top of page
Cyllideb Hwyl – Oes fath beth?!

Tybed ydi dy sefyllfa ariannol wedi atgyfodi wedi’r ŵyl eto? Gyda’r holl bwysau i wario’n wirion, mae’n cymryd ychydig o amser i bethau ddychwelyd i riw fath o normal, dydi? Does dim byd yn bod gyda hynny, ond efallai dy fod yn teimlo mai rŵan ydi’r cyfle gorau i sortio dy gyllideb er mwyn osgoi’r crefu am ddiwrnod talu mis Ionawr a Chwefror eto'r flwyddyn nesaf!
Mae eistedd i lawr a rhoi dy gyllideb mewn taenlen yn hynod o ddiflas - does dim pwynt gwadu hynny! Ond, wedi dweud hynny, mae yna ffyrdd o wneud cynilo arian yn hwyl... neu o leia’ ffyrdd o arbed arian yn awtomatig heb i ti hyd yn oed sylweddoli.
Her y Bunt
Dyma’r her symlaf, sydd yn gallu cael ei osod i fyny’n awtomatig ac ar ddiwedd yr her fyddi di’n gwybod yn union faint y byddi di wedi ei gasglu. Yr her ydi safio punt bob diwrnod am flwyddyn! Er mwyn gwneud yr her yn haws fyth, mae modd gosod gorchymyn i dy fanc i roi punt mewn cyfrif cynilo bob diwrnod yn awtomatig fel nad wyt ti’n gorfod cofio symud arian bob diwrnod (sydd yn gallu bod yn boen!). Ar ddiwedd y flwyddyn, y gobaith yw y bydd £365 yn aros amdanat ti, wedi ei safio’n dwt heb fath o ymdrech.
Ocê, dydi £365 ddim yn mynd i newid dy fyd yn llwyr, ond fe all sortio trît bach neis i ti dy hun, boed hynny’n trip siopa da neu’n wyliau bach, neu hyd yn oed cael ei ychwanegu ar gyfer pot o arian argyfwng. Rhaid edrych ar ôl bob ceiniog!

%20copy.jpg)
Her y Geiniog
Sôn am geiniogau, mae’r her nesaf yn dilyn yr un syniad â’r uchod ond yn hytrach nag arbed punt y diwrnod, fyddi di’n arbed un geiniog y diwrnod am flwyddyn - ac un geiniog yn ychwanegol bob diwrnod. Hynny yw, nid rhoi ceiniog mewn cyfrif cynilo bob diwrnod (neu dim ond £3.65 fydd gen ti ar ddiwedd blwyddyn) ond yn hytrach ychwanegu ceiniog arall bob diwrnod. Er enghraifft, ar y diwrnod cyntaf, byddi di’n arbed un geiniog ac ar yr ail ddiwrnod byddi di’n arbed dwy geiniog, tair ceiniog ar y trydydd diwrnod a pharhau felly am flwyddyn. Ar y diwrnod olaf, byddi di’n rhoi £3.65 i mewn i’r cyfrif ac ar ddiwedd y cyfnod byddi di wedi arbed dros £660!
Mae’r syniad yma ychydig yn fwy heriol, gan fod cychwyn y daith yn hawdd iawn - wedi’r cyfan, pwy sydd yn mynd i fethu deg ceiniog yn diflannu o’r cyfrif arferol?! Ond, ymhen ychydig fisoedd bydd cwpwl o bunnoedd yn diflannu i’r cyfrif cynilo a’r pwysau yn cynyddu. Cofia, does dim byd yn bod gyda newid cyfnod her, i lawr o flwyddyn i chwe mis, efallai. Dylai her fod yn hwyl!
Her y Dillad
Wyt ti’n teimlo dy hun yn gwario gormod ar ddillad, er bod dy gwpwrdd ddillad di’n gorlifo? Dyma’r her i ti! Yn syml... peidio gwario ar ddillad! Mae gwneud yr her yma mewn grŵp yn llawer haws, gan fod rhywun yna i dy ddal i gyfrif, ond mae modd gwneud ar ben dy hun, hefyd.
Dewisia gyfnod o amser i ti dy hun i beidio gwario ar ddillad. Boed hynny’n wythnos, mis neu flwyddyn, mae dewis peidio gwario ar ddillad dwyt ti ddim wir eu hangen yn golygu dy fod yn gallu gwario’r arian mewn ffordd fwy doeth.
Am her ychwanegol, os wyt ti’n gweld dilledyn rwyt ti’n ei hoffi ac awydd ei brynu, rho arian sy’n cyfateb i bris i ddilledyn mewn cyfrif cynilo. Nid yn unig y byddi di’n arbed y blaned, byddi di hefyd yn gallu rhoi’r arian tuag at rywbeth mwy cyffrous. Gwyliau yn Sbaen, rhywun?!

bottom of page
