw dy hoff dymor di? Mae’n dewis anodd, dydi?! Mae bob tymor mor wahanol, o wres yr haf i ddathliadau’r gaeaf, gyda byd natur hefyd yn newid yn gyson. Nid dim ond y byd o’n cwmpas ni sy’n newid gyda’r tymhorau - rydym ni, hefyd, yn newid.

Wyt ti erioed wedi sylwi dy fod yn teimlo’n reit araf deg yn y gaeaf, gydag ysfa andwyol i swatio adref rhag y byd? Ac yn ystod tymhorau tywyll, rwyt ti’n dueddol o gysgu’n hwyrach a phan fo’r haul yn codi’n gynnar, rwyt ti hefyd yn codi’n gynt? Dy reddf naturiol di sy’n galw. Wedi’r cyfan, mae anifeiliaid o bob lliw yn newid gyda’r tymhorau - o adar sy’n ymfudo i gathod anwes sy’n cysgu drwy ddyddiau hir yr haf.

Y gwirionedd yw, mae’n annhebygol iawn y byddwn ni’n gallu ymroi’n llawn i’r syniad o symud gyda’r tymhorau. Wedi’r cyfan, dydi troi fyny i’w gwaith yn hwyr yn y gaeaf gan dy fod yn dilyn cyfarwyddiadau’r haul ddim yn esgus gwych... Ond, tybed gallwn ni ganolbwyntio ar y pethau bychain bob dydd?

 

1.    Dilynwch yr haul drwy'r dydd

Os wyt ti’n eistedd mewn un man penodol drwy’r dydd er mwyn gweithio, byddi di’n siŵr o fod wedi laru. Ond mae un peth sy’n gwneud byd o les, sef golau dydd. Tra bod cymryd saib bob hyn a hyn er mwyn mynd allan am chwa o awyr iach yn syniad ardderchog, does dim rhaid i ti stopio’r llesiant yn fanna! Cer a dy waith er mwyn eistedd yn yr haul, neu yn yr ystafell fwyaf golau ar yr adeg honno. Mae hyn fel arfer yn golygu symud o gwmpas yn ystod y dydd, ond byddi di’n siŵr o deimlo’n buddion ar ôl y diwrnod cyntaf. Pwy a ŵyr, efallai y byddi di yn fwy cynhyrchiol, hyd yn oed?

2.    Bwyta gyda’r tymhorau

Mae gan bob tymor ei lysiau ei hun, a phan fyddwch chi’n bwyta’r bwydydd cywir ar yr adeg gywir, mae popeth i’w weld yn gwneud synnwyr. Er enghraifft, wyt ti erioed wedi mwynhau mefus yn ei dymor, sef o fis Fehefin i fis Gorffennaf, a sylwi ar ba mor felys yw ei flas? Mae’r mefus yn tyfu’n naturiol ar yr adeg yma, ac mae’n rhoi blas tra gwahanol i fefus sy’n cael ei dyfu mewn amgylchiadau artiffisial ar adegau gwahanol o’r flwyddyn. 

Bowl of Fruits
Reading with Coffee

3.    Gwrando ar dy gorff

Wyt ti’n teimlo dy hun yn arafu yn y prynhawn, yn arbennig yn yr haf? Gwranda ar dy gorff, trefna fore prysur o waith a cadwa’r tasgau mwy ymlaciol ar gyfer y prynhawn – os mai dyma mae dy gorff yn gofyn amdani! Weithiau, mae modd rhagweld sut y byddi di’n teimlo o flaen llaw, yn arbennig os oes gen ti gylch mislif cyson. Os felly, ceisia osgoi diwrnodau prysur ar y diwrnodau y byddi di’n rhagweld diwrnod diflas, neu os dydi hynny ddim yn bosib cadwa’r cyfres deledu yna o ti am wylio ar gyfer y diwrnodau ble nad oes hwyliau da arnat!
 

bottom of page