top of page

Cynhadledd Genedlaethol #FelMerch 2025:

Ysbrydoliaeth a Chydraddoldeb trwy Chwaraeon

gan Begw Elain

BEGW1.jpeg

Eleni, cynhalwyd y gynhadledd #FelMerch ar y 13eg o Dachwedd a gefais gyfle anhygoel i gymryd rhan mewn panel yn trafod ysbrydoliaeth a chyfleoedd cydraddoldeb gyda merched ifanc, diwrnod a fydd yn aros gyda mi am amser hir. Ar ôl mynychu’r gynhadledd gyntaf yn 2022, roedd yn bleser mawr dychwelyd eleni fel panelwraig yn ogystal ag aelod o’r gynulleidfa, gan rannu fy mhrofiadau a dysgu o straeon merched eraill yn y maes chwaraeon.

Dwi'n cofio cwrdd â Sophie Davies, Swyddog Uwch Marchnata CPD Abertawe, yn 2022, a’i brwdfrydedd a’i hymrwymiad i’w gwaith. Fe wnaeth y cyfarfod ysbrydoli fi i greu ffrindiau newydd gyda merched oedd â diddordebau tebyg ac i barhau gyda fy rôl. Yn ogystal, roedd hi’n wych gallu teithio i Gaerdydd gyda fy ffrind a chyd-fyfyriwr Lili Jones.

 

Cyn y panel, cefais gyfle i fynychu gweithdai ymarferol gan arbenigwyr mewn amrywiaeth o feysydd. Roedd gweithdai Calisthenics gan Dina, Deall Cylch Misol gan Morgan Rogers o’r FAW, bocsio gan Rosie Eccles, anafiadau chwaraeon gan Steff  a  Eloise o Brifysgol Bangor, a maeth gan Aisling Pigott yn cynnig cyfleoedd i ddysgu sgiliau ymarferol a theori gan arbenigwyr. Yn ogystal, roedd modd rwydweithio gyda sefydliadau chwaraeon cenedlaethol fel FAW, WRU, Cardiff Met, Welsh Triathlon Cymru, Criced Cymru, Beicio Cymru, Cardiff Youth Service a Glanmorgan Cricket. Mae cysylltiadau fel hyn yn hanfodol i ferched ifanc sy’n edrych i ddatblygu eu diddordebau a’u gyrfaoedd yn y maes chwaraeon.

Yn y prynhawn, roedd hi’n amser i mi gamu ar y llwyfan, ac roedd yn brofiad arbennig gallu rhannu fy mhrofiadau gyda’r gynulleidfa ochr yn ochr â Ela Letton-Jones, Rosie Eccles, Tahirah Ali a Caryl Thomas. Mae’n wych gallu clywed am brofiadau pawb, rhannu syniadau a rhyngweithio’n uniongyrchol, gan wneud y digwyddiad yn fwy personol ac ysbrydoledig i bawb.

 

BEGW2_edited.jpg
BEGW4.jpeg

Dechreuodd y diwrnod gyda sgwrs arbennig gan Rhian Wilkinson, prif hyfforddwraig Tîm Pêl-droed Cymru, a rhannodd ei phrofiad ysbrydoledig yn Ewros 2025. Cyn symud ymlaen i’r panel, siaradwyr fel Lili Jones, Mia Lloyd a Catrin Asbrey wnaethant rannu safbwyntiau gwerthfawr wrth drafod effaith y gystadleuaeth a phwysigrwydd grymuso merched drwy chwaraeon. Mae profiadau’r siaradwyr hyn yn dangos sut y gall chwaraeon gynnig cyfleoedd unigryw, annog hyder a datblygu sgiliau allweddol i ferched ifanc ledled Cymru.

Mae Cynhadledd Genedlaethol #FelMerch 2025 yn dod â dros 250 o fenywod ifanc o bob cwr o Gymru at ei gilydd i gael eu hysbrydoli, cefnogi a’u grymuso trwy chwaraeon. Fel digwyddiad rhad ac am ddim, mae’n rhan o brosiect etifeddiaeth Llywodraeth Cymru i ddathlu llwyddiant tîm pêl-droed menywod Cymru yn Euro 2025.

Yn y pen draw, mae’r digwyddiad hwn yn ein hatgoffa o bŵer chwaraeon i rymuso merched a’r profiadau cyfoethog sydd gan ferched yng Nghymru. Mae’n gyfle i ferched ifanc ddysgu, cael eu hysgogi a gwneud cysylltiadau newydd, ac mae llongyfarchiadau mawr i’r holl drefnwyr am greu digwyddiad cofiadwy a bythgofiadwy.

 

bottom of page